Agenda item

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Bwrdd yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ac ymhelaethodd y rheolwyr rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.

 

Nodwyd bod angen cywiro Statws RAG y prosiect M-Sparc (Prifysgol Bangor) o ambr i wyrdd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Bod y Bwrdd yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.         Bod y Bwrdd yn cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Nododd y Cadeirydd ei bod yn ymddangos bod cynnydd yn digwydd mewn sawl maes.

 

Gan gyfeirio at brosiect Warren Hall, Brychdyn, mynegwyd siomedigaeth fod Adroddiad y Panel Adolygiad Ffyrdd yn cael ei ddefnyddio fel rheswm i beidio bwrw ymlaen â chynlluniau pwysig fel hyn, a galwyd am drafodaeth frys rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd a Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn disgwyl am arweiniad gan y Gweinidog mewn perthynas â’i ymateb i argymhelliad y Panel Adolygiad Ffyrdd, ac y derbyniwyd adborth anffurfiol bellach gan y Llywodraeth bod ffordd ymlaen i’r prosiect.

·         Bod cyfarfodydd wedi’u rhaglennu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Sir y Fflint i drafod hyn ymhellach, a disgwylid y gellid rhoi mwy o sicrwydd yn Chwarter 1 2023/24 bod y prosiect yn symud yn ei flaen mewn ffordd bositif.

 

Holwyd beth fyddai effaith y Porthladd Rhydd ar brosiectau’r Cynllun Twf.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y Porthladd Rhydd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Stena Line a phartneriaid eraill yn ogystal, a bod buddsoddiad sylweddol Stena Line yn y safle yng Nghaergybi cyn i’r cyhoeddiad ynglŷn â’r Porthladd Rhydd gael ei wneud, a chyn cychwyn ar unrhyw waith yn y porthladd, yn arwydd o hyder y cwmni yn y fenter.

·         Ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y prosiect hwn.  Roedd yna 6 mis i gyflwyno achos busnes llawn a byddai angen proses lywodraethu ac ymgysylltu i gael mewnbwn yn ystod y broses yna.

·         Mai Cyngor Sir Ynys Môn fyddai’r corff atebol, a byddai Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor yn gorfod sicrhau cydymffurfiaeth.

·         Yn dilyn y broses llywodraethu, bwriedid ymgysylltu gydag arweinyddion a phrif arweinwyr eraill y rhanbarth i sicrhau bod pawb yn deall y cyfeiriad a lle fydd yr effaith a’r cyfle i ddylanwadu, yn enwedig ar y strategaethau trawsffiniol o ran cyflogaeth a sgiliau, arloesi, net sero a’r iaith Gymraeg.

 

Holwyd a fyddai’r newid o ran rheoli arian cyhoeddus a darparu buddsoddiad band llydan yng Nghymru yn peryglu prosiectau digidol y Cynllun Twf.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Mai Llywodraeth Cymru oedd wedi bod yn gwneud hyn yn hanesyddol, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU, ond bod y cyfrifoldeb bellach wedi trosglwyddo i Lywodraeth y DU yn bennaf.

·         Yn ymarferol, bod hyn yn symudiad positif o’n safbwynt ni gan ein bod yn agos at fanylder yr hyn sy’n digwydd o ddydd i ddydd, ac roedd gennym gyswllt da gyda Llywodraeth y DU.

·         Bod y ddwy lywodraeth wedi bod yn ofalus yn sicrhau bod y rhanbarth, gan gynnwys Gogledd Cymru, yn agos at ddiweddariadau a’r cyfle i gyfrannu tuag at siapio’r caffael.

 

Nodwyd mai’r gyffordd sy’n effeithio fwyaf ar brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam, yw Cyffordd 4 yr A483 a’r A525 (Ffordd Rhuthun) a bod yna broblemau dirfawr o safbwynt y gyffordd honno.  Roedd barn Cwnsler y Brenin yn datgan bod rhaid gwella’r gyffordd cyn datblygu safle Porth y Gorllewin, ond pe na fyddai’r arian yn dod ymlaen ar gyfer hynny gan Lywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd, ni ellid datblygu’r safle.  Nid oedd y PMO yn ymwybodol bod y Cyngor wedi cael y farn gyfreithiol yma, nac wedi derbyn copi o’r farn honno.  Mae’r PMO wedi cyfrannu tuag at ddrafft o’r briff tendr ar gyfer Prif Gynllun Porth y Gorllewin fydd yn cynnwys yr argymhellion gan y Panel Adolygu Ffyrdd.

 

Mewn ymateb, eglurwyd na ofynnid am unrhyw benderfyniad ar y mater hwn gan y Bwrdd yn ei gyfarfod heddiw.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd yr adolygiad ffyrdd am gael effaith negyddol ar brosiect Porth y Gorllewin, ac a olygai hynny bod angen cynnal trafodaeth gyda’r Gweinidogion.

 

Mewn ymateb, nodwyd na ddeellid bod barn Cwnsler y Brenin wedi’i gael ar hyn, ond bod trafodaethau’n parhau gyda swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn ceisio dod i gasgliad a yw’n bosib’ cyflawni’r prosiect heb uwchraddio Cyffordd 4 ai peidio.

 

Holodd y Cadeirydd a awgrymid felly y dylid cael adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf, neu a oedd angen dechrau lobïo ar y mater yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach.

 

Mewn ymateb, awgrymid y dylid aros i weld tystiolaeth bod rhaid uwchraddio’r gyffordd cyn mynd yn ôl at Lywodraeth Cymru.

 

Nodwyd ei bod yn ymddangos y bydd Adroddiad Perfformiad a Risgiau Chwarter 1 2023-24 yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth, ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol trefnu sesiwn briffio ar gyfer yr aelodau cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd i roi trosolwg manwl o’r cynnydd ar raglenni a phrosiectau’r Cynllun Twf.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ymateb y Swyddog Cyllidol Statudol i’r adroddiad, nodwyd nad oedd gwrthwynebiad cynnwys y geiriad “Rwyf yn fodlon fod yr adroddiad yn adlewyrchiad gwir a theg o sefyllfa ariannol Uchelgais Gogledd Cymru” o hyn allan petai hynny’n briodol.

 

Dogfennau ategol: