Cyflwyno gwybodaetham
gyfraniad y Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyfreithiol i hybu a hyrwyddo’r
iaith Gymraeg.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol a thynnwyd
sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
- Atgoffwyd bod y Tîm Arweinyddiaeth yn cefnogi Prif Weithredwr y Cyngor.
- Cadarnhawyd
bod meddalwedd Microsoft bellach yn cael ei osod yn ddiofyn ar holl
ddyfeisiau’r Cyngor. Nodwyd bod y niferoedd o ddyfeisiau sydd wedi eu cadw ar
feddalwedd Cymraeg wedi codi i 63% o’i gymharu â 47% y llynedd. Er hyn,
pwysleisiwyd bod gwaith parhaus yn cael ei wneud er mwyn annog staff i
ddefnyddio’r feddalwedd Gymraeg ar eu dyfeisiau a’u cefnogi i feithrin hyder yn
eu sgiliau cyfrifiadurol Cymraeg.
- Adroddwyd bod Fforwm Iaith newydd yn cael ei
sefydlu gyda chyfarfod cyntaf y Fforwm yn cael ei gynnal ym mis Mehefin.
Manylwyd bod Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cefnogaeth Corfforaethol a’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol yn aelodau o’r fforwm.
- Ystyriwyd
mai un o brif rolau’r Tîm Arweinyddiaeth
yw dylanwadu ar y defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau allanol. Nodiwyd bod y
Swyddfa Gartref yn recriwtio siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd oherwydd bu i’r
Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Statudol a Phennaeth yr Adran Blant, wrthod
croesawu arolygwyr Cyfiawnder Ieuenctid di-gymraeg. Ymhelaethwyd bod swyddogion
Cyngor Sir Ynys Môn hefyd wedi gwneud safiad mewn ymgais i gael arolygwyr sy’n
gallu’r Gymraeg. Ymhellach, nodwyd bod nifer o Gynghorau Sir eraill ar draws y
wlad wedi gwneud safiad o’r fath gan nodi na fyddent yn derbyn unrhyw arolygiad
nes bydd y Swyddfa Gartref wedi llwyddo i recriwtio arolygwyr sy’n gallu’r
Gymraeg.
- Cydnabuwyd
bod trafferthion recriwtio wedi bod yn heriol dros y flwyddyn ddiwethaf a bod y
gwasanaeth cyfreithiol wedi bod yn dibynnu ar wasanaeth locwm i ddarparu
gwasanaethau mewn sawl maes. Cydnabuwyd bod hyn wedi cael peth effaith ar
ddefnydd y Gymraeg o fewn y gwasanaeth gan ei fod yn eithriad bod cyfreithwyr
locwm yn medru’r Gymraeg. Pwysleisiwyd bod y sefyllfa recriwtio yn gwella gan
fod y gwasanaeth bellach yn gallu penodi mwy o staff heb gyfaddawdu ar ofynion ieithyddol Cymraeg
oherwydd bod yr unigolion sydd wedi eu penodi eisoes yn cyfarch gofynion
ieithyddol y Cyngor.
- Eglurwyd
bod Gwynedd yn arwain ar sawl prif bartneriaethau rhanbarthol gan gynnwys GwE,
Bwrdd Uchelgais a Chydbwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd. Mae gan y gwasanaeth cyfreithiol rôl
allweddol yn eu cynnal. Credir bod presenoldeb swyddogion Gwynedd o fewn y
partneriaethau yma yn sicrhau defnydd y Gymraeg mewn meysydd technegol yn
naturiol. Adlewyrchir hyn yng ngwaith y partneriaethau.
- Trafodwyd
bod Cyngor Gwynedd ar fin prynu meddalwedd newydd ar y cyd gyda chynghorau
dwyreiniol Gogledd Cymru. Cadarnhawyd
bod gallu’r system i addasu a chofnodi gwybodaeth drwy’r Gymraeg a
Saesneg yn ofyn craidd i dderbyn y feddalwedd, yn unol â gofynion ieithyddol
Cyngor Gwynedd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
-
Trafodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth
gydweithio gydag asiantaethau eraill pan nad oes cyfeithu
ar y pryd ar gael mewn cyfarfodydd neu
ddogfennaeth. Ystyriwyd os oes polisi mewn grym mewn sefyllfaoedd o’r fath er
mwyn sicrhau bod swyddogion Gwynedd i gyd yn dilyn yr un protocol.
- Mewn ymateb i’r
ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod proses o gofnodi
cwynion a thrafferthion mewn lle. Cadarnhawyd bod staff yn cael eu hatgoffa o
sut i ymateb i unrhyw sefyllfa o’r fath. Ymhelaethwyd bod y mater hwn wedi cael
ei godi gyda Comisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar ac maent yn awyddus i’r Cyngor
rannu tystiolaethau o enghreifftiau pan maent yn codi. Manylwyd hefyd bod
Llywodraeth Cymru yn awyddus i wybod mwy
am unrhyw gwynion sydd yn codi er mwyn iddynt wybod pa adrannau sydd ddim yn
cydymffurfio â pholisïau iaith.
-
Ystyriwyd a fyddai’n fuddiol i’r Cyngor yrru unrhyw
ddogfennaeth i asiantaethau allanol yn uniaith Gymraeg er mwyn eu gorfodi i
ddefnyddio’r Gymraeg.
- Mewn
ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith mai
polisi’r Cyngor yw i ysgrifennu’n
Gymraeg yn gyntaf gyda chyfieithiad Saesneg oddi tano. Cadarnhawyd bod hyn
hefyd yn wir am gyfarfodydd y Cyngor, sydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg gyda
chyfieithiad Saesneg.
-
Rhoddwyd ystyriaeth i’r gwahaniaeth rhwng cyfathrebu’n
ddwyieithog a chyfathrebu yn Saesneg yn unig, gan ystyried y posibilrwydd bod
rhai unigolion yn anwybyddu y rhannau Cymraeg a canolbwyntio ar yr ochr Saesneg
yn unig. Soniwyd mai un dull y gellir ei ddefnyddio er mwyn sicrhau gohebiaeth
Gymraeg gan asiantaethau yw i beidio ateb unrhyw ohebiaeth cyfrwng Saesneg, nes
bydd gohebiaeth Gymraeg yn cyrraedd. Ymhelaethwyd bod y dull o gyfathrebu’n
ddwyieithog yn rhywbeth y dylid ei
ystyried pan mae’r cyfle nesaf yn codi i adolygu’r polisi iaith.
- Mewn ymateb i’r
sylwadau cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y rhan fwyaf o
bobl yn ysgrifennu yn Gymraeg oni bai eu bod yn ymwybodol yn barod nad ydi’r
unigolion sy’n derbyn yr ohebiaeth yn deall Cymraeg. Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol bod Cynllun Hybu’r Gymraeg yn cael ei ddiwygio dros y misoedd
nesaf a gellir rhoi ystyriaeth i’r materion
yn y trafodaethau hynny.
-
Rhannwyd enghreifftiau o sefyllfaoedd ble mae pobl sy’n
gallu defnyddio’r iaith Gymraeg yn troi i’r Saesneg wrth ymateb i sylwadau
unigolion sy’n siarad Saesneg mewn cyfarfodydd. Rhoddwyd cydnabyddiaeth nad
yw’n hawdd, ond nodwyd ei bod yn bwysig
i unigolion Cymraeg wneud pob ymdrech i ymateb i unrhyw sylwadau mewn Gymraeg
pan fo darpariaeth Cyfieithu ar gael i’r di-Gymraeg.
-
Llongyfarchwyd y swyddogion am eu gwaith yn arwain ar yr
iaith Gymraeg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: