Aelod
Cabinet: Cynghorydd Dilwyn Morgan
I ystyried diweddariad ar ddatblygiadau newydd yng Ngwynedd i gefnogi
unigolion â dementia
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng Dilwyn
Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygodd mai prif bwrpas yr
adroddiad oedd amlinellu’r datblygiadau newydd sydd yn Ngwynedd i gefnogi
unigolion gyda Dementia.
Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion
mai gweledigaeth y Sir yw cefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia er mwyn eu
galluogi i fyw gartref mor annibynnol â chyn hired ag sydd bosib gyda’r angen i
sicrhau’r ddarpariaeth gofal a chefnogaeth gywir, amserol, yn y lle iawn i
gwrdd ag amrediad o anghenion. Eglurodd
bod swydd Cydlynydd Dementia Gwynedd wedi’i chreu yn ddiweddar er mwyn arwain
ar y maes o fewn y Cyngor drwy gydweithio ag unigolion sydd wedi’u heffeithio â
dementia, y Bwrdd Iechyd a’r Trydydd Sector. Bydd y cydlynydd yn gyfrifol am
greu gweledigaeth a strategaeth Dementia Gwynedd i ymateb i’r llwybr safonau
gofal. Swydd dros dro yw hon wedi’i hariannu o’r Gronfa Integredig Rhanbarthol
(RIF).
Cyfeiriwyd at y camau nesaf gan adrodd bod y
Gwasanaeth yn ddibynnol ar arian dros dro i gefnogi nifer fawr o ddatblygiadau
yn y ddarpariaeth gofal i unigolion â dementia. Yr her fydd sicrhau arian hir
dymor i sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad pellach y gwasanaethau hyn. Bydd
gwaith yn cael ei wneud i ragweld effaith y galw ar gyllidebau dros y
blynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o ran ail
flaenoriaethu adnoddau os na fydd cyllideb ychwanegol ar gael.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Croesawyd datblygiad Cartref Gofal Penyberth, Penrhos,
cyfeiriad mae’r Cyngor yn dyheu i’w ddilyn a sydd yn llywio cyfeiriad gofal i’r
dyfodol a gweddnewid y gwasanaeth
·
Bod y Gwasanaeth Dementia Actif Gwynedd yn gwneud
gwaith arbennig iawn sydd wedi ei gydnabod ar draws Cymru – yn llongyfarch y
tim
·
Bod cynnwys y teulu mewn asesiadau gofal yn hanfodol i
gefnogaeth dementia
·
Bod rhaid cadw pobl yn eu cymunedau
Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan
aelodau, nodwyd:-
·
Mewn ymateb i sylw nad oes darpariaeth nyrsio arbenigol
ar gael i unigolion sydd yn byw yn ardaloedd Llyn a Meirionnydd a’r awgrym y
dylid mynnu darpariaeth ddigonol drwy ddylanwad, nodwyd nad ydyw wedi bod yn
bosib i Awdurdodau Lleol ddarparu gofal nyrsio ond bod y Cyngor bellach yn
ymyrryd mwy yn y farchnad fel mae bylchau mewn gwasanaethau yn ymddangos yn yr
ardaloedd. Nodwyd bod modd datrys rhai elfennau o’r ddarpariaeth ond nad oes
gorfodaeth ar y Bwrdd Iechyd na cwmniau annibynnol i ddarparu Gwasanaeth gofal
nyrsio arbenigol dementia ym mhob rhan o’r Sir – gellid er hyn annog a
dylanwadu ar benderfyniadau busnes. Er
yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd yn cael ei wneud rhaid ymateb i’r angen ac felly
mae’r Cyngor yn ystyried effeithlonrwydd darparu gwasanaeth yn hytrach na
phrynu gwasanaeth (mewn rhai sefyllfaoedd). Nodwyd bod angen sicrhau
darpariaeth hafal ar draws y Sir - bydd posibiliadau yn cael eu hystyried ar
safle Penyberth i’r dyfodol.
·
Bod Llys Cadfan Tywyn yn cynnig 33 o welyau gyda 15 yn
welyau dementia arbenigol - er hynny gwelir rhai unigolion yn cael eu symud o’u
cynefin (mor bell â Phwllheli neu Fangor) i dderbyn gofal addas. Nodwyd bod staffio ym maes
gofal yn heriol ac felly’r defnydd gorau o staff yn cael ei wneud i gynnal
gwasaneth yn y modd mwyaf effeithiol. Derbyniwyd bod symud allan o gynefin yn
creu pryder ac mai aros yn y gymuned yw’r nod. Esboniwyd mai gofal preswyl
dementia sydd yn cael ei ddarparu yn Llys Cadfan. Os ydyw anghenion unigolion
yn dwyshau ac angen gofal nyrsio arbenigol, yna yn anffodus nid oes darpariaeth
addas ar gael yn lleol.
·
Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd i gau Ward Dyfi
yn Ysbyty Tywyn dros dro oherwydd prinder staff, a defnyddio gwelyau yn Ysbyty
Dolgellau i ddiogelu cleifion, nodwyd nad yw’r sefyllfa yn dderbyniol. Amlygwyd
pryder y byddai Llys Cadfan yn colli cefnogaeth ac arbenigedd gan yr Ysbyty,
ond cadarnhawyd mai nyrsys cymunedol sydd yn cefnogi a gofalu am drigolion Llys
Cadfan a hynny yn unol â’r angen. Gwerthfawrogwyd yr ymateb effeithiol a gafwyd
gan y gwasanaeth i’r penderfyniad o gau ward Dyfi a hynny mewn amser byr iawn.
· Bod y gwasanaeth yn
ymwybodol o’r prinder doctoriaid yn ardal Tywyn a bod trafodaethau wedi eu
cynnal gyda’r Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod Meddyg o Ddolgellau yn gofalu am
gleifion ysbyty Tywyn ond nad oes trefniant yn bodoli i ddoctoriaid o
Ddolgellau gefnogi preswylwyr yn y cartrefi. Ategwyd bod angen cynnal
trafodaethau pellach gyda’r Bwrdd Iechyd ynglŷn â datblygu a darparu
gwasanaethau yn yr ardal i’r dyfodol.
·
Bod arian ar gyfer y cynllun gweithwyr cefnogol
dementia yn cael ei gyflwyno drwy raglenni ariannu penodol - rhai ohonynt yn
rhaniadau rhanbarthol lle bydd bidiau yn cael eu cyflwyno am gyfran o’r arian.
Eglurwyd bod nifer o elfennau’r gwasanaeth yn ddibynnol ar y ffynonellau
ariannol yma bellach ac er bod Dementia yn wasanaeth creiddiol nid oes cyllideb
sefydlog barhaol ar ei gyfer. Mae hyn yn
ddibynnol ar y system genedlaethol.
Mewn ymateb i sylw bod arian dros dro yn arwain at benodiadau dros dro a bod
hyn yn rheswm dros rai yn dewis peidio ymgeisio am swyddi gan nad ydynt yn
barhaol, derbyniwyd bod hyn yn broblem ond bod brwdfrydedd ymysg rhaid sydd
eisiau gweithio yn y maes penodol yma (er nad yn wir am bob maes gwaith).
Ategwyd bod rhaid gweithio yn strategol o gofio bodnifer pobl ifanc yn lleihau
tra bod nifer dros 85 yn cynyddu yn sylweddol. Rhaid felly ymateb drwy ystyried
gwaith ataliol, defnyddio technoleg effeithiol a hybu taliadau uniongyrchol yn
ein Cymunedau.
·
O ran denu a chadw staff yn y maes gofal a’r angen i
ddatblygiad Penyberth fod yn llwyddiannus, nodwyd bod
cynllunio’r gweithlu yn rhan elfennol o’r datblygiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Dogfennau ategol: