Aelodau
Cabinet: Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Cynghorydd Dilwyn Morgan
I ystyried diweddariad ar y cynnydd.
Penderfyniad:
Cofnod:
Amlygodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr adroddiad yn
un ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Oedolion a’r Gwasanaeth Plant i sicrhau bod y
cynllun Awtistiaeth yn cael ei ymgorffori yn llyfn i’r ddau wasanaeth. Nododd,
fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (sydd yn gyfrifol am gasglu
gwybodaeth i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i bobl awtistig a’u
teuluoedd neu ofalwyr), bod y Cynllun yn cael sylw blaenllaw.
Ategodd y Cyng Elin Walker Jones (Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc) bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud gan Cyngor Gwynedd ers
i’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ddod i rym yn Medi
2021. Cyfeiriwyd at y bid llwyddiannus a wnaed fyddai’n golygu y gellid cynyddu
adnoddau staffio ar gyfer datblygu gwasanaethau Awtistiaeth ar draws y Sir,
datblygu modiwlau E-ddysgu i godi ymwybyddiaeth staff Awdurdodau Lleol, y Bwrdd
Iechyd a’r Heddlu a chyfeirio at y Tim Awtistiaeth Cenedlaethol sydd a rôl
gyffredinol yn natblygiad gwasanaethau ledled Cymru ac, wrth gyfarfod yn
chwarterol, yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a diweddariadau perthnasol.
Nodwyd bod blaenoriaethau’r 6 mis nesaf yn cynnwys
·
Cynllun sefydlu ar gyfer y tîm newydd
a lansiad y gwasanaeth newydd i godi
ymwybyddiaeth.
·
Sefydlu prosesau a threfniadau clir i'r tîm weithio
ar draws gwasanaethau plant ac
oedolion. Cysylltu â fforymau presennol.
·
Cryfhau ymhellach y cysylltiadau gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Rhanbarthol, mynychu eu digwyddiadau
gwybodaeth lleol a chwilio am gyfleoedd i weithio ochr
yn ochr â’u
gweithiwr cyswllt yng Ngwynedd
·
Ymgysylltu ag unigolion awtistig a’u teuluoedd
yn ogystal â phartneriaid yn lleol er mwyn symud
tuag at gyd-gynhyrchu gwasanaethau lleol
·
Sefydlu perthynas waith gyda’r gwasanaeth
niwroddatblygiadol a chynnig
cymorth yn ystod camau cynnar
asesu a diagnosis.
·
Cwblhau'r diweddariad gweithredu fel rhan o'r asesiad
gwaelodlin ar gyfer Gogledd Cymru erbyn diwedd mis Mai.
·
Adolygu cynllun awtistiaeth Gwynedd yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys
yn yr asesiad
gwaelodlin.
Diolchwyd am y cyflwyniad
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
· Canmol y gwaith y mae’r gwasanaeth yn ei wneud
· Croesawu penodiad Cydlynydd / Swyddog Prosiect ar gyfer datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth
· Bod angen sicrhau penodiadau Cymraeg fel nad yw plant o aelwyd Cymraeg o
dan anfantais
· Bod angen gweld newid
a sicrhau nad cynllun papur yn
unig sydd yma
· Bod y Bws Awtistiaeth yn wych (yn cynnig
hyfforddiant arloesol ac ymarferol sydd wedi'i ddatblygu i roi profiad
i bobl nad
ydynt yn awtistig o'r anawsterau
sy’n wynebu pobl ar y sbectrwm awtistiaeth) ac y dylid annog y bws teithiol
yma
· Bod y sbectrwm yn eang
a'i bod yn bwysig adnabod pwy sydd wir
angen cefnogaeth
· Bod angen sicrhau cefnogaeth briodol i oedolion a phlant wrth iddynt fynd
drwy’r broses asesu
· Pryder bod plant yn cael eu gwrthod
gan y gwasanaeth asesu gan nad
ydynt yn cwrdd â’r meini
prawf - lle felly fydd y plant yma yn cael sylw?
Nodwyd bod angen symleiddio’r gwasanaeth.
· Bod cymariaethau rhwng Awtistiaeth a Dementia ac y dylid
annog adnabod cyfleoedd i gydweithio
rhwng y ddau dîm. Awgrymwyd sefydlu cynllun sydd yn ymdebygu
i Ddementia Cyfeillgar
· Bod angen mewnbwn gan
yr Adran Addysg a’r Bwrdd
Iechyd i’r gwasanaeth awtistiaeth. Awgrymwyd cynnal trafodaeth a / neu sefydlu grŵp tasg a gorffen i rannu gwybodaeth.
Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau gan
aelodau, nodwyd:-
·
Yn ôl gwaith casglu
data rhanbarthol a gwblhawyd
gan Conwy a Sir Ddinbych (oedd yn cynnwys
ffigyrau Gwynedd a Môn ac yn
seiliedig ar y boblogaeth),
roedd oddeutu 900 o oedolion a rhwng 300 a 350 o blant yn cael
cymorth gan y Sir. Ategwyd, er nad oedd y wybodaeth yn ddibynadwy, bod cynnydd mewn cyfeiriadau
a nifer ar restr aros derbyn asesiad.
Amlygodd yr Aelod Cabinet ei bod yn rhannu pryderon
y Cynghorwyr am y rhestrau aros a’i bwriad
o ysgrifennu at y Gwasanaeth Iechyd yn amlygu’r pryderon,
fyddai’n cynnwys defnydd o’r Gymraeg.
·
Mewn ymateb i sylw
bod nifer yn talu yn breifat
am asesiad oherwydd rhestr aros gyda’r
drefn bresennol (gwnaed awgrym nad
yw cael asesiad
preifat yn rhoi mynediad at wasanaethau yn gynt) a sut gellid
mynd ati i ddatrys y rhestr
aros, nodwyd bod oddeutu 200 ar y rhestr aros plant presennol, Ategwyd na fyddai’r gwasanaeth newydd yn cyffwrdd
â hyn, ond bod y cynllun gwaith yn debygol o greu
rhwydwaith weithio i ganfod gwybodaeth
a chreu cysylltiadau. Nodwyd hefyd y byddai angen sefydlu
perthynas gyda’r gwasanaeth niwroddatblygiadol a chynnig cymorth yn ystod camau
cynnar asesu a diagnosis.
·
Mewn ymateb i sylw
bod angen sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu cynnal
yng nghefn gwlad, amlygwyd bod adnoddau ychwanegol ar gael i adnabod
cyfloedd newydd i ddarparu cefnogaeth
ataliol a chodi ymwybyddiaeth yn lleol. Nodwyd bod Derwen eisoes yn
cynnig dyddiadau gwybodaeth i deuluoedd
ac yn cydweithio gyda Byw’n Iach
i gynnal hyfforddiant. Bydd y cynllun yn canolbwyntio
ar sicrhau gwell cyfathrebu gyda theuluoedd a chynnal sesiynau rheolaidd (gan sicrhau digwyddiadau
ar draws y Sir).
·
Yn dilyn sylw diweddar
yn y wasg fod y nifer merched
hŷn sy’n cael diagnosis o awtistiaeth yn cynyddu, nodwyd bod y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi datblygu Cymuned Ymarfer sydd yn
datblygu gwybodaeth a rhoi ffocws penodol
ar y mater yma.
·
Mai nod yr arweinydd fydd cyd-gynhyrchu gyda’r tîm integredig i sicrhau ymgysylltu
a chydweithio da gyda rhieni a gofalwyr gan eu cynnwys
mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu’r berthynas a datblygu cefnogaeth i rieni.
Ategwyd bod Derwen yn cynnal gweithgareddau
a sesiynau gwybodaeth e.e., sesiynau rheoli emosiynau, er yn derbyn yr
angen i wneud
mwy
·
Croesawyd y bwriad i sicrhau
y dylai bob aelod staff sydd yn gweithio’n uniongyrchol
gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ASA,
er mai ar lefel gyffredinol oedd hyn. Pwysleisiwyd bod rhaid sicrhau hyfforddiant
dwys i’r rhai hynny sydd
yn ymdrin ag awtistiaeth yn uniongyrchol. Mewn ymateb nodwyd bod hyfforddiant mandadol yn cael ei
gyflwyno i holl staff y Cyngor (tua 400 wedi cwblhau hyd
yma) sydd yn cael ei
gynnwys fel un rhan o dri lefel
o hyfforddiant ASA. Bydd y rhai hynny sydd
yn ymdrin ag awtistiaeth yn uniongyrchol yn derbyn hyfforddiant ar ddwy lefel uwch.
·
I sicrhau nad oes gwahaniaethau
rhwng anghenion plant ac oedolion, sicrhawyd
mai’r unigolyn sydd yn ganolog
i’r gwasanaeth ac y bydd y ddarpariaeth orau yn cael
ei gynnig – nod y gwasanaeth yw cydweithio
o gwmpas yr unigolyn. Nodwyd bod gwelliant sylweddol i’r unigolyn wedi
derbyn cefnogaeth.
PENDERFYNWYD:
a) Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod
b) Sefydlu
Grŵp Tasg a Gorffen i drafod gweithredu’r Cynllun gyda’r tîm newydd gan
sicrahu cynrychiolaeth o’r Adran Addysg a’r Bwrdd Iechyd
c) Derbyn adroddiad
cynnydd ymhen 6 mis
Dogfennau ategol: