Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a chael diweddariad ar y mater ymhen tua blwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a’r Rheolwr Rhaglenni Adfywio i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i ystyried y canlynol yng nghyd-destun y ffaith mai elfen o’r prosiect “Adfywio cymunedau a chanol tref” yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 yw paratoi cynlluniau gweithredu Canol Tref/Dinas ar gyfer trefi unigol:-

 

·         Y trefniadau ar gyfer paratoi cynlluniau gweithredu

·         Pwy sydd yn cael ei gynnwys wrth eu datblygu?

·         Sut y bwriedir mesur effaith y cynlluniau gweithredu?

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac ymhelaethodd y Rheolwr Rhaglenni Adfywio ar gynnwys yr adroddiad.  Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gofynnwyd beth oedd y trefniadau ar gyfer monitro bod yr holl gynlluniau aml-haenog a thrawsadrannol hyn yn gweithio’n effeithiol ac yn amserol, a holwyd a oedd gan y Cyngor gapasiti digonol ar gyfer ymgymryd â’r gwaith?  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y bu’r Cyngor yn gweithio drwy fforwm trawsadrannol dros y 2-3 blynedd ddiwethaf yn dod â materion canol tref at ei gilydd, a dyna’r bwriad o ran y cynllun hwn, fel bod yna fewnbwn a chynrychiolaeth gan wahanol adrannau.

·         Bod yr hyn fyddai’n cael ei fonitro yn ddibynnol iawn ar gynlluniau gweithredu unigol o fewn canol trefi, a chredid bod lle ymhob canol tref yng Ngwynedd i naill ai ddatblygu neu ddiweddaru cynllun canol tref er mwyn adnabod y blaenoriaethau, a monitro’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hynny.

·         Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, y gwelwyd yr angen i gryfhau’r data a gedwir ar gyfer ardaloedd canol trefi.  Roedd peth data hanesyddol ar gael, ond credid bod lle i osod data ychydig cryfach ar gyfer trefi unigol, yn hytrach nag yn sirol, fel bod hynny’n fodd o fonitro’r tueddiadau.

 

Holwyd beth fyddai’n digwydd petai cynlluniau’n llithro.  Mewn ymateb, nodwyd bod y ffrwd gwaith yma wedi’i adnabod fel un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ac y byddai’n rhan bwysig o drefniadau rheoli perfformiad yr Adran dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Holwyd pa mor hyderus oeddem fod yna gyllid digonol ar gael o’r rhaglen Trawsnewid Trefi i wireddu’r hyn y ceisir ei gyflawni, sy’n eithaf uchelgeisiol?  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Ein bod ym mlwyddyn 2 o’r rhaglen 3 blynedd Trawsnewid Trefi ar hyn o bryd, a byddai’n rhaid cynllunio ymlaen ar y sail y bydd yna raglen adfywio ddilynol.

·         Bod arian Llywodraeth Prydain, sef yr arian Ffyniant Bro a Ffyniant Cyffredin, wedi profi i fod yn arian sylweddol uwch na’r hyn sydd gan y rhaglen Trawsnewid Trefi i’w gynnig, ond y gwelwyd dros y 2 flynedd ddiwethaf o raglenni Llywodraeth Prydain fod angen i gynlluniau fod bron yn barod i gychwyn er mwyn bod yn gymwys am yr arian.

·         Bod angen rhagbaratoi’r cynlluniau a cheisio rhagdybio beth sy’n mynd i ddigwydd o ran rhaglenni presennol Llywodraeth Prydain, gan gymryd bod y ffocws yn mynd i barhau ar ganol trefi.

·         Bod Gwynedd, ar y cyd â sefydliadau eraill, megis Hwb Caernarfon, wedi cychwyn gweithredu rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru sy’n gosod wifi am ddim yn nhrefi’r sir er mwyn galluogi dal gwybodaeth ynglŷn ag, ee, nifer y bobl sydd wedi ymweld â gwahanol rannau o dref a hyd yr arhosiad, ayb.  Nid oedd yn gosod y gwaelodlin yn llawn, ac roedd yna ragor o waith i’w wneud o ran asesiad data, ond roedd yn fodd o weld effaith digwyddiadau neu ddatblygiadau penodol ar y niferoedd pobl ar y stryd fawr, ayb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r tablau ym mharagraff 2.5 a 2.6 o’r adroddiad, cadarnhawyd nad oedd y trefi wedi’u rhestru mewn trefn flaenoriaeth, ac y dymunid rhoi sylw i bob un ohonynt fel rhan o’r cynllun.  Er hynny, nodwyd y byddai’n rhaid blaenoriaethu weithiau, gan na fyddai’n bosib’ cyfarch pob angen ymhob tref.

 

Pwysleisiwyd bod busnesau yn y pentrefi'r un mor bwysig i’r pentrefi hynny ag ydi unrhyw fusnes yng nghanol tref, a holwyd a oedd peryg’ i’r pentrefi golli allan gan fod y cynllun hwn yn canolbwyntio ar y canol trefi?  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y diffiniad o ‘dref’ yn anodd, ac yn amrywio hyd yn oed o sir i sir o fewn Gogledd Cymru.

·         Bod gennym nifer sylweddol o drefi yng Ngwynedd a bod ceisio rhoi sylw i bob un ohonynt yn her sylweddol.

·         Y gobeithid bod unrhyw gefnogaeth i fusnes yn agored i bentrefi beth bynnag, a phrin iawn yw’r gwahaniaethu rhwng cefnogaeth fusnes mewn ardaloedd trefol a gwledig.

·         Er hynny, efallai bod rhai o’r ymyraethau a’r mesurau o fewn canol trefi ychydig bach yn wahanol eu natur i bentrefi, ond nid bwriad y gwaith hwn oedd eithrio busnesau mewn pentrefi rhag bod yn gymwys am gefnogaeth i fusnes.

 

Holwyd a oedd perygl bod yr Adran yn canolbwyntio adnoddau ar gynlluniau rhanbarthol ar draul cynlluniau penodol i Wynedd.  Mewn ymateb, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cymryd cyfrifoldeb am weinyddu a rheoli rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ar ran Gogledd Cymru, sydd wedi golygu lleihad yn y capasiti weithio ar brosiectau Gwynedd, yn sicr yn y tymor byr.

 

Nodwyd bod y cynllun Arfor 2 wedi creu ychydig o rwystredigaeth yn allanol.  Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet nad oedd yr Adran yn ymdrin yn uniongyrchol ag Arfor 2, ond y byddai’n edrych ar hyn ac yn dod yn ôl at yr aelod.

 

Gan gyfeirio at baragraff 4.2 o’r adroddiad, holwyd faint o arian sy’n dod i Wynedd o gronfa refeniw Llywodraeth Cymru.  Mewn ymateb, nodwyd, er na chredid bod yna ffigwr penodol mewn pot ar gyfer hyn, mai bychan oedd y swm, gan nad oes yna lawer o arian refeniw ar gael yn anffodus.

 

Mynegwyd pryder y gallai Aberdyfi fod heb siop nwyddau na swyddfa bost yn fuan iawn, a holwyd pa gymorth oedd ar gael i’r cyngor cymuned a’r aelod lleol i weld oes modd cael o leiaf un siop nwyddau yn y pentref.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y byddai yna gyfleoedd yn codi yn eithaf buan o ran cefnogaeth busnes ar gyfer adnoddau mewn trefi ac y gellid cael sgwrs bellach gyda’r aelod lleol ynglŷn â hynny y tu allan i’r cyfarfod.

·         Bod rhaid i Gyngor Gwynedd weithio ar y cyd gyda sefydliadau eraill i ymateb i heriau a chyfleoedd canol trefi, a chredid bod y cynghorau cymuned a thref yn sefydliadau eithriadol o bwysig yn y broses honno.

 

Holwyd pa rym oedd gan y Cyngor i fynd ati i dacluso rhywfaint ar eiddo gwag mewn trefi, megis gosod graffeg ffenestri ayb.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod grŵp traws-adrannol wedi’i sefydlu i roi sylw i eiddo gwag a chredid bod hynny’n rhan o flaenoriaethau’r Cyngor hefyd.

·         Er bod gan y Cyngor bwerau gorfodi mewn gwahanol feysydd, ei fod yn anodd adnabod y trothwy lle mae adeilad gwag yn mynd yn adeilad blêr sy’n effeithio ar fwynderau lleol.

·         Ei bod yn anodd gorfodi ar y sail bod adeilad yn wag yn unig, ac wrth ystyried unrhyw achos gorfodaeth, bod rhaid i’r Cyngor gyflwyno tystiolaeth o’r niwed sy’n cael ei greu o ganlyniad i gyflwr yr eiddo.

·         Er bod y gwaith cychwynnol wedi amlygu cymhlethdodau a rhai rhwystrau, credid bod yna fwy y gellid ei wneud, a diau y byddai’r grŵp eiddo gwag yn edrych ar hynny.

·         Bod y dull o brofi effaith eiddo gwag ar fwynderau cyfagos yn amrywio o adeilad i adeilad, ac yn dibynnu’n llwyr ar ba ddeddfwriaeth fyddai’r Cyngor yn ystyried sy’n berthnasol i’w achos penodol, e.e. deddfwriaeth gynllunio, rheolaeth adeiladu ayb.

 

Nodwyd bod bwriad i osod graffeg ffenestri ar eiddo gwag yn ardal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, ac awgrymwyd bod hyn yn rhywbeth i’r Cyngor adeiladu arno i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd y credid bod modd i’r Cyngor, mewn rhai achosion, fynnu bod cwmnïau cyfleustod yn adfer lonydd a phalmentydd i’w safon wreiddiol yn dilyn gwaith stryd, ond y byddai’n rhaid gwirio hynny gyda’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, a dod yn ôl at yr aelod.

 

Nodwyd bod yna brinder doctoriaid, nyrsys, deintyddion, optegwyr, ayb, yn Ne Meirionnydd, ac yn arbennig yn ardal Tywyn, a holwyd sut y gallai’r Cyngor wneud Tywyn yn dref fwy deniadol i bobl fod yn dymuno byw yno.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Ei bod yn amlwg bod yna bryderon ynglŷn â Thywyn yn benodol, a bod cyfres o gyfarfodydd wedi’u cynnal yn ddiweddar i drafod y sefyllfa.

·         Mai’r her i’r dyfodol fydd ceisio adnabod sut i adeiladu ar asedau a nodweddion arbennig Tywyn i’w gwneud yn dref fwy atyniadol i bobl fyw ynddi.

·         O bosib’ bod yr elfen o geisio denu proffesiwn neu sector benodol yn rhywbeth i’w ystyried fel rhan o waith canol tref Tywyn, a hynny mewn partneriaeth â’r rhanddeiliaid perthnasol, megis y Bwrdd Iechyd.

 

Croesawyd y ffaith bod yr Adran yn cydnabod bod pob tref yn unigryw, ac yn ceisio cynllunio yn unigol, yn hytrach nag yn arddel ymagwedd o’r top i lawr, gan gychwyn gyda’r aelodau lleol a’r cynghorau cymuned a rhanddeiliaid eraill sydd yn y dref.  Mynegwyd gobaith hefyd bod y swyddogion yn gwthio hyn yn y trafodaethau rhanbarthol, ac yn gwrthwynebu unrhyw duedd i gael atebion o’r top i lawr ar gyfer ein trefi.

 

Awgrymwyd bod Bethesda yn dref ôl-ddiwydiannol, yn hytrach nag yn ganolfan wledig, fel y’i disgrifir ym mharagraff 2.6 o’r adroddiad, a gofynnwyd am eglurhad o’r categorïau o drefi ym mharagraffau 2.5 a 2.6.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Mai’r bwriad o ran y categorïau yw adnabod y prif drefi y dymunir eu hymgorffori o fewn y cynllun.

·         Bod yr astudiaeth a baratowyd gan Hatch (y cyfeirir ati ym mharagraff 2.6 o’r adroddiad) yn ddarn o waith ar draws Gogledd Cymru i geisio adnabod gwahanol fathau o drefi.

·         Bod awgrym yn yr adroddiad bod gwahanol fathau o drefi yn wynebu gwahanol fathau o heriau, ac efallai bod angen ystyried mesurau penodol i ymateb i’r math o heriau mae’r trefi yma’n eu hwynebu.

·         Y cytunid nad yw Bethesda yn gorwedd yn daclus yn y categori ‘Canolfannau Gwledig’, ond bod rhai o’r trefi ôl-ddiwydiannol ar draws Gogledd Cymru yn drefi sylweddol mwy na Bethesda, a ddim yn union yn yr un categori chwaith.

·         Y gobeithid bod astudiaeth Hatch yn rhoi ychydig o ragflas o ran adnabod gwahanol fathau o drefi, a sut mae mynd o’i chwmpas i geisio ymateb i heriau’r trefi hynny, ond y byddai’r manylion i ddilyn yn y cynlluniau trefi unigol.

 

Holwyd sut roedd y Cynlluniau Canol Trefi yn cyd-blethu â fframwaith adfywio Ardal Ni 2035, sy’n cyfro Gwynedd gyfan, ac nid y trefi’n unig.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         O ran y fframwaith adfywio, y byddai’r cynlluniau gweithredu lleol yn cynnig y fframwaith ar gyfer prosiectau, boed y rheini’n drefol neu wledig, yn bentrefi neu’n ardaloedd mwy trefol.

·         Mai’r hyn sydd yn yr adroddiad gerbron y pwyllgor yw ymyraethau sy’n targedu canol trefi yn benodol, ond sydd ddim yn mynd ar draws rhaglenni eraill.

·         Diau y bydd yna ffrwd gwaith o ran datblygu gwledig, a gobeithio y bydd cyfleoedd yno i wireddu rhai o’r blaenoriaethau eraill sydd wedi’u hadnabod o fewn y fframwaith adfywio.

·         Y ceisid adnabod beth yw’r blaenoriaethau lleol, yr ymyraethau a’r prosiectau fel ein bod wedyn mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfleoedd ariannol i weithredu sy’n cwrdd ag amcanion lleol.

 

Holwyd i ba raddau y gwelid symudiad oddi mewn i ganol trefi wrth i’r siopau angenrheidiol symud i safleoedd manwerthu ar y cyrion / mynd ar-lein, a siopau hamdden a bwytai, ayb, ddod yn eu lle, ee ym Mhwllheli, lle mae’r Maes i weld yn fwy ffyniannus na’r Stryd Fawr, a Chaernarfon lle mae o gwmpas y Castell i weld yn fwy ffyniannus a graenus na Stryd Llyn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod hynny’n wir ymhob tref, ac o bosib’ nad oedd y cynlluniau blaenorol yn ystyried y newidiadau sydd wedi digwydd i ganol trefi dros y 10-15 mlynedd ddiwethaf.

·         Bod newidiadau yn aml iawn yn cynnig cyfleoedd newydd, a chredid bod hynny’n ystyriaeth wrth ddatblygu’r cynlluniau canol tref cyfredol.

 

Holwyd a ragwelir sefyllfa yn yr hir-dymor lle bydd angen dymchwel rhai adeiladau ar y stryd fawr gan nad oes defnydd iddynt.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Na fyddai’r cynllun cyfredol yn gallu ymateb i bob her ynghanol pob tref yng Ngwynedd, ond ceisid gosod y seiliau a gwneud y mwyaf y gellir yn ystod y 5 mlynedd i ddod.

·         Bod yna waith yn digwydd ar gynllun canol tref Caernarfon ar hyn o bryd oedd yn ystyried rhai cynigion mwy radical ar gyfer ambell safle yn yr hir-dymor.

·         Y bydd angen taro balans rhwng adnabod gweledigaeth glir a cheisio gosod targed cyraeddadwy o fewn 5 mlynedd, gan na ddymunir cael cynlluniau nad oes modd eu gwireddu.

·         Bod angen anelu at gael rhaglenni tymor byr a chanolig sy’n gyraeddadwy, gan adnabod cynlluniau ychydig mwy radical ar gyfer yr hir-dymor.

·         Bod treigl amser yn dangos sut mae’r symudiad mewn llefydd fel Pwllheli a Chaernarfon wedi digwydd, a bod lle i weithio’n fwy traws-adrannol yn yr hir-dymor.

·         Bod y drefn a’r broses gynllunio yn amlwg yn dod i mewn i hynny, a bod yna enghreifftiau mewn llefydd fel Bethesda, e.e., lle mae siop wedi’i hail-bwrpasu i fod yn dŷ.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod yna gyfleusterau, megis caffis, yn y canol trefi fel bod modd i bobl hŷn, yn arbennig, allu mynd i gymdeithasu.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod gan gyrff lleol y rôl o edrych ar ffyrdd mwy creadigol, o bosib’, o gynnig y math yma o ddarpariaeth.

·         Bod yna gyrff trydydd sector, ayb, sy’n camu i mewn i gynnig darpariaeth cymdeithasu, ayb.

·         Y dymunid canfod datrysiadau sy’n gweithio i dref unigol, a bod hynny yn amlwg yn mynd i amrywio o dref i dref, yn unol â’r brwdfrydedd a’r weledigaeth sydd yn y dref honno i ymateb i heriau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a chael diweddariad ar y mater ymhen tua blwyddyn.

 

 

Dogfennau ategol: