Agenda item

I ystyried cais Mrs A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mrs A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Roedd trwydded yrru'r ymgeisydd yn drwydded lân.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn a’i hamgylchiadau personol. Nododd ei bod yn mynd drwy gyfnod anodd ac mai un digwyddiad domestig arweiniodd at gollfarnau Mawrth a Mai 2014. Ar y pryd roedd hefyd yn dioddef gyda phroblemau meddygol ac wedi’r digwyddiad, derbyniodd gefnogaeth a thriniaeth i wella. Cyfeiriodd at ei gwaith fel goruchwyliwr teithwyr trwyddedig sydd â chyfrifoldeb o gynorthwyo gyrwyr tacsi sydd yn cludo teithwyr / plant bregus ar gytundebau ysgol Adran Addysg Cyngor Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mawrth 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o yrru Cerbyd Modur gyda gormodedd o alcohol, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A.5(1)(A. Derbyniodd ddirwy o £110, costau o £85 a gwaharddiad gyrru o 17 mis. Cyflawnwyd y drosedd 27-02-2014

 

Ym Mai 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Guro, yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 A.39. Derbyniodd ddirwy o £55, costau o £200 a Gorchymyn Atal - Diogelu rhag aflonyddu ar Gollfarn hyd nes y byddai gorchymyn pellach. Cyflawnwyd y drosedd 27-02-2014

 

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.

 

Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am  3 blynedd o leiaf.

 

 

CASGLIADAU

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at gollfarn 2014 ynghyd ag argymhelliad y swyddog i ganiatáu y cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2014 yn drosedd o drais i bwrpas y Polisi a bod digon o amser wedi mynd heibio i’r trothwy tair blynedd ers i’r ymgeisydd gael ei dyfarnu'n euog. Ystyriwyd esboniadau’r ymgeisydd a’r rhesymau dros ei hymddygiad yn 2014 gan dderbyn ei bod eisiau rhoi'r mater tu cefn iddi a symud ymlaen. Diolchwyd i’r ymgeisydd am fod yn agored a gonest am y digwyddiad yn 2014.

 

Wedi ystyried natur y drosedd, y ddedfryd a roddwyd a’r ffaith nad oedd unrhyw hanes pellach o droseddu, nid oedd rheswm dros beidio dilyn polisi’r awdurdod yn yr achos yma a chaniatáu’r cais.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.