Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23.

 

1.2 Cymradwywyd symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

100

Plant a Theuluoedd

76

Addysg

(96)

Economi a Chymuned

0

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

6

Ymgynghoriaeth Gwynedd

0

Tai ac Eiddo

0

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(17)

Cyllid

(10)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(16)

 

1.3 Cymeradwywyd argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

 

·       Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion a staff gweinyddol yn yr ysgolion sydd uwchlaw’r gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion unigol.

 

·       Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd.

 

·       Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach.

 

·       Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ‘mlaen gan yr Adran i £100k:

a.    £3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant

b.    £2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol

 

·       Ar gyllidebau Corfforaethol:

a.    Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

b.    Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf

c.     Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor.

 

1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23.

 

1.2 Cymeradwywyd symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

100

Plant a Theuluoedd

76

Addysg

(96)

Economi a Chymuned

0

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

6

Ymgynghoriaeth Gwynedd

0

Tai ac Eiddo

0

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(17)

Cyllid

(10)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(16)

 

1.3 Cymeradwywyd argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

 

·       Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion a staff gweinyddol yn yr ysgolion sydd uwchlaw’r gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion unigol.

 

·       Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd.

 

·       Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach.

 

·       Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ‘mlaen gan yr Adran i £100k:

a.    £3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant

b.    £2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol

 

·       Ar gyllidebau Corfforaethol:

a.    Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

b.    Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf

c.     Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor.

 

1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn y flwyddyn ariannol 2022/23 yn ogystal â’r sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant.

 

Cadarnhawyd bod gorwariant gan 7 adran ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23. Ymhelaethwyd mod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn gan gynnwys prisiau ynni cynyddol, methiannau i wireddu arbedion a chwyddiant cyflogau. Manylwyd a’r gorwariant amlycaf mewn 5 adran:

 

·       Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – eglurwyd bod £3.9 miliwn o orwariant oherwydd costau staffio’r adran a’r defnydd o staff asiantaeth. Yn ogystal roedd pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yng Ngwasanaethau pobl Hŷn. Cadarnhawyd bod yr adran wedi profi trafferthion i wireddu arbedion.

 

·       Adran Addysg - eglurwyd bod £1.2 o orwariant yn dilyn chwyddiant yng nghostau staffio cymorthyddion a staff gweinyddol yn ogystal â phrisiau trydan uwch. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran wedi gallu defnyddio arian a gynilwyd o gyfnodau clo Covid i gynorthwyo gyda’r pwysau ariannol.

 

·       Adran Economi a Chymuned / Byw’n Iach – Cadarnhawyd bod Byw’n Iach wedi bod yn profi sgil-effeithiau’r pandemig drwy gydol y flwyddyn ariannol 2022/23. Atgoffwyd y bu i’r cwmni dderbyn £1.4 miliwn gan Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn 2021/22 ac mae’r Cyngor  wedi ymestyn y cyfnod sicrwydd ariannol i gefnogi’r cwmni hyd ddiwedd blwyddyn 2022/23. Esboniwyd bod y cwmni angen cymorth y Cyngor i ariannu £550,000. Ymfalchïwyd bod y cyhoedd wedi dychwelyd i ddefnyddio canolfannau hamdden yn dilyn y pandemig.

 

·       Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol – Adroddwyd bod gorwariant o £2.5 miliwn o fewn yr adran ac bod gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn cyfrannu at y ffigwr hwn. Pwysleisiwyd hefyd bod yr adran wedi gwneud gwariant un tro o fewn y flwyddyn ariannol perthnasol ac yn cael trafferth i wireddu arbedion.

 

·       Adran Tai ac Eiddo - Eglurwyd bod yr adran wedi derbyn £1.5 miliwn o gronfa trefniadau yn sgil Covid gan y Cyngor. Er hyn, mae effaith deddf Ddigartrefedd wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol i’r adran gan achosi £2.5 miliwn o orwariant. Argymhellwyd i’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor ariannu’r gorwariant.

 

Sicrhawyd bod cynlluniau wedi cael eu rhoi mewn lle i gyfarch y materion hyn o orwariant yng nghynlluniau ariannol y dyfodol.

 

Cydnabuwyd bod pwysau ar yr adrannau i ddarparu’r gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd a diolchwyd i staff yr adrannau am eu gwaith. Diolchwyd hefyd i holl staff yr Adran Gyllid am eu gwaith i goladu’r ffigyrau ar gyfer y cyfrifon terfynol.

 

Awdur:Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol)

Dogfennau ategol: