Cariad
Gelato Ltd, The Kiosk, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LP
I ystyried y
cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Caniatáu y cais
yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Oriau Gwerthu
alcohol ar
ôl 17:30 (i'w werthu
gyda pwdinau / hufen ia)
Dim gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo – i'w gyfyngu i'r
ardal decin
yn union o flaen cownter gweini’r Kiosk
yn unig
Dim alcohol i'w
yfed ar fyrddau ar y palmant
Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi yn
Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.
Cofnod:
CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – Cariad Gelato Ltd, The Kiosk, Stryd Fawr,
Porthmadog, Gwynedd LL49 9LP
Eraill a wahoddwyd:
·
Elizabeth Shone – Cariad
Gelato
·
Olivia O’Neill - Cariad
Gelato
·
David W Lindsay – Cariad Gelato
·
Cyng Gwilym Jones – Aelod Lleol
·
Elizabeth Williams (SwyddogTrwyddedu,
Heddlu Gogledd Cymru)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer kiosg hufen ia gyda rhywfaint o fyrddau allanol. Eglurwyd
bod Cariad Gelato yn fusnes teuluol sydd yn cynhyrchu a gwerthu hufen ia wedi
ei wneud mewn modd Eidalaidd. Roedd yr ymgeisydd yn gofyn am ganiatáu
gwerthiant alcohol ochr yn ochr ai fusnes creiddiol, gan alluogi cwsmeriaid i
fwynhau diod alcohol oddi fewn i ardal eistedd allanol benodol wedi ei ddiffinio;
neu i ganiatáu cwsmeriaid i brynu alcohol ar gyfer ei yfed i ffwrdd oddi ar yr
eiddo.
Gofynnwyd am yr
hawl i werthu alcohol o 12 y prynhawn hyd at 21:00 bob dydd - yr eiddo yn
agored i werthu hufen ia rhwng 10 a 21:00 bob dydd.
Cyfeiriwyd at
oriau arfaethedig safonol ar gyfer oriau agor ac oriau gwerthiant alcohol ar ac
oddi ar yr eiddo.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan yr Aelod Lleol a Chyngor Tref
Porthmadog oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o
Ddiogelwch y Cyhoedd a Diogelu plant rhag niwed. Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn
cyfarfod gyda’r ymgeisydd, wedi cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth
i gyfiawnhau gwrthwynebiad i’r cais. Roeddynt yn fodlon fod sicrwydd wedi ei
roi fod ethos y busnes yn parhau i ganolbwyntio ar gynhyrchu a gwerthu hufen ia
Eidalaidd i deuluoedd, yn hytrach na phwyslais ar werthu alcohol.
Cynhaliwyd
cyfarfod gyda’r ymgeiysdd, yr Heddlu a’r Swyddog
Trwyddedu ar y 7fed o Fawrth 2023 i geisio cyfarch pryderon yr Aelod Lleol a’r
Cyngor Tref. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn barod i gyfaddawdu gan gytuno,
·
I werthu alcohol ar ôl 17:30 yn unig,
gan mai dyma’r
cyfnod mae masnachu i deuluoedd
a phlant yn dod i ben
·
Alcohol i’w werthu gyda
phwdinau / hufen ia yn unig
ar ôl 17:30
·
Dim gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo
·
Gweini alcohol i’w
gyfyngu i’r ardal ‘decking’ yn union o flaen cownter gweini’r
Kiosg yn unig. Ni fydd alcohol yn cael ei
yfed ar fyrddau
ar y palmant
Roedd yr Adran Trwyddedu yn argymell caniatau’r
cais yn
unol a’r Deddf Drwyddedu 2003, a’r cytundeb cyfaddawdu a dderbyniwyd gan yr
ymgeisydd
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd:
·
Bod manylion yr adroddiad yn gywir
·
Bod dau gais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
(TENS) wedi eu gwneud ar gyfer Sul y Mamau a Phenwythnos y Pasg lle cynhaliwyd
digwyddiadau arbennig i ddathlu. Ni chafwyd unrhyw broblemau ac roedd y ddau
ddigwyddiad yn llwyddiannus
·
Nad oedd bwriad colli ffocws ar brif amcan y busnes
o werthu hufen ia
·
Bod dymuniad i drefnu digwyddiadau arbennig yn
cynnig pwdinau a chrempogau
·
Nad oedd bwriad gwerthu alcohol heb fwyd
·
Bod bwriad i ymestyn diwrnod gwaith - gwneud
defnydd o nosweithiau braf yr haf a chynnig gwydr o alcohol i oedolion tra bod
plant yn cael hufen ia
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r math o alcohol fydd yn cael ei werthu, nodwyd y byddai
cwrw lleol Mŵs Piws yn cael ei werthu ynghyd a phrosecco a choctels. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â’r oriau agor, nodwyd y byddai hyn yn ddibynnol ar y tywydd a phrysurdeb y
dref.
ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn
bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy
lythyr.
Cyng. Gwilym
Jones (Aelod Lleol)
·
Ei fod yn pryderu am normaleiddio alcohol
·
Ei fod wedi ystyried yn fanwl cynigion y cyfaddawd
·
Ei fod yn barod i dynnu ei wrthwynebiad yn ôl ar yr
amod bydd y sefyllfa yn cael ei monitro gan yr Heddlu a’r Adran Trwyddedu
Elizabeth Williams
(Heddlu Gogledd Cymru)
·
Bod trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r ymgeisydd a
bod yr ymgeisydd wedi ymateb i bob pryder a godwyd
d)
Wrth gloi ei achos, nododd yr ymgeisydd nad oedd
bwriad tarfu ar y gymuned – byddai unrhyw farn neu ymddygiad negyddol yn amharu
ar y busnes. Ystyriwyd fod cefnogaeth y gymuned leol yn bwysig iawn i’r fenter
ac nid oedd eisiau torri’r berthynas dda honno – nid oedd eisiau i unrhyw beth
amharu ar enw da y busnes sydd eisoes wedi sefydlu yn lleol.
Ategodd y Rheolwr
Trwyddedu ei bod yn deall y pryderon a gyflwynwyd o ysytired
bod plant a theuluoedd yn ganolog i lwyddiant y busnes. Atgoffwyd pawb bod y
Ddeddf yn caniatáu i’r drwydded gael ei hadolygu os nad yw’r ymgeisydd yn cadw
at ei air. Cadarnahaodd hefyd nad oedd unrhyw broblemau
wedi eu derbyn yn ystod y ddau ddigwyddiad TENS.
dd) Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr
Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor
ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â
diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob
parti yn bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor
ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth
i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu trwydded fel a
ganlyn:
1.
Oriau agor
Sul-Sadwrn: 10:00 – 21:30
2.
Cyflenwi alcohol i yfed ar yr eiddo
Sul-Sadwrn: 17:30 – 21:00
3.
Alcohol i’w weini gyda phwdinau a hufen iâ wedi eu
prynu o’r eiddo yn unig
4.
Alcohol i’w
weini wrth flaen y siop yn unig lle mae’r ‘decking’
yn unig.
5.
Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn
Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.
Rhesymau
Yng nghyd-destun Atal
Trosedd ac Anhrefn ni chyflwynwyd tystiolaeth o broblemau mewn perthynas â’r
eiddo. Er nad oedd gan yr heddlu dystiolaeth i gyfiawnhau gwrthwynebu’r
cais, bu trafodaethau rhwng yr ymgeisydd
a’r Heddlu a Swyddogion Trwyddedu i drafod pryderon a godwyd ac fel canlyniad
roedd yr ymgeisydd wedi addasu’r cais.
Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus, roedd yr
aelod lleol wedi mynegi pryderon oherwydd bod bwriad i drwyddedu llecyn tu allan i gwrtil yr adeilad
oedd yn agos i gyffordd brysur ar y stryd fawr.
Fel canlyniad roedd yr ymgeisydd wedi addasu’r cais i eithrio’r darn yma
o’r eiddo.
Yng nghyd-destun Atal Niwsans
Cyhoeddus, ni chyflwynwyd tystiolaeth yn gysylltiedig â’r eiddo
Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, roedd yr
Aelod Lleol wedi mynegi pryderon y byddau caniatáu
gwerthu alcohol yn annog a normaleiddio yfed alcohol ar eiddo sydd ddim yn
addas ar gyfer y bwriad. Hefyd roedd yr
eiddo yn agos iawn at barc chwarae plant. Roedd yr ymgeisydd wedi addasu’r cais
mewn ymateb i’r pryderon hyn gan gyfyngu gwerthiant alcohol o ran amser, ei
gyfyngu i’r eiddo ynunig, addasu’r lleoliad a
chyfyngu ei weini i fod gyda phwdinau/hufen iâ.
Ar nodyn cyffredinol nodwyd fod yr Ymgeisydd eisoes wedi
defnyddio Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro ar ddau achlysur ac nad oedd unrhyw
dystiolaeth fod y digwyddiadau hynny wedi achosi unrhyw broblemau o safbwynt yr
egwyddorion trwyddedu.
Roedd yr Is-bwyllgor yn falch o weld y cyd-weithredu gan bawb yn
yr achos yma a bod yr ymgeisydd wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd ac wedi
bod yn fodlon cyfaddawdu. O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn
gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd
bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn
erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: