Agenda item

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r cynnydd yng swm y grant Cynllun Twf sydd ar gael i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% gan leihau swm cyffredinol yr arian i gefnogi prosiectau newydd drwy'r broses prosiectau newydd o £1.2 miliwn ac ystyried cynnydd pellach petai unrhyw arian heb ei ddyrannu ar ddiwedd y broses i ddewis prosiectau newydd ar gyfer y Cynllun Twf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r cynnydd yn swm y grant Cynllun Twf sydd ar gael i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% gan leihau swm cyffredinol yr arian i gefnogi prosiectau newydd drwy'r broses prosiectau newydd o £1.2 miliwn ac ystyried cynnydd pellach petai unrhyw arian heb ei ddyrannu ar ddiwedd y broses i ddewis prosiectau newydd ar gyfer y Cynllun Twf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I amlinellu opsiynau i ddarparu adnoddau i'r Swyddfa Rheoli Portffolio dros y pedair blynedd nesaf i oruchwylio cyfnod cyflawni allweddol Cynllun Twf Gogledd Cymru

 

TRAFODAETH

 

Nododd y Cadeirydd fod gennym dîm hynod o alluog a chryf yng Ngogledd Cymru, sy’n ased i ni, a’i bod yn bwysig edrych ar bob cyfle i gadw’r tîm yna gyda’i gilydd.

 

Holwyd a oedd cynyddu swm y grant sydd ar gael i gefnogi’r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% yn ddigonol.

 

Mewn ymateb, nodwyd y credid bod cynnydd o 0.5% yn realistig ac yn gyfrannol, ac yn gydnaws â chynlluniau twf eraill, a’i bod yn bwysig cadw cymaint o gyfalaf â phosib’ ar gyfer cyflawni’r prosiectau a chaniatáu i ni gwrdd ag amcanion y Cynllun Twf a chyflenwi swyddi.

 

Nodwyd bod paragraffau 4.12 a 4.13 o’r adroddiad yn nodi mai’r cynnig yw defnyddio 50% o’r £1.2m ychwanegol i alluogi ymestyn contractau tymor sefydlog presennol yn y tîm i fis Mawrth 2025, ac na ellir darparu estyniad pellach hyd nes y byddai ffynonellau cyllid eraill yn cael eu sicrhau.  Yn wyneb hynny, holwyd beth oedd yn digwydd i’r £600,000 arall.

 

Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Y bwriedid defnyddio £600,000 y flwyddyn nesaf er mwyn galluogi’r estyniad 12 mis hwnnw, fydd yn lliniaru’r risg o staff yn gadael yn ystod y flwyddyn nesaf ac yn prynu amser i ni weld beth fydd canlyniad y pecyn ariannu arall rydym yn ymgeisio amdano drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

·         Gan hynny, bod y £600,000 wedi’i ddyrannu’n ddamcaniaethol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4, ond pe na lwyddid i sicrhau unrhyw gyllid ychwanegol, efallai y byddai’n rhaid defnyddio’r arian hwnnw mewn ffordd wahanol, ac ni fyddai’n bosib’ ymestyn cytundeb pawb gyda’r swm hwnnw o arian.

·         Pe byddai’r cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, neu unrhyw ffynhonnell allanol arall, yn llwyddiannus, byddai’n ofynnol ail-broffilio sut y byddem yn defnyddio’r £1.2m, felly yn hytrach na defnyddio’r £600,000 y flwyddyn nesaf, byddem yn ei ddefnyddio ym mlynyddoedd 3 a 4.

 

Awgrymwyd bod y geiriad yn yr adroddiad yn gwrth-ddweud ei hun gan ei fod yn dweud na ellir darparu estyniad pellach hyd nes y byddai ffynonellau cyllid eraill yn cael eu sicrhau.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd, er eglurder, na ellir darparu unrhyw estyniadau pellach i’r holl staff ar y sail hynny, felly ni ellid cynnig estyniadau pellach i bawb os mai’r £1.2m yw’r unig gyllid sydd ar gael.

 

Nodwyd bod y risg o golli staff yn sylweddol, ac felly nad oedd gan y Bwrdd lawer o ddewis ond derbyn yr argymhelliad.

 

Nodwyd bod yna brinder sylweddol o dalent erbyn hyn a bod cynnig cytundeb tymor byr yn creu risg i’r rhanbarth.  Roedd y Swyddfa Rheoli Portffolio bellach yn datblygu i fod yn dîm datblygu economaidd ar gyfer Gogledd Cymru.  Gallai’r tîm ymgymryd â llawer o brosiectau eraill y tu allan i’r Cynllun Twf yn y dyfodol, ac roedd angen i ni wneud yn fawr o hynny a chychwyn meddwl am ddatrysiad parhaol.  Roedd angen hefyd i Lywodraeth Cymru ddatganoli rhai o’r dyletswyddau hyn i Ogledd Cymru fel bod modd i fwy o’r penderfyniadau gael eu gwneud o fewn y rhanbarth.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Mewn byd delfrydol, y byddem yn dymuno i’r holl staff fod ar gytundebau parhaol, ond roedd yn rhaid gweithredu o fewn yr amlenni cyllido sydd gennym, a chredid bod y penderfyniad a geisid gan y Bwrdd yn lliniaru’r risg wrth i ni chwilio am ffynonellau ariannu eraill, ond roedd angen cynllun mwy hirdymor yn dilyn hynny yn sicr.

·         Bod yr amgylchedd gwaith yn gystadleuol, yn arbennig ym maes rheoli prosiectau, yn y meysydd ynni a digidol, a hwn oedd y risg mwyaf ar hyn o bryd.

·         Y tybir y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith o gyflawni prosiectau wedi’i gwblhau erbyn diwedd y cylch 4 blynedd hwn, a byddwn yn symud i gyfnod o fonitro, gwerthuso a gwireddu’r manteision, pan na fydd angen i’r Swyddfa Rheoli Portffolio fod mor fawr at ddibenion cyflawni’r Cynllun Twf. 

·         Bod opsiwn i’r Bwrdd a’r rhanbarth ddefnyddio’r tîm ar gyfer gweithgareddau eraill yn y dyfodol pe dymunid.  Roedd gennym dîm ffantastig ac adnodd ffantastig yma ac roeddem wedi adeiladu gallu ac arbenigedd sylweddol yn y sectorau yma dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac ni ddymunid colli neb o’r staff sydd gennym ar hyn o bryd.

 

Nodwyd bod rhai prosiectau eisoes wedi mynd drwy Achos Busnes Amlinellol ac wedi dod yn ôl i’r Bwrdd ond wedi gorfod cael ychwanegiad at eu dyraniad er mwyn symud yn eu blaenau.  Holwyd a fyddai’r cynnydd yma yn cael ei orfodi ar y prosiectau hynny sydd wedi gorfod mynd drwy broses o gwtogi eu hunain eisoes er mwyn ceisio cadw o fewn y gofynion cyllidol.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd nad oedd y penderfyniad heddiw yn cael effaith ariannol ar unrhyw brosiectau cyfredol, a bod yr arian yn dod o’r pot o £30m sydd heb ei ddyrannu ar gyfer prosiectau newydd.

 

 

Dogfennau ategol: