I ddiweddaru y Pwyllgor ar y cynnydd yn y rhaglen waith
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd diweddariad gan Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol (Swyddog Monitro) ar raglen waith gweithredu Deddf Llywodraeth Leol
Etholiad (Cymru) 2021. Atgoffwyd yr Aelodau bod nifer o gamau gweithredu yn
deillio o ddarpariaethau’r Ddeddf a ddaeth i rym yn 2022 yn dilyn Cydsyniad
Brenhinol. Nodwyd bod y Ddeddf wedi ei gosod o fewn Cofrestr Risg Corfforaethol
y Cyngor gyda’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cadw trosolwg a sicrwydd ar
y gweithredu sydd ei angen i weithredu’r darpariaethau.
Amlygwyd bod prif elfennau’r Ddeddf wedi eu
mabwysiadu a bellach yn weithredol ynghyd a’r Strategaeth Cyfranogiad a’r
Cynllun Deisebau wedi eu mabwysiadu ac yn cael eu gosod ar wefan y Cyngor. Ategwyd
bod y gwaith ar baratoi Canllawiau i'r Cyfansoddiad drafft yn cael eu cwblhau
ac y bydd angen cynnal proses ymgynghorol cyn y gellid cyhoeddi fersiwn derfynol.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Ddeddf yn darparu dewis
trefn bleidleisio ‘pleidlais sengl drosglwyddadwy’ (Single
Transferable Vote -
STV) ar gyfer etholiadau Prif Gynghorau
ac fe ddarparwyd papur briffio ar gyfer Arweinyddion Grwpiau ar y mater
yma. Nodwyd bod bwriad cynnal gweithdy
i’r holl aelodau ym Mehefin 2023 i drafod y nifer materion sydd yn datblygu ar
draws maes etholiadau a phleidleisio, fydd yn cynnwys yr elfen yma. Yn dilyn
hyn, bydd angen adrodd ar drefn pleidleisio i'r Cyngor Llawn yn ystod yr Hydref
er gwyntyllu'r dewisiadau a cheisio arweiniad ar ddymuniad i gychwyn proses ystyried
mabwysiadau trefn amgen.
Elfen olaf y gwaith fydd cwblhau gwaith diweddaru
ac addasu'r Cyfansoddiad (er bod
diweddariadau angenrheidiol eisoes wedi eu mabwysiadau a’u cyhoeddi).
Eglurwyd bod materion technegol angen eu cwblhau (megis materion o gwmpas y Cyd
Bwyllgor Corfforaethol) a chyfle hefyd i adolygu a diweddaru cynnwys y
Cyfansoddiad yn gyffredinol. Y bwriad yw cwblhau'r gwaith yn derfynol erbyn yr
Hydref gydag adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor am arweiniad ar
elfennau penodol.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag apwyntio
‘panel’ (o drigolion a budd-ddeiliaid) ar gyfer cynnal asesiad perfformiad y
Cyngor fydd yn cyfarfod unwaith bob tymor i adolygu gwaith y Cyngor, nodwyd bod
y ddarpariaeth mewn grym. Ategwyd mai’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sydd
a’r rôl ganolog i dderbyn adroddiadau ar berfformiad, ac y bydd disgwyl i’r
adborth o’r panel gael ei fwydo i mewn i gyfundrefn perfformiad y Cyngor fel
bod modd i'r Pwyllgor ei ystyried cyn cyflwyno i’r Cabinet.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â pharatoi
canllawiau i’r Cyfansoddiad ac os mai ‘dogfen i egluro dogfen’ fydd hyn, nododd
y Swyddog Monitro bod y Cyfansoddiad yn ddogfen weithredol o tua 300 tudalen ac
y byddai’r ddogfen yn grynodeb fyddai’n cynnwys prif agweddau’r
Cyfansoddiad wedi ei hysgrifennu mewn
dull llai technegol, yn egluro trefniadau’r Cyngor ynghyd ag elfennau llywodraethiant a gweithredol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag annog cyfranogiad
ac i ba raddau bydd hyn yn rhedeg yn gyfochrog a threfniadau Democratiaeth,
nododd y Swyddog Monitro mai amcan Llywodraeth Cymru oedd creu cyswllt
perthnasedd llywodraeth leol gyda’r gymuned - bod y rhai hynny sydd gydag elfen
o ddiddordeb yn gallu cyfrannu. Ategodd bod rhai cryfhau’r broses, ond bod trefn ddigon aeddfed wedi ei
sefydlu i gloriannu’r mewnbwn.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phenderfyniad
pwy fydd yn mabwysiadu’r drefn STV ac a fyddai lle i ddwy drefn, nodwyd mai un
opsiwn mae’r Ddeddf yn gynnig ac nad oes dyletswydd i adolygu’r drefn
bresennol. Er hynny, ategwyd mai pwysig fyddai cynnal y drafodaeth ynglŷn
â’r opsiwn boed yn fater i Wynedd neu beidio.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad a’r cynnydd yn y rhaglen waith
Dogfennau ategol: