Agenda item

Cyflwynir yr adroddiad hwn er mwyn rhoi cefndir i aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd bod grŵp arweiniol gwirfoddol wedi  ei sefydlu er mwyn cwblhau’r gwaith o newid y fenter i fod yn un annibynnol o’r Cyngor. Esboniwyd bod cwmni newydd – nid er elw, sef Menter Iaith Gwynedd wrthi’n cael ei sefydlu gan y grŵp gwirfoddol. Ymhelaethwyd mai’r nod yw trosglwyddo staff i'r endid newydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

-      Eglurwyd bod cynrychiolaeth dda o wahanol oedrannau, rhyw ac ardaloedd  ar y grŵp.

-      Adroddwyd bydd lansiad meddal i’r fenter newydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst

-      Nodwyd bod llwyddiant i ddenu cyllid ychwanegol  drwy'r gronfa Llywodraeth Cymru  ‘ Haf o Hwyl’ o fewn y flwyddyn ddiwethaf wedi caniatáu Hunaniaith i drefnu 23 digwyddiad i 341 o blant a phobl ifanc ar draws y sir.

-      Adroddwyd bod cydweithio da yn digwydd gydag adrannau’r cyngor megis yr Adran Addysg er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth a mewnbwn gan deuluoedd cyfan ar ddigwyddiadau canolfannau trochi, gwybodaeth am iaith a diwylliant Gwynedd a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.  Cyfeiriwyd hefyd at gydweithio gyda Menter Iaith Môn er mwyn denu cyllid gan Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd er mwyn annog mwy o fusnesau i wneud defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

-      Atgoffwyd yr aelodau mai prif nod y fenter yw adnabod bylchau o ran cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg  mewn ardaloedd a chydweithio gyda chymunedau i ganfod datrysiadau hir dymor iddynt. Rhannwyd enghraifft o hyn drwy fanylu ar wersi ioga Cymraeg ym Mangor yn dilyn canfyddiadau o’r angen iddynt gael eu cynnal o fewn yr ardal.

-      Nodwyd bod tri aelod o staff yn cefnogi Pen Swyddog Hunaniaith. Prif ffocws eu gwaith yw  annog a chefnogi cymunedau i ddatblygu prosiectau i hybu defnydd o’r Gymraeg, , a fydd yn gynaliadwy yn y tymor hir . Ymhelaethwyd mai prif ffocws y fenter yw edrych ar ardaloedd yn bennaf, yn hytrach na phrosiectau unigol. Cadarnhawyd mai’r ardaloedd sydd wedi eu blaenoriaethu am y flwyddyn nesaf, yw Bangor, Ogwen, Penllyn a’r Felinheli. Manylwyd hefyd bod y fenter yn mynd i ganolbwyntio ar ardal Pen Llŷn oherwydd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal o fewn yr ardal hon eleni.

-      Trafodwyd rhai o flaenoriaethau’r fenter am y flwyddyn i ddod, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn annog mwy o bobl i siarad Cymraeg yn yr ardal a hefyd i weithio gyda phlant a theuluoedd Cymraeg i sicrhau bod yr iaith yn cael ei siarad ymysg ei gilydd o ddydd i ddydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-      Mewn ymateb i ymholiadau ar effaith yr iaith Gymraeg yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cadarnhaodd Pen swyddog Hunaniaith bod trefnwyr yr eisteddfod yn edrych ar nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol er mwyn hyrwyddo’r iaith. Rhannwyd nifer o syniadau gan yr aelodau gan gynnwys gostyngiad ar bris mynediad ar ddyddiau penodol o’r ŵyl a thargedu rhai ardaloedd er mwyn annog pobl i fynychu a chlywed yr iaith Gymraeg yn naturiol, o ystyried bod safle’r Eisteddfod wedi ei leoli mewn ardal ble mae llawer o dwristiaeth. Mewn ymateb i’r uchod cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iaith a Chraffu byddai’n rhannu’r sylwadau gyda swyddog y Cyngor sy’n cydlynu trefniadau’r Cyngor gyda’r Eisteddfod.

-      Rhannwyd pryder bod yr menter iaith yn gadael y Cyngor a ystyriwyd y rheswm dros y newid hyn.

o   Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhaodd Ymgynghorydd Iaith a Chraffu fod y newid hwn yn digwydd er mwyn sicrhau bod cymunedau yn perchnogi’r fenter yn y dyfodol. Gobeithir bydd mwy o bobl o fewn cymunedau yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y digwyddiadau ac oherwydd hynny yn hyrwyddo’r Gymraeg yn well mewn cymunedau.

o   Manylodd Pen swyddog Hunaniaith y byddai’r fenter yn derbyn mwy o opsiynau cyllidol pan yn endid annibynnol, o’i gymharu â bod y fenter yn rhan o Adran Cefnogaeth Gorfforaethol  Cyngor Gwynedd.

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: