Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig
fel a ganlyn:-
Er mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro gweithrediad y
ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn effeithiol o fewn ein
hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi roi ystyriaeth i’r
modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng Gymraeg ymhob ysgol
uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r ysgolion ynddynt.
Penderfyniad:
Er
mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro gweithrediad y
ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn effeithiol o fewn ein
hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi roi ystyriaeth i’r
modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng Gymraeg ymhob ysgol
uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r ysgolion ynddynt.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Rhys Tudur o dan Adran
4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Er mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro
gweithrediad y ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn
effeithiol o fewn ein hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
roi ystyriaeth i’r modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng
Gymraeg ymhob ysgol uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r
ysgolion ynddynt.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Nad
hwn oedd y cynnig gwreiddiol roedd wedi dymuno ei roi gerbron y Cyngor, a bod
ei gynnig wedi’i newid drwy awgrym y Swyddog Monitro.
·
Bod
ei gynnig gwreiddiol yn gofyn i’r Cyngor llawn gasglu data a monitro’r
ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau
cenedlaethol, ac er ei fod yn derbyn yr arweiniad, ei bod yn siom a syndod iddo
nad oes modd i aelod gyflwyno cynnig yn galw ar y Cyngor i gasglu data.
·
Nad
oedd y cynnig yn mynd yn syth at y nod fel roedd wedi gobeithio, ond yn hytrach
yn cropian yn araf bach at y nod drwy alw ar y Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi bellach i edrych ar ddull o gasglu data. Ni ddylem fod yn cropian at y nod hefo’r Gymraeg, ond yn hytrach yn llamu ac yn arloesi.
·
Mai
arwyddocâd y cynnig yn ei hanfod oedd y dylid mesur y ddarpariaeth addysg
cyfrwng Cymraeg yn unol â’r categoreiddio cenedlaethol.
·
Gan
fod gan ysgolion cyfrwng Cymraeg waelodlin yn nodi bod 60% o’r plant yn gwneud
70% o’u haddysg drwy’r Gymraeg, tybid mai cam pwysig fyddai mesur faint o blant
sy’n gwneud 70% o’u haddysg drwy’r Gymraeg, ac ym mha fodd mae’r ysgolion yn
ffitio i waelodlinau’r categori. Heb y
wybodaeth honno, nid oedd yn hysbys sut roedd yr ysgolion yn ffitio i’w
categori a sut roeddent yn gwella.
·
Mai
llinyn mesur y Cyngor ar hyn o bryd o ran darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg
oedd y mesurydd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) o ran faint o
blant sy’n gwneud 5 pwnc TGAU neu ragor drwy’r Gymraeg.
·
Bod
y Cyngor, nid yn unig wedi methu yn yr amcan o gynyddu’r nifer sy’n gwneud 5
pwnc neu ragor drwy’r Gymraeg, ond hefyd wedi llithro dros y blynyddoedd, felly
roedd y CSGA wedi methu o ran yr agwedd honno.
·
Y
gobeithid y byddwn yn casglu data yn drylwyr o hyn allan er mwyn cyrraedd ein
hamcanion ac arloesi o blaid y Gymraeg.
·
Bod
y canllawiau cenedlaethol mewn grym ers Medi 2022 a byddai’n drueni o beth
petai Cyngor Gwynedd o bawb yn ymwrthod â mesur yn unol â’r categoreiddio yma.
·
Ei
fod yn galw ar ei gyd-aelodau i gefnogi’r cynnig gan y byddai’n ein grymuso â
gwybodaeth, a dyna’r cam pwysicaf ar gyfer symud y Cyngor ymlaen ar y continiwm iaith.
Mewn ymateb i
sylwadau’r cynigydd, nododd yr Aelod Cabinet Addysg:-
·
Ei
bod yn derbyn y pwynt yn llwyr ynglŷn â phwysigrwydd medru mesur a chael
data, a’i bod wedi crybwyll hynny yn ei hateb i un o’r cwestiynau yn flaenorol.
·
Bod
yna waith yn mynd ymlaen yn yr Adran ar hyn o bryd i wneud yr union beth hynny,
sef casglu data er mwyn cael darlun cyflawn ynglŷn â beth yn union sy’n
mynd ymlaen ar lawr dosbarth yn ein hysgolion o ran y Gymraeg ac addysg
ddwyieithog.
·
Bod
yna fesurydd y Gymraeg yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfodydd herio perfformiad a
bod cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn cael gwahoddiad i
rai o’r cyfarfodydd hynny.
·
Nad
oedd Gwynedd yn ddarostyngedig i’r waelodlin sydd yn y categori ac roedd y
ffaith bod y canllawiau yn anstatudol yn bwysig oherwydd y gallai’r
gwaelodlinau naill ai newid neu ddiflannu’n llwyr.
·
Bod
y cynnig felly yn gofyn i ni fesur yn erbyn rhywbeth fydd ddim yn bodoli maes o
law, ond wrth gwrs, roedd gofyn ein bod yn mesur o ran yr hyn y dymunwn ei weld
yma, ac roedd unrhyw ddyhead sydd gennym am fod yn sylweddol uwch na gwaelodlin
y categori.
·
Mai’r
Cyngor hwn, ac nid y fframwaith cenedlaethol, sy’n gosod y Polisi Iaith yn
lleol. Roedd Llywodraeth Cymru yn llwyr
ddeall hynny, ac yn gwerthfawrogi bod ein sefyllfa ni yng Ngwynedd yn unigryw.
Mynegodd aelodau
eraill gefnogaeth i’r cynnig.
Yn ei sylwadau
cloi, nododd y cynigydd:-
·
Ei
fod yn croesawu’r ffaith bod yna waith yn mynd ymlaen yn yr Adran ar hyn o bryd
o ran mesurydd ychwanegol, ond na welai bod ei gynnig yn creu anhawster o ran
cyfeirio at y gwaelodlinau.
·
Petai’r
gwaelodlinau yn newid yn y dyfodol, byddem yn mesur yn unol â beth fydd y
gwaelodlinau hynny yn y dyfodol.
·
Ei
fod yn croesawu’r ffaith bod yna amcan i roi gwaelodlin gwell na’r hyn mae’r
Llywodraeth yn ei gynnig, ond roedd y Cyngor yn mesur yn salach nag mae’r
waelodlin yn ganiatáu ar hyn o bryd, a’r unig fesurydd eithaf manwl sydd gennym
ydi faint o blant sy’n gwneud 5 pwnc TGAU neu ragor drwy’r Gymraeg, sef 50%
mewn difri, neu lai o bosib’ os ydi plentyn yn gwneud 11 pwnc TGAU.
·
Ei
fod yn argymell yn gryf ein bod yn mesur yn unol â’r hyn mae’r categoreiddio yn
gynnig, anstatudol neu beidio, a bod diystyru canllawiau cenedlaethol ar
gynyddu addysg Gymraeg, gan feddwl ein bod yn arloesi, yn rhywbeth eithaf ffôl
i’w wneud.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Er mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro
gweithrediad y ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn
effeithiol o fewn ein hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
roi ystyriaeth i’r modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng
Gymraeg ymhob ysgol uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r
ysgolion ynddynt.