Aelod
Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar waith
mewn perthynas â Chynllunio Argyfwng o fewn y Cyngor, ac yn benodol:-
·
Sut
mae’r gwasanaeth rhanbarthol yn cyfrannu at wydnwch a diogelwch cymunedau yng
Ngwynedd?
·
Beth
yw rhaglen waith y gwasanaeth ar hyn o bryd?
·
Beth
yw’r strwythur o fewn Cyngor Gwynedd i ymateb i sefyllfa frys neu argyfwng?
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac
yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Holwyd a oedd yna gynllun argyfwng llygredd
yr arfordir penodol i Wynedd, gan ei bod yn hollbwysig bod y sir ei hun yn rhan
allweddol o unrhyw gynllun adfer yn dilyn achos o lygredd.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
yna gynllun drafft a arferai gael ei ddefnyddio ar gyfer Gwynedd flynyddoedd yn
ôl, a bod adolygu’r Cynllun Gweithredu’r Arfordir yn un o flaenoriaethau’r
Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng eleni.
·
Bod
y Gwasanaeth yn edrych ar yr ymarfer gorau ar draws Lloegr a Chymru gyda’r nod
o greu templed sy’n addas ar gyfer Gwynedd.
Mynegwyd pryder bod patrwm yng Ngwynedd o
beidio glanhau cyrsiau dŵr nac o garthu o gwmpas pontydd, a nodwyd y
dymunid gweld pwysau yn cael ei roi ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â
gwaith cynnal a chadw rheolaidd. Nodwyd
mai problem adnoddau oddi fewn i Gyfoeth Naturiol Cymru oedd hyn yn ei hanfod,
ond roedd yn hanfodol bod y gwaith yn cael ei gyflawni gan fod problemau
bychain yn mynd yn broblemau mawr, os nad oes lle i’r dŵr fynd.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
yna gyfrifoldebau penodol yn perthyn i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
Ymgynghoriaeth Gwynedd yn y cyd-destun hwn.
·
Y
credid bod y Strategaeth Llifogydd, fydd yn cael ei gyflwyno yn yr Hydref, yn
rhoi llawer o bwyslais ar gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod Sir
y Fflint yn cyfrannu llai na’u siâr yn ôl poblogaeth at y Gwasanaeth
Rhanbarthol oherwydd eu bod yn lletya’r cynllun.
Nodwyd yr angen i gywiro’r cyfeiriadau at ‘Fforwm
Gwydnwch Gogledd Cymru’ a ‘Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru’ yn
yr adroddiad i ddarllen ‘Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd’.
Nodwyd mai un o’r risgiau sy’n cael ei
adnabod yn yr adroddiad yw’r Pandemig Cofid-19, a holwyd pa mor gydnerth oedd
ein paratoadau ar gyfer argyfwng o’r fath; pa mor effeithiol oedd ein hymateb
yng Ngwynedd ac ar draws y Gogledd, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddysgu
o’r profiad ac i wella ein hymateb yn y dyfodol o ran cydnerthedd. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Mae’n
debyg ei bod yn wir i ddweud bod Gwynedd mor barod ar gyfer y pandemig ag
unrhyw sir arall, ac na fyddai neb wedi rhagweld y math o argyfwng a gododd yn
ystod y cyfnod hynny.
·
Bod
yna gynllun rhanbarthol i ymateb i bandemig, a chynhaliwyd ymarfer rhanbarthol
ychydig fisoedd cyn y digwyddiad yn edrych ar sut i ymateb i bandemig ffliw yn
benodol.
·
Bod
gwersi wedi’u dysgu o’r pandemig. Rhan o
hynny oedd ail-edrych ar ein strwythurau ymateb fel bod modd ymateb yn llawer
mwy effeithiol a gwydn, a bod yna drefniadau argyfwng pwrpasol i ymateb i’r
math yma o argyfwng, ac argyfyngau eraill yn y dyfodol.
·
Ei
bod yn waith parhaus i sicrhau bod ein trefniadau ymateb yn effeithiol, a dyna
bwrpas cael y Gwasanaeth Rhanbarthol a’r gwaith cyson sy’n digwydd i
ddatblygu’r cynlluniau i ymateb, nid yn unig o fewn Gwynedd, ond drwy
gydweithio’n gyda’n partneriaid yn rhanbarthol hefyd.
·
Bod
newid y trefniadau ar alwad yn enghraifft ymarferol o’r gwersi a ddysgwyd o’r
cyfnod Cofid. Cyn y pandemig, roedd y
trefniadau’n dibynnu’n helaeth ar ddau neu dri o unigolion yn unig, ond
cyflwynwyd trefn bellach lle mae’r 7 uwch swyddog a enwyd ar dudalen 28 o’r
adroddiad, ynghyd â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol arall, yn
gweithio ar sail rota fel pwynt cyswllt i’r Gwasanaeth Rhanbarthol gysylltu â’r
Cyngor petai yna unrhyw argyfwng sy’n effeithio ar Wynedd. Roedd yn ymddangos bod y trefniadau’n
gweithio’n llawer mwy effeithiol na’r hen drefn, ac roedd y llinellau
cyfathrebu yn fwy eglur rhyngom ni a’r Gwasanaeth Rhanbarthol oherwydd hynny.
·
Bod
llawer o adnodd y Cyngor yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer casglu
gwybodaeth ar gyfer yr ymchwiliad Cofid cenedlaethol.
·
Bod
elfennau o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng
Rhanbarthol ar y cyd â’r cynghorau yn ystod y cyfnod Cofid yn cynnwys trefnu
cyfleusterau mortiwari a chefnogi’r Gwasanaeth Iechyd i ail-drefnu gwasanaethau
mamolaeth, adnabod safleoedd ar gyfer canolfannau brechu a chyflwyno’r rhaglen
frechu.
Holwyd faint, a phwy, o staff Gwynedd sydd
wedi derbyn hyfforddiant gwrthderfysgaeth.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y wybodaeth honno wrth law, ond yr amheuid
bod y ffigwr yn isel a bod hyn yn rhywbeth i edrych arno.
Mynegwyd pryder nad oes cyfeiriad yn y
llyfryn Paratoi ar gyfer Argyfyngau at effeithiau hirdymor y pandemig, megis yr
effaith meddyliol ar bobl a phlant, yr effaith ar lefaredd plant, busnesau yn
mynd i’r wal ayb. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
angen cydnabod ôl-effaith Cofid a rhoi mwy o sylw i hynny.
·
Bod
yr Is-grŵp Adfer, dan arweiniad y Pennaeth Economi a Chymuned, yn addas
iawn ar gyfer rhan, o leiaf, o’r sylw.
·
Bod
yna waith yn digwydd y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel Cynllun
Argyfwng Mawr, ond efallai y dylid adlewyrchu fwy ar yr hyn sy’n digwydd y tu
allan i hynny yn y llyfryn.
Mynegwyd pryder y gallai clefydau
anifeiliaid ddod i Brydain o’r cyfandir mewn bwyd anaddas. Holwyd pa gynlluniau oedd gan y Cyngor ar
gyfer ymdrin â hynny, faint o bobl sy’n gweithio yn yr Adran Clefydau
Anifeiliaid yng Ngwynedd a faint o adnoddau sydd wrth law petai clefyd o’r fath
yn torri allan. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Nad
oedd y wybodaeth fanwl wrth law ynglŷn â’r elfen ragweithiol yna o ddydd i
ddydd, ond yn sicr roedd yna gynlluniau ar gyfer ymateb i’r gwahanol fathau o
argyfwng allai ddeillio o unrhyw glwyf, ac roedd y Cyngor wedi ymateb i
sefyllfaoedd tebyg yn y gorffennol, megis Clwy Traed a’r Genau.
·
Bod
y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yn edrych ar gynlluniau i sicrhau
diogelwch anifeiliaid ar y cyd â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion,
sydd hefyd yn aelodau o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd.
Nodwyd y dylai’r pwyllgor hwn ofyn i’r
Cabinet edrych i mewn i’r mater hwn a sicrhau bod trefniadau yn eu lle rhag ofn
i glefyd anifeiliaid dorri allan y gaeaf nesaf.
Mewn ymateb, nodwyd y gellid gofyn i’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
ddarparu gwybodaeth i’r aelodau ynglŷn â’r adnodd sydd ar gael i ymdrin â
sefyllfaoedd o’r fath, gan hefyd hysbysu’r Aelod Cabinet o’r sylw ynglŷn
â’r angen i baratoi’n ddigonol.
Holwyd beth oedd barn cynrychiolydd y
Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol ynglŷn â’r newidiadau i’r
trefniadau ar alwad. Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Bod
y trefniant newydd yn gweithio’n dda iawn o safbwynt y rhanbarth a bod y
strwythur yng Ngwynedd yn cael ei adlewyrchu mewn rhai siroedd eraill.
·
Bod
y system ar-alwad yng Ngwynedd yn ddatblygedig iawn a bod y Gwasanaeth yn
gwybod â phwy i gysylltu ar unrhyw adeg, gyda’r rhifau perthnasol wedi’u storio
yn ffonau’r Gwasanaeth.
Mynegwyd pryder nad oedd swyddogion bellach
yn derbyn tâl y tu allan i oriau am ymdrin ag argyfwng dros y penwythnos. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Mewn
rhai meysydd o fewn y Cyngor, lle penderfynwyd ei bod yn angenrheidiol cael
pobl ar alwad neu ar ddyletswydd, bod y tâl yn parhau.
·
Bod
unigolion sy’n cael eu galw allan ar benwythnos, nad ydynt yn gweithio’n
arferol ar benwythnos, yn derbyn lleiafswm o ddwy awr o dâl ychwanegol am wneud
hynny, a phetai’r oriau hynny uwchlaw 37 awr, byddai amser a hanner am weithio
goramser yn daladwy.
·
Nad
oedd y Gwasanaeth yn ymwybodol o unrhyw drafferthion o ran y trefniadau hyn,
ond y byddai’r swyddogion yn falch iawn o drafod unrhyw enghreifftiau gyda’r
aelod y tu allan i’r cyfarfod.
Gan gyfeirio at y llyfryn Paratoi ar gyfer
Argyfwng, holwyd sut y bwriedid rhoi gwybod i’r cyhoedd am y camau i’w dilyn,
megis paratoi pecyn argyfwng. Mewn
ymateb, nodwyd:-
·
Bod
Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd yn edrych ar rannu gwybodaeth a bod
ymgyrch flynyddol ym mis Medi yn edrych ar gynllunio argyfwng, y risgiau a sut
i gael pobl i baratoi.
·
Bod
digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a bod y llyfryn
Paratoi ar gyfer Argyfwng yn ddogfen gyhoeddus sy’n cael ei rhannu.
·
Y
dymunid mynd â gwybodaeth i sioeau sir, ac ati, yn y dyfodol, ac roedd y
Gwasanaeth yn disgwyl canlyniadau peilot yn ymwneud â chydnerth cymunedol ac yn
cyflwyno rhaglen o gydnerth cymunedol i gynghorau tref a chymuned fel bod pobl
yn fwy ymwybodol o’r risgiau, ac yn gwybod sut i baratoi.
Holwyd pa drefniadau oedd mewn lle yng
Ngwynedd petai taflegryn yn taro Prydain.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Pe
byddai gweithred ryfel, mai mater i’r Llywodraeth Ganolog fyddai ymgysylltu â
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol o ran darparu cyngor a gwybodaeth ac
ymateb i’r sefyllfa.
·
Bod
y cyfnod Cofid wedi amlygu’r gefnogaeth mae Gwynedd yn dderbyn gan y Gwasanaeth
Cynllunio Argyfwng, a hefyd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mewn sefyllfa
o argyfwng, bod yna drefniadau, nid yn unig o fewn strwythur Gwynedd, ond o
fewn y strwythur rhanbarthol hefyd, gyda chynrychiolydd o Wynedd yn mynychu
cyfarfodydd lefel strategol a thactegol.
·
Bod
y Prif Weithredwr wedi derbyn hyfforddiant aur, ac y byddai mwy o swyddogion y
Cyngor yn derbyn yr hyfforddiant.
·
Bod
Gwynedd yn cydweithio â’r Gwasanaeth Rhanbarthol ar hyn o bryd i gadw ein dull
o ymateb i argyfyngau yn fyw ym meddyliau’r swyddogion drwy gynnal hyfforddiant
pen desg blynyddol ar gyfer yr uwch reolaeth o hyn allan.
Croesawyd y sylw bod yr uwch reolaeth yn
derbyn hyfforddiant, ond nodwyd ei bod yn bwysig bod y gweithwyr sydd ar y
talcen glo yn derbyn yr hyfforddiant hefyd.
Mewn ymateb, nodwyd bod gan bob un o’r 4 is-grŵp aelodau sy’n
cynrychioli’r talcen glo, a bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer yr
holl aelodau hynny.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: