NEW HORIZONS, PARC CARAFANAU SUNNYSANDS, TAL Y BONT, GWYNEDD LL43 2LQ
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
CANIATAU y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Ymgorffori'r
materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau
ar y drwydded.
Ymgorffori'r
amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu fel amodau i’r drwydded.
COFNODION:
Eraill a wahoddwyd:
Elizabeth
Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)
Ryan Rothwell (Cynrychiolydd yr ymgeisydd)
Cyng. Eryl Jones-Williams (Aelod Lleol)
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan
gwmni New Horizons mewn perthynas ag ymestyn yr oriau Alcohol, oriau
Cerddoriaeth Fyw ac wedi ei Recordio. Amlygwyd bod y drwydded bresennol yn
caniatáu Gweithgareddau Trwyddedig hyd 11yh dydd Sul - Sadwrn, a bod yr
ymgeisydd yn cynnig amodau diwygiedig i ymestyn o 11yh i 2yb. Byddai’r
gerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio ond yn digwydd dan do.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiad
i’r cais wedi ei dderbyn gan breswylydd cyfagos oedd yn pryderu am gynnydd swn
o’r safle ac y byddai ehangu’r oriau yn newid naws deuluol y parc. Roedd Heddlu
Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau oedd yn cynnwys argymell amodau TCC,
Polisi Her 25 ac nad oedd hawl i blant fod ar yr eiddo wedi 23:00.
Nodwyd bod yr
Heddlu wedi ymweld a’r safle a cadarnhaodd yr ymgeisydd dros e-bost y byddai
holl awgrymiadau’r Heddlu yn cael eu cynnwys yn rhaglen weithredol y drwydded
newydd os byddai’r cais yn cael ei ganiatau gan yr Is-bwyllgor.
Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell cymeradwyo’r cais yn unol â sylwadau’r Heddlu a gofynion
Deddf Trwyddedu 2003.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd:
·
Bod y Parc Gwyliau wedi cydweithio gyda’r Heddlu
·
Mai dim ond un gwrthwynebiad oeddd wedi dod i law
·
Bod perchnogion yn gwisgo band garddwrn ar gyfer
mynediad
·
Bydd goruchwylwyr drysau yn aros hyd nes bydd
popeth wedi cau lawr
c)
Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y
cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.
Cyng. Eryl Jones
Williams (Aelod Lleol)
·
Ei fod yn pryderu bod yr eiddo yn mynd i fod ar
agor i’r cyhoedd
·
Bod angen sicrhau bod goruchwylwyr drysau ar gael a
bod mesurau diogelwch
yn eu lle
Elizabeth Williams
(Heddlu Gogledd Cymru)
·
Bod cytundeb i ymestyn oriau caniatáu plant i mewn
i’r eiddo o 23:00 i 23:30
·
Bod yr Heddlu wedi eu galw i’r Parc i ymdrin ag
achosion domestig ac nid at faterion yn ymwneud a’r eiddo trwyddedig
Mewn ymateb i
gwestiwn os oedd y galwadau yn ymwneud ag alcohol, nodwyd bod alcohol yn
ffactor mewn nifer o’r digwyddiadau, ond nad oedd modd gwahaniaethu rhwng yfed
ar yr eiddo ac yfed mewn carafanau. Ategodd, gyda bwriad i ymestyn oriau
gwerthu alcohol hyd 2:00, bod gan yr eiddo fesuriadau rheolaeth mewn lle, yn
wahanol i reoli yfed yn breifat mewn carafán.
ch) Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y
cais.
Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor
ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â
diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob
parti yn bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor
ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol
i’r amcanion uchod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn unol â
sylwadau’r Heddlu, a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.
Rhoddwyd amrywiadau i’r drwydded gyfredol
fel a ganlyn:
Cerddoriaeth Fyw Dan do
Dydd Sul 12:00 - 24:00
Dydd Llun/ 12:00 - 24:00
Dydd Mawrth 12:00 - 24:00
Dydd Mercher 12:00 - 24:00
Dydd Iau 12:00 - 24:00
Dydd Gwener 12:00 - 24:00
Dydd Sadwrn 12:00 - 24:00
Cerddoriaeth wedi ei Recordio Dan do
Dydd Sul 12:00 - 02:00
Dydd Llun 12:00 - 02:00
Dydd Mawrth 12:00 - 02:00
Dydd Mercher 12:00 - 02:00
Dydd Iau 12:00 - 02:00
Dydd Gwener 12:00 - 02:00
Dydd Sadwrn 12:00 - 02:00
Perfformiadau Dawns Dan do
Dydd Sul 17:00 - 23:00
Dydd Llun 17:00 - 23:00
Dydd Mawrth 17:00 - 23:00
Dydd Mercher 17:00 - 23:00
Dydd Iau 17:00 - 23:00
Dydd Gwener 17:00 - 23:00
Dydd Sadwrn 17:00 - 23:00
Cyflenwi Alcohol Ar yr Eiddo
Dydd Sul 11:00
- 02:00
Dydd Llun 11:00
- 02:00
Dydd Mawrth 11:00
- 02:00
Dydd Mercher 11:00 - 02:00
Dydd Iau 11:00
- 02:00
Dydd Gwener 11:00
- 02:00
Dydd Sadwrn 11:00
- 02:00
Cynnwys y mesurau ychwanegol, fel y gwelir
yn rhan M y cais, fel amodau i’r drwydded
Ymgorffori yr amodau a gynigwyd gan yr
Heddlu ag eithrio bod yr amod sy’n gwahardd plant rhag mynychu’r safle
trwyddedig yn cael ei newid i 23:30
Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.
Yng nghyd-destun
Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr
Heddlu dystiolaeth i wrthwynebu'r cais.
Roedd unrhyw ddigwyddiadau y cafodd yr heddlu eu galw iddynt fel arfer
yn faterion yn y carafannau eu hunain yn hytrach nag yn ganlyniad i
weithagreddau trwyddedig yn yr eiddo.
Roedd yr Heddlu wedi cyfarfod gyda Rheolwr Cyffredinol y Safle i drafod
argymhellion i gynnwys amodau a chytunodd yr ymgeisydd i’w cynnwys ar y
drwydded ond y dylid amrywio’r amod mynediad i blant i 23:30, gan nad yw’r
adloniant yn dod i ben tan 23:00.
Cadarnhaodd cynrychiolydd yr heddlu fod hyn yn dderbyniol.
Yng
nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd tystiolaeth yn berthnasol
i’r egwyddor hwn.
Yng nghyd-destun
Atal niwsans cyhoeddus, derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu gan breswylydd
cyfagos oedd yn pryderi y bydd yna gynnydd mewn sŵn o'r safle yn sgil
cwsmeriaid sydd wedi meddwi ac yn swnllyd yn gadael y safle yn hwyr yn y nos.
Roedd yr is-bwyllgor yn fodlon serch hynny fod yr amodau ar y drwydded yn
enwedig y ffaith mai preswylwyr yn unig oedd yn cael mynychu’r eiddo yn
ddigonol i gyfarch y gofidion yma.
Yng nghyd-destun
Gwarchod Plant Rhag Niwed, roedd amod i’w ychwanegu ar y drwyddded yn
gwahardd plant rhag mynychu’r safle trwyddedig ar ôl 23:30.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: