Agenda item

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau a sylwebu fel bo angen.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

      Derbyn yr adroddiad

      Nodi’r risgiau perthnasol

      Cefnogi argymhelliad i’r Cabinet (13 Mehefin 2023) gymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen; i gymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol

 

Cofnod:

Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet 13 Mehefin 2023 a bod angen i’r Pwyllgor graffu a chynnig sylwadau ar y sefyllfa cyn hynny.

 

Gosodwyd cyd-destun yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cynaliadwyedd a Datblygiadau. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2022/23, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at grynodeb o sefyllfa derfynol yr holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ynghyd a’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Amlygwyd,

·         Ar ddiwedd y flwyddyn ceir gorwariant o fewn saith adran, a hynny o ganlyniad i nifer o ffactorau megis methiant i wireddu arbedion, chwyddiant cyflogau uwchlaw’r gyllideb a phrisiau ynni cynyddol. Cyfeiriwyd at y pum adran sydd a'r gorwariant amlycaf

-       Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: Gorwariant o £3.9 miliwn, gyda £921 mil yn sgil thrafferthion gwireddu arbedion.  Gwelwyd defnydd cynyddol o staff asiantaeth mewn gwahanol feysydd, pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yn faterion yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn ac yn Anabledd Dysgu a oedd hefyd yn cyfrannu tuag at y gorwariant.

-       Adran Addysg: Gorwariant o £1.2 miliwn. Effaith cost ychwanegol chwyddiant cymorthyddion a staff gweinyddol o £690 mil ac effaith prisiau trydan uwch o £614 mil. Gydag ysgolion wedi elwa o bron i £1 miliwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, defnyddir balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol o £1.304 miliwn.

-       Adran Economi / Byw’n Iach. Yn 2021/22 derbyniodd Byw’n Iach werth £1.4 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru. Nid oedd y cymorth ar gael yn 2022/23, ond sgil effaith ariannol Covid yn parhau ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm. Y Cyngor felly wedi ymestyn y cyfnod sicrwydd ar gyfer cefnogaeth ariannol i’r cwmni hyd at ddiwedd 2022/23.

-       Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol; Gorwariant o £2.5 miliwn gyda’r maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau i orwario. Cyfeiriwyd at wariant un-tro a phwysau cynyddol ar gyllideb Priffyrdd erbyn diwedd y flwyddyn ynghyd a thrafferthion gwireddu arbedion gwerth £608 mil, gyda £335 mil ohono yn y maes gwastraff.

-       Adran Tai ac Eiddo: Effaith Deddf Ddigartrefedd wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ac er bod yr Adran wedi derbyn £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil Covid, mae wedi parhau i orwario o £2.5m. Disgwyli’r  i’r gorwariant yma gael ei ariannu o Gronfa Premiwm Treth y Cyngor.

 

·         Bod nifer o resymau tanwariant un-tro ar nifer o benawdau Corfforaethol

·         Bod cynnydd mewn cyfraddau llog wedi arwain at £1.3 miliwn ychwanegol, a bu llai o aelwydydd yn hawlio gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

·         Bod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 a newid deddfwriaethol trethiant hefyd wedi cyfrannu at gynnyrch treth ychwanegol wrth i dai drosglwyddo yn ôl o drethi annomestig i dreth cyngor.

·         Bod balansau’r ysgolion wedi lleihau £4.8m, sef o £16.7m yn 2021/22 i £11.9m yn 2022/23. Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol ym malansau ysgolion yn sgil effaith Covid a derbyn grantiau sylweddol, ond maent bellach yn lleihau, gyda rhagolygon o leihad pellach erbyn diwedd 2023/24, ac yn ôl i lefelau arferol.

·         Bod adolygiad digonolrwydd cronfeydd penodol y Cyngor wrth gau’r cyfrifon, llwyddwyd i gynaeafu £3.918 miliwn o adnoddau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad  - nodwyd bod derbyn adroddiadau rheolaidd o’r sefyllfa gorwariant dros y flwyddyn ariannol wedi bod yn fuddiol wrth ystyried y darlun terfynol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod dibyniaeth grantiau tebygol yn creu sefyllfa o ariannu ansefydlog

·         Nad oes modd i ysgolion osod cyllideb negyddol - bod y sefyllfa o grant yn cael ei ddyrannu ai peidio yn risg i’r drefn cyllido ysgolion; yn arwain at ddiswyddo oherwydd gormodedd neu beidio - yn drefn ddiffygiol a pheryglus.

·         Bod cynnydd yng nghyfartaledd trigolion Gwynedd fydd yn arwain at gynnydd mewn defnydd gwasanaethau ac felly’n cynyddu’r risg gyllidebol i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw na fydd yr un symiau a sefyllfaoedd ar gael 2023/24 (addasiadau cyfraddau llog, gostyngiadau treth Cyngor ayyb), nododd y Pennaeth Cyllid, wrth osod cyllideb 2023/34 bod pob ymgais yn cael ei wneud i amcangyfrif pob sefyllfa yn realistig. Mewn ymateb i sylw ategol os na fyddai llai o arian wedi ei wario yn gorfforaethol bod risg i’r adrannau hynny sydd yn gorwario, nodwyd bod rhai penawdau corfforaethol eleni wedi bod yn achubiaeth ond na ellid parhau gyda’r agwedd yma - y disgwyliad yw bod gwariant yn unol â’r gyllideb sydd ar gael.

 

Mewn ymateb i sylw bod gorwariant hanesyddol ym maes Oedolion ac mai risg fyddai tan gyllido o ystyried bod gofynion pobl yn bwysig a’r maes yn eang gyda chynnydd mewn disgwyliadau, nodwyd bod sawl adran yn gorwario ond bod cynnydd sylweddol wedi ei weld yn yr Adran Oedolion Iechyd da Llesiant ers adolygiad mis Tachwedd a diwedd y flwyddyn. Nodwyd bod bwriad adolygu rhai cynlluniau arbedion - y rhai hynny yn hanesyddol sydd ddim yn cael  eu gwireddu ac ymchwilio i’r rhesymau pam nad ydynt wedi eu gwireddu. Ategwyd bod diffyg darpariaeth yn y gyllideb yn cael ei adolygu, ac er yn derbyn bod mwy o arian gorfodol wedi ei wario yn 2022/23, ni all y sefyllfa ymdopi gyda gorwariant o £4m mewn un adran. Ategodd yr Aelod Cabinet bod cyllideb yr Adran Oedolion yn rhesymol ac er yn derbyn gorwariant bod diffyg gwireddu arbedion sydd wedi cael eu cynnig gan yr Adran ei hun yn annerbyniol.

 

Mewn ymateb i sylw a ddylid cael corff allanol i edrych ar bosibiliadau gweithredu arbedion nodwdy bod y Cyngor yn defnyddio cyfundrefn Ffordd Gwynedd drwy ganolbwyntio ar angen y dinesydd. Ategwyd bod cyrff rheolaethol eraill ym maes Gofal hefyd yn cadw llygad ar y sefyllfa.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffygion ariannol gan ysgolion ar ddiwedd 2022/23 a bod ysgolion yn annibynnol o reolaeth y Cyngor, nodwyd na ellid gorfodi ysgolion i ddefnyddio eu balansau - bod y swm yn cael ei ddyrannu gan yr Adran Cyllid ac mai corff llywodraethol yr ysgol sydd yn gyfrifol am y gwariant.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r risgiau perthnasol

·         Cefnogi argymhelliad i’r Cabinet (13 Mehefin 2023) gymeradwyo’r symiau i’w parhau; i gymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol

 

Dogfennau ategol: