Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)       Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref, 2023.

 

Fel rhan o’r adroddiad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr 01/4/23 - 31/3/24 (Adolygiad Awst 2023), a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad.

 

Manylodd hefyd ar ddangosyddion perfformiad y Gwasanaeth (oedd hefyd wedi’u cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad).

 

Ar bwynt cyffredinol, diolchwyd i’r Gwasanaeth Morwrol am eu gwaith yn ystod yr haf yn cadw pawb yn ddiogel ar y traethau, ac am ddod â chyllideb gytbwys gerbron y pwyllgor.

 

(2)       Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2023, gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Codwyd materion o dan y penawdau isod:-

 

Materion Gweithredol

 

Gan gyfeirio at y ddau achos diweddar o lygredd yn yr harbwr (paragraffau 2.2 a 4.2 o’r adroddiad), holwyd a fyddai’n bosib’ i faterion o’r fath gael eu dwyn i sylw’r aelodau lleol ar y pryd, yn hytrach nag aros tan gyfarfod nesaf y pwyllgor, fel bod modd i’r aelodau ymateb i ymholiadau gan eu hetholwyr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y derbynnid y pwynt ac y ceisid diweddaru’r aelodau lleol pan mae yna ddigwyddiadau eithaf difrifol yn yr harbyrau.

·         Y gellid cadarnhau bod yr awdurdodau perthnasol wedi’u hysbysu o’r 2 ddigwyddiad dan sylw a bod yr holl weithdrefnau angenrheidiol wedi’u dilyn.

·         Bod syrfëwr morol wedi’i gomisiynu i wneud archwiliad o gyn-gwch bysgota’r ‘Beverley’ oedd wedi gorlifo yn ystod glaw trwm a suddo’n rhannol gan ryddhau swm bach o danwydd diesel i ddŵr yr harbwr.  Roedd archwiliad wedi’i wneud o’r cwch tra yn y dŵr, a hefyd yn sgil ei hail-leoli ger llithrfa’r harbwr.  Unwaith y derbynnid adroddiad y syrfëwr, bwriadai’r Gwasanaeth drafod cynnwys yr archwiliad gyda pherchennog y cwch, a byddai’r aelodau yn cael eu diweddaru unwaith y byddai rhagor o fanylion ar gael.

·         Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r hylif sy’n dod o’r bibell arllwys ger y bont ffordd yn rhan Ogleddol yr harbwr yn ystod glaw trwm.  Ni dderbyniwyd adroddiad ysgrifenedig ffurfiol ganddynt hyd yma, ond byddai’r aelodau’n cael eu diweddaru unwaith y byddai gwybodaeth ar gael ynglŷn â tharddiad y llygredd.

 

Holwyd beth fyddai’n digwydd i gwch y ‘Beverley’ yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai’n rhaid aros am adroddiad y syrfëwr morol ar gyflwr y cwch a thrafod gyda’r perchennog cyn y gellid gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â beth fyddai’n digwydd i’r cwch yn y dyfodol.

 

Nododd yr Harbwrfeistr y dymunai ddiolch i gwmni Robert Owen Marine Porthmadog am roi benthyg bad dŵr personol i’r Gwasanaeth ar gyfer patrolio sianel Porthmadog.

 

Cynnal a Chadw

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol nad oedd y gost net o £12,293 am ddwy injan newydd i’r cwch patrôl Powercat wedi dod o gyllideb eleni, ond yn hytrach wedi’i dalu allan o gronfa arbennig ar eu cyfer.

 

Hefyd, ymhellach i gynnwys yr adroddiad, nododd yr Harbwrfeistr fod y Gwasanaeth wedi buddsoddi £1,200 mewn prynu drôn a bod y staff wedi derbyn hyfforddiant ar sut i’w ddefnyddio.  Nodwyd bod y drôn o gymorth mawr yn dod o hyd i fwiau sydd wedi mynd ar goll, a gallai hefyd amlygu pan fo pobl ar draethau mewn perygl o gael eu hamgylchynu gan y llanw.

 

Materion Eraill

 

Llongyfarchodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned staff yr harbwr ar eu gwaith yn cynorthwyo gyda’r paratoadau ar draeth Morfa Bychan i dderbyn y bad camlas mawr oedd yn cludo trawsnewidydd trydanol ar gyfer Gorsaf Bŵer Trawsfynydd.  Nodwyd hefyd bod y cwmni wedi ysgrifennu at y Cyngor i ddatgan eu bodlonrwydd gyda’r trefniadau.

 

Holwyd a godwyd ffi ar y cwmni gan fod y trefniadau wedi golygu cryn waith a chostau i’r Adran.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y swyddogion morwrol wedi cadw cofnod o’r holl arwyddion, ffensys, blociau concrit, ayb, oedd wedi’u harchebu, ynghyd â’r ffi gweinyddu, ac felly bod y Gwasanaeth wedi mwy na’u digolledu am y gost.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Adran Forwrol am ddarparu gwybodaeth i’r cynghorwyr ac am ateb ymholiadau mor sydyn.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y dymunai’r Gwasanaeth atgoffa pawb o’r angen i sicrhau bod y giatiau amddiffyn rhag y môr ym Morth y Gest yn aros wedi cau yn ystod y gaeaf.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: