Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd bod Gwynedd yn parhau i arwain ar gynllun ARFOR gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Eglurwyd bod  cais llwyddiannus wedi  ei wneud gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cadarnhau bod y prosiect hwn yn parhau hyn o leiaf 2025 er mwyn ariannu prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg.

-      Adroddwyd bod gan yr adran gronfa grant er mwyn  cefnogi busnesau a chymunedau. Mae hyn yn ychwanegol i grantiau Llywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn gallu gosod telerau ieithyddol fel amodau i dderbyn y cymorth ariannol.

-      Soniwyd bod cryn dipyn o drafodaeth wedi bod ynghylch sut i hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r Economi Ymweld ac yn sgil hynny, mae’r adran wedi comisiynu Prifysgol Bangor i gydweithio gyda’r Cyngor i osod gwaelodlin a mesuryddion effaith ymwelwyr i’r ardal ar yr iaith.

-      Eglurwyd bod adborth calonogol wedi’i dderbyn gan unigolion sy’n defnyddio cyfleusterau’r amgueddfeydd, celfyddydau a llyfrgelloedd. Eglurwyd bod nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal mewn awyrgylch llai ffurfiol er mwyn caniatau i unigolion fagu hyder yn eu defnydd o’r iaith. Manylwyd bod dysgwyr Cymraeg yn fwy hyderus i gyfrannu mewn sgyrsiau mewn awyrgylch o’r fath.

-      Esboniwyd bod yr adran wedi derbyn £18miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Ffyniant Bro, Llewyrch a Llechi fel rhan o’r rhaglenni adfywio. Ymhelaethwyd nad oes amodau ieithyddol wedi eu gosod gan y llywodraeth wrth i’r Cyngor ddyrannu’r arian ymhellach. Er hyn, mae’r adran yn ceisio gosod sail er mwyn sicrhau bod gofynion ieithyddol yn cael eu gosod ar unrhyw gais am arian er mwyn sicrhau bod yr iaith yn cael ei ystyried fel rhan o’r rhaglen adfywio.

-      Cyfeiriwyd at un o rwystrau’r adran i ddatblygu sgiliau ieithyddol y gwasanaeth morwrol. Eglurwyd bod yr adran yn cyflogi 27-30 o wardeniaid traethau dros gyfnod yr haf er mwyn diogelu’r cyhoedd. Oherwydd natur tymhorol eu swydd, nid yw’r adran yn gallu cydweithio gyda’r unigolion hyn o flwyddyn i flwyddyn i wella eu gallu gyda’r Gymraeg, ac mae hyn yn rwystr mae’r adran yn ceisio ei ddatrys. Er hyn, manylwyd bod 94.5% o staff yr adran yn cyrraedd dynodiad ieithyddol eu swydd allan o’r 80.5% o holl staff yr adran oedd wedi cwblhau’r hunan asesiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-      Croesawyd bod yr adran yn cydweithio gyda canolfannau Cymraeg i oedolion a nodwyd y gobaith  y bydd hyn yn drefniant fydd yn  parhau i’r dyfodol.

-      Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad oedd addysg oedolion yn waith sydd fel arfer yn weithredol o fewn yr adran. Manylwyd bod y gwaith cydweithio hwn yn digwydd drwy grant mewn cydweithrediad gyda Choleg Llandrillo Menai er mwyn sicrhau bod pecynnau addysg ar gael i bawb- bod drwy golegau neu lyfrgelloedd.

-      Mewn ymateb i ymholiad am gydweithio gydag amgueddfeydd annibynnol, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi bod hyn yn digwydd fel rhan o waith yr adran, ond fod peth effaith wedi bod ar hyn yn sgil absenoldebau staff yn ddiweddar.   Er hynny, cadarnhawyd y bydd  cydweithio gydag amgueddfeydd annibynnol yn parhau i ddigwydd yn y dyfodol.

-      Mewn ymateb i ymholiad am ymrwymo cwmnïau i amodau ieithyddol wrth ymgeisio am arian grant, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad oes modd gwneud hyn ymhob achos. Eglurwyd bod modd gosod amodau ieithyddol i ymgeiswyr grant drwy rhai prosesau megis prosiect ARFOR ond yn anffodus, mae’n annhebygol bod modd gosod gofynion ieithyddol ar bob cronfa arian sydd wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr adran yn ceisio gosod seiliau fel bod modd gosod amodau o’r fath yn y dyfodol.

-      Mewn ymateb i ymholiad am grantiau bychan i fusnesau, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned bod modd i fusnesau ymgeisio am grantiau am arwyddion, sticeri ar gyfer cerbydau neu unrhyw ddull arall o hyrwyddo’r iaith . Er hyn, manylwyd mai dim ond am 18 mis mae’r arian ar gael o hyn o bryd ac felly anogwyd ymgeiswyr i wneud hynny mor fuan â phosibl.

 

 Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: