I ystyried a derbyn yr adroddiad hwn
ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 25 Ionawr 2023 hyd 31 Mawrth 2023,
sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau
cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
-
Cynllunio – Trefniadau
Cyfathrebu
-
Mesurau Diogleu Amddiffyn
Rhyddid
-
Manddaliadau
Nodyn: Atodiad 10 Trefniadau Recriwtio a Dargadw Staff. Camau
gweithredu.
Pwynt bwled 3 ‘Symud y system ffurflenni gadael i system
Hunanwasaneth y Cyngor ond parhau i flaenoriaethu cyfweliadau wyneb yn wyneb
fel modd o ganfod rhesymau unigolion dros adael eu swyddi’
Cofnod:
Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn
diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 25 Ionawr 2023 hyd
31 Mawrth 2023. Amlygwyd bod 12 o archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu
cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel
sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.
Cyfeiriwyd at bob
archwiliad yn ei dro.
Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol
· Cynllunio – Trefniadau Cyfathrebu – Cyfyngedig
-
Bod perfformiad y gwasanaeth
yn annigonol wrth ymateb i geisiadau cynllunio
-
Nad yw gorfodaeth cynllunio yn
digwydd
-
Yng nghyd-destun
penderfyniadau cynllunio wedi eu gwneud o fewn 8 wythnos, er bod 70% o’r
ceisiadau a wiriwyd wedi derbyn penderfyniad o fewn yr 8 wythnos, bod angen mwy
o wybodaeth a manylder am y 30% arall
-
Bod yr adroddiad yn siomedig,
ond nid yn syndod. Er bod yr adroddiad
yn nodi problemau cyfnod covid a phroblemau recriwtio, pa mor ffyddiog yw’r
Uned Archwilio y gall y Gwasanaeth Cynllunio weithredu yn effeithiol?
-
Awgrym bod trefniadau
gorfodaeth yn cael ei ystyried fel maes i’w archwilio
Mewn
ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Archwilio mai’r Rheolwr Cynllunio oedd
wedi cynnig y camau gweithredu ac felly
bod pryderon megis adnoddau staffio wedi eu hystyried wrth drafod yr adroddiad
drafft a’r cynllun gweithredu gyda’r archwilwyr.
· Trefniadau Clefyd Coed Ynn
-
Y dylai risgiau i bobl a
cherbydau uchafu risgiau i fioamrywiaeth yng nghyd-destun clefyd yr Onnen
· Trefniadau Recriwtio a dargadw Staff
-
Yn croesawu bod yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn bwriadu sefydlu cyfweliadau gadael a bod hyn i’w
wneud drwy’r system hunanwasanaeth. Hyn yn gyfle da i ddeall a gwella amodau
gwaith, yn rhan o ymarfer da ac yn gyfle i unigolion fynegi barn heb
oblygiadau.
-
Argymell bod yr archwilwyr yn
dychwelyd at y Gwasanaeth i awgrymu cynnal cyfweliadau personol
-
Er yn derbyn nad yw cynnal
cyfweliadau personol bob amser yn bosib a bod hunanwasanaeth yn cynnig
amgylchiadau gwell, awgrym rhoi dewis i’r unigolyn.
-
Mai proses fiwrocrataidd sydd
yma o hwyluso proses - dim gorfodaeth i gwblhau cyfweliad ar system -
gwirfoddol yn unig. Fel cyflogwr mawr, dylai’r Cyngor wneud defnydd o gynnal
cyfweliadau personol fyddai yn darganfod problemau a ffyrdd o’u datrys.
Mewn
ymateb, cynigodd y Rheolwr Archwilio wneud darn o waith ychwanegol ar
‘gyfweliadau gadael’ ac adrodd nôl i’r Pwyllgor. Ategodd bod yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol yn ceisio gwell trefniadau gyda chyfweliadau gadael –
angen ystyried cyfweliadau personol fel cyfle da i dderbyn adborth,
derbyn cyfarpar a ‘chwblhau’r’ gyflogaeth
· Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid
-
Pryder diffyg staff a defnydd
staff asiantaethau all arwain at gosb ariannol
-
Bod disgwyl i swyddogion BIA
gynnal asesiadau yn eu ‘hamser eu hunain’ yn annerbyniol
Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio mai’r dymuniad yw i staff BIA neilltuo amser
i gwblhau’r gwaith DoLS gan ddefnyddio’r elfen goramser - nid oes disgwyliad
iddynt ei wneud am ddim
· Manddaliadau
-
Bod yr adroddiad yn siomedig
ac nad oedd y sefyllfa wedi gwella o gwbl dros y 5 mlynedd diwethaf
-
Nad oedd yn cael ei ystyried
fel gwasanaeth ‘mawr’ ac felly disgwyliwyd gwell trefniant a phroblemau wedi eu
datrys.
-
Anghysondebau talu rhent -
blerwch y Cyngor yma
- Pryderon wedi eu hamlygu gan Aelodau yn y Cyngor
Llawn, ond dim ymateb
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr
Cynllunio mai 39 tŷ oedd yma a 7 daliad tir ac felly nid yn nifer uchel o
fewn stad manddaliadau. Cydnabod a derbyn bod y sefyllfa rent yn un a ddylai
fod wedi ei adnabod a’i ddatrys yn gynt - yr archwiliad oedd yn gyfrifol am
ddarganfod hyn
Diolchwyd am yr
adroddiad
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr
adroddiad
·
Cefnogi gweithrediadau
sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol
·
Cyfeirio 3
maes cyfyngedig i’r Gweithgor Gwella
- Cynllunio – Trefniadau Cyfathrebu
- Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid
- Manddaliadau
Nodyn: Atodiad 10 Trefniadau Recriwtio a Dargadw Staff. Camau
gweithredu.
Pwynt bwled 3 ‘Symud y system ffurflenni gadael i system Hunanwasanaeth
y Cyngor ond parhau i flaenoriaethu cyfweliadau wyneb yn wyneb fel modd o
ganfod rhesymau unigolion dros adael eu swyddi’