Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn cynnig
fel a ganlyn:-
Mae gan Gymru uchelgais glodwiw
i fod yn Genedl Noddfa Cymru gyntaf y Byd. Mae Gwynedd wedi gweithredu’n unol âr uchelgais hon drwy gynnig
lloches i ffoaduriaid ar draws y byd. Serch uchelgais Cymru, mae Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno
Deddf Mudo Anghyfreithlon sydd yn peryglu hawliau ffoaduriaid a cheiswyr
lloches ac yn troi’r weithred o gyrraedd ynysoedd Prydain i geisio lloches yn
drosedd. Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn
egwyddorion Confensiwn Ffoaduriaid 1951, a’n huchelgais ni yng Nghymru. Wrth
ystyried yr ofn y gall negeseuon anghroesawgar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
achosi, rydw i'n galw ar y Cyngor yma i gadarnhau ei uchelgais o fod yn
cynorthwyo ffoaduriaid, er mwyn lliniaru ychydig o'r ofn yma.
Penderfyniad:
Mae gan Gymru uchelgais glodwiw i fod yn Genedl Noddfa Cymru
gyntaf y Byd. Mae Gwynedd wedi
gweithredu’n unol â’r uchelgais hon drwy gynnig lloches i ffoaduriaid ar draws
y byd. Serch uchelgais Cymru, mae
Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno Deddf Mudo Anghyfreithlon sydd yn peryglu
hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn troi’r weithred o gyrraedd
ynysoedd Prydain i geisio lloches yn drosedd.
Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn egwyddorion Confensiwn Ffoaduriaid 1951,
a’n huchelgais ni yng Nghymru. Wrth
ystyried yr ofn y gall negeseuon anghroesawgar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
achosi, mae’r Cyngor yma yn cadarnhau ei uchelgais o fod yn cynorthwyo
ffoaduriaid, er mwyn lliniaru ychydig o'r ofn yma.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae gan Gymru uchelgais glodwiw i fod yn Genedl Noddfa Cymru
gyntaf y Byd. Mae Gwynedd wedi
gweithredu’n unol â’r uchelgais hon drwy gynnig lloches i ffoaduriaid ar draws
y byd. Serch uchelgais Cymru, mae
Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno Deddf Mudo Anghyfreithlon sydd yn peryglu
hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn troi’r weithred o gyrraedd
ynysoedd Prydain i geisio lloches yn drosedd.
Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn egwyddorion Confensiwn Ffoaduriaid 1951,
a’n huchelgais ni yng Nghymru. Wrth
ystyried yr ofn y gall negeseuon anghroesawgar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
achosi, mae’r Cyngor yma yn cadarnhau ei uchelgais o fod yn cynorthwyo
ffoaduriaid, er mwyn lliniaru ychydig o'r ofn yma.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-
·
Ein
bod, yn 2023, yn dal i fyw mewn byd creulon, yn llawn anghyfiawnder a thrais, a
hynny er bod Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol yn galw am ryddid,
cyfiawnder a heddwch yn y byd.
·
Bod
Erthygl 14 yn datgan fod gan bawb yr hawl i geisio ac i gael noddfa rhag
erledigaeth mewn gwledydd eraill.
·
Er hynny, bod y Deyrnas Gyfunol wedi cyflwyno polisïau dros
y blynyddoedd i’w gwneud yn llai deniadol i geiswyr lloches ddod i Brydain, gan
gynnwys rhwystrau ar allu gweithio a cheisio budd-daliadau, a dal ceiswyr
lloches mewn canolfannau cadw lle nad oes ganddynt statws nag unrhyw syniad
pryd y bydd eu cais yn cael ei brosesu.
·
Bod
storïau unigolion yn dangos fod hyn yn achosi straen,
iselder a gorbryder a hyd yn oed broblemau iechyd
corfforol a meddyliol, gan gofio fod y ceiswyr lloches yn bobl fregus yn barod.
·
Y bydd y Bil Mudo
Anghyfreithlon yn gwneud pethau’n waeth i’r bobl fregus yma, ond ni fydd y
ddeddfwriaeth newydd yn rhwystro ffoaduriaid rhag ffoi, na cheisio lloches, na
dod i Brydain, a bydd y niferoedd yn dal i gynyddu.
·
Bod
pobl yn ceisio lloches yn y DG oherwydd bod pobl yn siarad Saesneg, neu efallai
fod ganddynt deulu neu ffrindiau yma eisoes.
·
Bod
y ddeddfwriaeth newydd yn sôn am anfon pobl yn ôl i’w mamwlad, ond roedd hyd yn
oed Llywodraeth San Steffan yn cydnabod na ellir anfon ceiswyr lloches yn ôl
i’w gwlad yn aml, gan nad ydi hi’n ddiogel iddynt ddychwelyd.
·
Bod
y ddeddfwriaeth yn sôn am anfon pobl na all fynd yn ôl i’w mamwlad i Rwanda,
ond nid yw’r drefn wedi cychwyn eto, a beth am gapasiti
Rwanda i dderbyn y ceiswyr lloches?
·
Os
na all ceiswyr lloches ddychwelyd adref, na mynd i Rwanda, byddent yn cael eu
cadw mewn canolfannau cadw yn y Deyrnas Gyfunol (sydd eisoes yn orlawn), heb
statws, heb obaith o gael prosesu eu cais am loches, heb le saff i’w alw’n
gartref, heb le digonol i fyw na chysgu, heb ofal iechyd digonol, a hynny am
gyfnod amhenodol.
·
Bod
gennym ni yng Nghymru uchelgais o fod yn genedl noddfa, ac mae gennym ninnau
yng Ngwynedd draddodiad hir o roi croeso cynnes i geiswyr lloches.
·
Gwyddom am bobl sydd wedi ffoi trais,
artaith, ac yn wir, wedi ffoi o enau
marwolaeth, ac yn cyrraedd glannau ynysoedd Prydain i chwilio am aelodau
o’u teuluoedd, am waith, am lety, ac am fywyd newydd. Rydym yn falch yng Ngwynedd
ein bod wedi, ac yn parhau, i gefnogi
ein cyd-ddyn o wledydd fel Syria, Affganistan, Wcrain ac ati, ac mae gennym
fudiadau gwirfoddol yng Ngwynedd sy’n
cefnogi pobl, megis Croeso Menai, Pobl I Bobl, Cefn,
ac yn y blaen.
·
Serch ein huchelgais glodwiw yng Nghymru,
sy’n rhoi gwerth ar fywyd pob unigolyn, mae’r
Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, sy’n cael ei drafod
yn San Steffan ar hyn o bryd,
yn annynol, yn greulon ac
yn achosi trawma pellach i bobl
sydd eisoes wedi profi trawma
erchyll. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yma yn groes
i’n dyheadau ni fel pobl
Gwynedd, ac fel pobl Cymru.
·
Ei bod yn galw ar ei chyd-gynghorwyr i gefnogi’r cynnig a dangos eu gwrthwynebiad
i’r ddeddfwriaeth annynol greulon yma.
Mynegodd nifer o aelodau eraill gefnogaeth i’r cynnig.
Nododd aelod bod y pwnc yn
amlygu’r ffaith ei bod yn berffaith dderbyniol gan Lywodraeth y DG a’r cyfryngau i bobl
bardduo mudo gan y rhai mwyaf
difreintiedig, ond does wiw i bobl
gondemnio mudo gan rai breintiedig yn economaidd, sy’n cael effaith ar ardaloedd megis Gwynedd.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-