Agenda item

PARC GWYLIAU BRYNTEG, LLANRUG, GWYNEDD, LL55 4RF

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

CANIATAU y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

·         Bod bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig i'w dileu o'r cais.

·         Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae dan do yn unig.

·         Ni fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus’]

·         Bydd yr holl ffenestri a drysau (gan gynnwys drysau deublyg) yn cael eu cadw ar gau ar ôl 23:00 pan fydd Adloniant Rheoledig yn digwydd, ac eithrio mynediad ac allanfa uniongyrchol pobl.

·         Bydd rhif ffôn ar gael yn ystod y ddarpariaeth Adloniant Rheoledig i'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn amrywio'r Drwydded Eiddo.

 

Nodyn:

Cynllun llawr wedi'i ddiweddaru o ardal gweithgareddau trwyddedu awyr agored i'w gyflwyno

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

Mr Jonathan Smith (Cynrychiolydd Park Holidays UK)

Mr John Flack (Pennaeth Adloniant Park Holidays UK)

Mr Gavin Cox (Rheolwr Cyffredinol Bryn Teg)

Cynghorydd Berwyn Parry Jones (Aelod Lleol)

Fiona Zinovieff (Preswylydd Lleol)

Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan gwmni Park Holidays Ltd mewn perthynas a cheiso’r hawl i wneud newidiadau i gynllun lleoliad ardal drwyddedig Bar y Lolfa a’r ardal fwyta. Yn ogystal, gofynnwyd am yr hawl i ychwanegu’r gweithgareddau trywddedig Dramau, Bocsio / Paffio a Restlo, a pherfformiadau o ddawns tu mewn yn unig ddydd Llun i ddydd Sul 9:00 y bore tan hanner nos.

 

Cadarnhawyd y byddai pob rhan o’r cynllun amlinelliad ardal drwyddedig yn aros yr un fath, ac y bydd y gweithgareddau trwyddedig ac oriau sydd ar y drwydded gyfredol yn aros yr un fath. Gofynnwyd am yr hawl i newid amod ar y drwydded er mwyn gallu cydymffurfio gyda’r newidiadau i’r cynlluniau amlinellol. Nid oedd yr ymgeisydd yn cynnig unrhyw amodau ychwanegol i’r hyn sydd ar atodlen weithredol y drwydded gyfredol, er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Nid oedd unrhyw newid i’r oriau gweithgareddau trwyddedig, nac i’r amodau yn yr atodlen weithredol.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan amryw o breswylwyr cyfagos, y Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Niwsans Cyhoeddus (parhad a chynnydd mewn aflonyddwch swn yn bennaf) a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau bod cwynion wedi eu derbyn. Nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd; oni all yr ymgeisydd gynnig mesurau rheoli sŵn yn yr atodlen weithredol, a chyfyngu gweigareddau adloniant rheoledig trwyddedig tu mewn yn unig.

 

Ers dyddiad cyhoeddi’r adroddiad, cynigiwyd amodau arfaethedig gan yr ymgeisydd ynghyd ag astudiaeth achos Taylor v Manchester City Council yn dangos dymuniad y cyfreithwyr ar ran yr ymgeisydd i wneud y pwynt mai ystyried y materion sydd yn destun amrywiad a ddylai’r Awdurdod Trwyddedu fod yn ei wneud yn hytrach nag amodau / a gweithgareddau trwyddedig sydd eisoes ar y drwydded. Roedd yr amodau arfaethedig yn cynnig;

·         Byddai bocsio a reslo fel gweithgareddau trwyddedig yn cael eu dileu o'r cais.

·         Bod cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi'i recordio i'w chwarae dan do yn unig.

·         Na fydd unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, yn cael eu symud neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus’]

·         Byddai'r holl ffenestri a drysau (gan gynnwys drysau deublyg) yn cael eu cadw ar gau ar ôl 23:00 pan fydd Adloniant Rheoledig yn digwydd, ac eithrio mynediad ac allanfa uniongyrchol pobl.

·         Bydd rhif ffôn ar gael yn ystod y ddarpariaeth Adloniant Rheoledig i'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn amrywio'r Drwydded Eiddo.

 

Amlygywd bod cyfreithwyr yr ymgeisydd wedi anfon drafft o’r cais cyn ei gyflwyno i Swyddog Gwarchod yr Amgylchedd, oherwydd hanes cwynion sŵn. Cytunwyd gyda’r Swyddog na fyddai gwrthwynebiad Iechyd Amgylchedd i’r cais am amrywiad os byddai’r ymgeisydd yn fodlon tynnu’r hawl i gynnal adloniant rheoledig tu allan i’r eiddo oddi ar y drwydded. Pan gyflwynwyd y cais, nid oedd yn cynnwys yr amrywiad a gytunwyd i gyfyngu adloniant tu mewn yn unig oherwydd hanes o gwynion sŵn. Dyma felly oedd sail argymhelliad yr adroddiad.  

 

Ar sail yr amodau newydd a gynigiwyd roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·         Bod y cais i gynnwys dangos ffilmiau

·         Bod y parc gwyliau wedi ei brynu gan Park Holidays Ltd yng Ngorffennaf 2022 ac felly bod nifer o’r cwynion a gyfeiriwyd atynt yn hanesyddol.

·         Bod rheolwr safle wedi ei benodi ac y bydd rhif ei ffôn ar gael

·         Bod gwaith wedi ei wneud i addasu cynllun llawr yr ardal drwyddedig

·         Nad oedd cais am estyniad i oriau gwerthu alcohol

·         Bod yr amodau arfaethedig a gynigwyd yn lliniaru pryderon

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chau ffenestri i gadw’r sŵn i lawr ac os oedd hyn yn rhan o’r drwydded bresennol, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd wedi ei gynnwys ar y drwydded, ond yn rhan o ymarfer da i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amser mynediad i’r cyhoedd, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod y parc gwyliau ar agor i berchnogion y carafanau a’u gwesteion. Ategodd bod gwerthu alcohol yn gorffen am 2am ac nad oedd cais i newid hyn.

 

Amlygodd y Cyfreithiwr nad oedd modd trafod amodau’r drwydded bresennol ac mai’r ‘amrywiad’ yn unig oedd dan sylw

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Cyng. Berwyn parry Jones   (Aelod Lleol)

·         Ei fod yn croesawu yr amodau arfaethedig – hyn yn dro pedol

·         Yn gobeithio y byddai’r cwmni yn cadw at ei gair  - ni welwyd newid yn y gorffennol – angen sicrwydd

·         Bod angen diweddaru’r cynllun llawr i ddynodi’r addasiadau

·         Ers i’r drysau mewnblyg eu gosod, hyn wedi arwain at y noson fwyaf swnllyd erioed -  seremoni’r coroni

·         Bod ganddo amheuon ynglŷn ag ymarferoldeb cau drysau a ffenestri, ond yn deall bod system aerdymheru mewn lle

·         Derbyn bod perchnogion newydd i’r Parc ond ymddengys bod mwy o ystyriaeth yn cael ei roi ar fwynderau trigolion y Parc ac nid trigolion lleol (sydd i raddau yn agosach at y sŵn na pherchnogion y carafanau).

·         Bod y cynigion lliniaru sŵn wedi eu cyflwyno yn frysiog ac nad oedd sicrwydd y byddai hyn yn llwyddiannus - awgrymu gohirio penderfyniad hyn nes bydd cynllun diwygiedig wedi ei gyflwyno a bod rheolwyr y parc wedi gwneud ymdrech i roi mesurau rheoli a lliniaru effaith sŵn effeithiol mewn lle.

 

Fiona Zinovieff

·         Mwy o sŵn o ganlyniad i osod drysau plyg newydd

·         Nad oedd cwynion yn 2022 oherwydd nad oedd adloniant yn cael ei gynnal

·         Bod sŵn o noson ddathlu’r coroni wedi bod yn annioddefol

·         Bod y sŵn yn cario i dai cyfagos

·         Bod y gwaith ailwampio wedi golygu bod yr adral adloniant bellach yn cefnu ar y tai cyfagos – drysau agored yn unig ar y ffin

·         Wedi derbyn addewidion yn y gorffennol ond heb eu gwireddu

 

Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Bod cwynion sŵn yn berthnasol i’r Adran Gwarchod y Cyhoedd

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer cwynion a dderbyniwyd, nodwyd bod cwynon wedi eu derbyn gan Adran Gwarchod y Cyhoedd yn ystod noson dathlu’r coroni ac mewn ymateb bod rheolaeth gaeth bellach i gadw’r drysau plyg ar gau yn ystod digwyddiadau trwyddedig.

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi eu hachos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd;

·         Bod gan y cwmni 64 o safleoedd ac felly nid oedd yn gwmni bach

·         Bod amodau diogelwch wedi eu cynnig

·         Bod y cynllun llawr wedi cael ei addasu

·         Bydd rhif ffon ar gael i drigolion lleol

·         Nad oedd oriau ychwanegol yn rhan o’r cai

·         Y gobaith yw gwella’r sefyllfa ac na fydd adolygiad o’r drwydded

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu:

·         Bod yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd wedi newid yr argymhelliad

·         Pe byddai’r Isbwyllgor yn penderfynu caniatáu y cais a derbyn yr amodau, byddai rhaid i eiriad yr amodau fod yn glir o ran eglurhad gweithredu a gorfodi – bod grym amodi effeithiol gan yr Is-bwyllgor

 

d)            Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Rhoddir amrywiadau i’r drwydded gyfredol fel a ganlyn:

 

Y cynllun gyflwynwyd gyda’r cais i’w addasu yn sgil y ffaith na fydd gweithgareddau trwyddedig yn digwydd o dan do yn unig.

 

Ychwanegu’r gweithgareddau canlynol at y drwydded:

 

Dramau: Dan Do

Dydd Sul                     09:00   -           24:00

Dydd Llun                    09:00   -           24:00

Dydd Mawrth              09:00   -           24:00

Dydd Mercher             09:00   -           24:00

Dydd Iau                      09:00   -           24:00

Dydd Gwener              09:00   -           24:00

Dydd Sadwrn              09:00   -           24:00

 

Ffilmiau:  Dan do     

Dydd Sul                     09:00   -           24:00

Dydd Llun                    09:00   -           24:00

Dydd Mawrth              09:00   -           24:00

Dydd Mercher             09:00   -           24:00

Dydd Iau                      09:00   -           24:00

Dydd Gwener              09:00   -           24:00

Dydd Sadwrn              09:00   -           24:00

 

Digwyddiadau Chwaraeon dan do:                                   

Dydd Sul                     09:00   -           24:00

Dydd Llun                    09:00   -           24:00

Dydd Mawrth              09:00   -           24:00

Dydd Mercher             09:00   -           24:00

Dydd Iau                      09:00   -           24:00

Dydd Gwener              09:00   -           24:00

Dydd Sadwrn              09:00   -           24:00

 

Perfformiadau Dawns:  Dan Do

Dydd Sul                     09:00   -           24:00

Dydd Llun                    09:00   -           24:00

Dydd Mawrth              09:00   -           24:00

Dydd Mercher             09:00   -           24:00

Dydd Iau                      09:00   -           24:00

Dydd Gwener              09:00   -           24:00

Dydd Sadwrn              09:00   -           24:00

 

Cerddoriaeth Fyw - Y gweithgaredd i’w gyfyngu i fod dan do yn unig o hyn ymlaen

 

Cerddoriaeth Wedi ei Recordio - Y gweithgaredd i’w gyfyngu i fod dan do yn unig o hyn ymlaen

 

Amrywio’r amodau presennol fel y nodir yn y cais, ond wedi ei addasu ymhellach i gymryd i ystyriaeth fod y gweithgareddau trwyddedig bellach wedi eu cyfyngu i fod dan do a bod y cynllun fel canlyniad wedi ei addasu fel nodir uchod.

 

Ychwanegu’r amodau canlynol i’r drwydded:

 

Ni chaniateir symud unrhyw wastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys poteli, na'u symud o neu eu gosod mewn unrhyw ardal allanol rhwng 23:00 a 08:00 y diwrnod canlynol. [I ddisodli’r amod presennol o dan ‘Niwsans Cyhoeddus’]

 

Yr holl ffenestri a drysau (yn cynnwys, i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, y drysau ‘bi-fold’) yn cael eu cadw ar gau ar ôl 23:00 pan fydd Adloniant Rheoledig yn digwydd, ac eithrio i ganiatau mynediad ac allanfa pobl.

 

Bydd rhif ffôn ar gael yn ystod darparu Adloniant Rheoleiddied i'r bobl hynny sydd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn amrywio'r Drwydded Safle i'w hystyried mewn gwrandawiad ar 26 Mai 2023.

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais a ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus roedd un ymatebydd o’r farn fod ardal y bar yn fychan iawn ar gyfer niferoedd cwsmeriaid a fwriedir, ond mae capasiti yn fater i’r asesiad risg tân yn hytrach na’r gyfundrefn drwyddedu. Roedd sawl ymatebydd yn nodi fod y ffordd at fynedfa Bryn Teg yn gul , prysur a pheryglus, ond nid oedd dim tystiolaeth i awgrymu na ddylid caniatáu’r cais ar y sail yma.

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, nodwyd y  profiadau o aflonyddwch oherwydd sŵn yn deillio o’r parc gwyliau  dros y blynyddoedd diwethaf gydag amryw o drigolion yn nodi fod y sŵn wedi bod yn ddigon drwg ac yn digwydd digon rheolaidd fel y bu iddynt gwyno ar sawl achlysur i’r aelod lleol, i’r Cyngor ac yn uniongyrchol i gyn-reolwyr Bryn Teg.

Nodwyd o’r ymatebion fod achlysuron lle nad oedd  drysau a ffenestri  yn cael eu cau yn ystod adloniant tu mewn i'r adeilad; ac fel canlyniad fod sŵn i’w glywed yn glir ac uchel mewn anheddau tu hwnt i’r parc.

Roedd sawl ymatebydd yn nodi fod  poteli gwydr yn cael eu gwagio i gynhwysyddion ailgylchu tu allan  yn hwyr yn y nos ar ôl i weithgareddau trwyddedig ddod i ben. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod amod ar atodlen weithredol gyfredol yr eiddo sydd yn nodi nad yw hyn i fod i ddigwydd

Roedd swyddogion wedi cadarnhau fod cwynion sŵn wedi eu derbyn gan drigolion lleol am weithgareddau trwyddedig ar y Parc Gwyliau, a bod ymgais wedi bod i gael rheolwyr y Parc i liniaru’r sŵn.

Nodwyd serch hynny na chyflwynwyd sylwadau gan y Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd ar sail dealltwriaeth mai’r bwriad oedd cyfyngu’r gweithgareddau trwyddedig cyfredol i’r tu mewn yn unig a bod y cais bellach wedi ei ddiwygio i gyfarch  pryderon yr Awdurdod

Roedd amodau penodol wedi eu cynnig i fynd i’r afael a sŵn ac egluroddd y swyddogion bod cau ffenestri a drysau yn ddull effeithiol iawn o reoli sŵn. Nodwyd hefyd bod system aerdymheru bellach wedi ei osod fel na fydd rhaid agor ffenestri pan fydd hi’n boeth.

Nodwyd bod y problemau wedi codi yn ystod cyfnod perchnogion a rheolwyr blaenorol, er bod un achos diweddar lle roedd ffesnest ar agor, ond byddai amod newydd pendol yn delio a hyn

Ar nodyn cyffredinol, dylid nodi y gallai’r  is-bwyllgor ond ystyried yr amrywiad penodol oedd yn destun y cais. Pe bai problemau'n codi gyda'r modd yr oedd yr eiddo yn cael ei redeg o safbwynt trwyddedu, yna roedd y ddeddfwriaeth yn darparu gweithdrefn adolygu lle gellid gofyn i'r awdurdod adolygu unrhyw agwedd o’r drwydded os oedd angen.

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Roedd yr Is-bwyllgor yn falch o nodi  bod yr ymgeisydd wedi ystyried y sylwadau a gyflwynwyd ac wedi bod yn fodlon cyfaddawdu drwy addasu’r cais a chynnig lleihau'r gweithgareddau oedd eisoes ar y drwydded.  Yn yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais fel yr addaswyd ef yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly fe ganiateir y cais

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: