Agenda item

Cyflwyno blaenraglen ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’w mabwysiadu.

 

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - blaenraglen y pwyllgor ar gyfer 2023/24.

 

Cytunwyd i:-

 

·         Adnabod eitemau dros gyfnod o 18 mis, er mwyn hwyluso paratoi ar gyfer cyfarfodydd cyntaf 2024/25;

·         Rhaglennu diweddariad ar yr eitem Canol Trefi Gwynedd o gwmpas yr adeg hon y flwyddyn nesaf;

·         Ychwanegu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig fel eitem bosib’ ar y flaenraglen.

 

Gofynnwyd i’r Ymgynghorydd Craffu drafod y flaenraglen gyda’r Cadeirydd a chyflwyno’r flaenraglen ddiwygiedig i’r cyfarfod nesaf, neu cyn hynny drwy e-bost i’r aelodau.

 

Yna cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau mewn perthynas â threfniadau’r cyfarfodydd:-

 

Awgrymwyd bod y pwyllgor hwn yn cael ei ddominyddu gan eitemau addysg, a holwyd a fyddai’n bosib’ sefydlu trefn o gael un cyfarfod i graffu materion addysg, a chyfarfod dilynol i graffu materion mwy economaidd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y ceisid lledaenu’r materion ar draws y flwyddyn gyfan fel nad yw’r holl bwysau yn disgyn ar un adran ar gyfnod penodol.

·         Y gellid rhoi’r eitemau economi yn gyntaf ar y rhaglen, ond bod yr aelodau cyfetholedig yn mynychu ar gyfer yr eitemau addysg yn benodol, er bod croeso iddynt aros drwy gydol y cyfarfod.

 

Awgrymwyd nad oedd presenoldeb yr aelodau cyfetholedig ar gyfer yr eitemau addysg yn unig yn ddigon o reswm i roi’r eitemau economi / corfforaethol yn olaf ar y rhaglen bob tro, a bod angen sefydlu trefn am-yn-ail, gan roi gwybod i’r aelodau cyfetholedig pan mae’r drafodaeth ar y materion addysg ar fin cychwyn.

 

Nododd aelod ei bod yn cofio cais yn cael ei wneud i wahanu materion addysg ac economi, a bod hynny wedi ei wneud yn dwt yn y blaenraglen, ond bod angen rhoi ystyriaeth i gael cydbwysedd o ran trefn yr eitemau ar raglenni cyfarfodydd Pwyllgor.  Ymhelaethodd y byddai’n well ganddi weld dau bwyllgor craffu cwbl ar wahân, y naill ar gyfer craffu materion addysg, a’r llall ar gyfer craffu materion economi / corfforaethol, oherwydd y llwyth gwaith.  Awgrymodd aelod arall y dylai materion economi gael eu craffu gan y Pwyllgor Cymunedau gan fod yna lawer o orgyffwrdd rhwng y ddau faes, a bod llwyth gwaith y pwyllgor hwnnw yn ysgafnach.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd:-

 

·         Yn sgil yr adolygiad o effeithiolrwydd craffu yng Ngwynedd, a chyfweliadau gyda rhai aelodau, y disgwylid adroddiad drafft gan Archwilio Cymru yn fuan.

·         Y rhoddwyd addewid adeg yr etholiad llynedd, pan sefydlwyd y drefn bresennol o rannu cyfrifoldebau rhwng y 3 phwyllgor craffu, y byddai’r drefn honno’n cael ei hadolygu ymhen 18 mis.

·         Bod bwriad, felly, yn yr Hydref, i adolygu’r drefn bresennol, ynghyd â’r hyn fydd yn cael ei argymell yn adroddiad Archwilio Cymru, a byddai gan yr aelodau fewnbwn i unrhyw newidiadau fyddai’n deillio o hynny.

 

Nododd aelod nad oedd yn ymwybodol bod cyfle wedi bod i’r aelodau roi sylwadau i Archwilio Cymru, gan ddatgan y byddai’n falch petai cyfle eto i’r cynghorwyr roi sylwadau yn unigol.  Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid ymgynghori â’r craffwyr o ran yr adolygiad mewnol o’r drefn graffu, a byddai’r aelodau yn cael eu hysbysu o’r trefniadau ar ôl yr haf.

 

          PENDERFYNWYD mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24.

 

Dogfennau ategol: