Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.
2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety
gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.
3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4
ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol a’r gofynion (gan
dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr
o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er
caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.
4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig.
PENDERFYNIAD
1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.
2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety gwyliau
tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.
3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r
Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol
â’r gofynion (gan dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob
perchennog a meddiannwr o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim
llai na chwe wythnos er caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.
4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.
TRAFODAETH
Adroddwyd nad oedd modd, yn hanesyddol, i reoli os oedd cartref yn cael ei
drosi i’w ddefnyddio fel ail gartref neu llety gwyliau hunangynhaliol. Eglurwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd (C5 – ail
gartref ac C6 – llety gwyliau tymor byr), ond nid oes gofyniad presennol am
ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd ar gartref.
Eglurwyd byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi Awdurdod
Cynllunio Lleol Gwynedd i osod gofyniad am ganiatâd cynllunio cyn i berchnogion
allu diwygio ddosbarth defnydd eu cartref. Pwysleisiwyd nad oes gofyniad am
ganiatâd cynllunio os yw’r perchennog yn bwriadu diwygio dosbarth defnydd eu
cartref o C5 neu C6 yn ôl i brif gartref (dosbarth defnydd C3), oni bai fod
cais gwreiddiol wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod ar gyfer defnydd C5 neu C6
yn flaenorol.
Pwysleisiwyd mai prif fwriad y Cyngor wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4
ond i gael rheolaeth dros newid dosbarthiadau defnydd, nid i atal datblygiadau
rhag mynd yn eu blaen.
Darparwyd trosolwg o Bapur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthyl 4 gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol:
·
Dadansoddwyd y sefyllfa bresennol gan fanylu ar sut
mae’r defnydd o dai gwyliau wedi datblygu dros y bedair mlynedd ddiwethaf.
o
Adroddwyd bod cynnydd yn niferoedd lletyau gwyliau
dros y cyfnod hwn. Nodwyd hefyd bod lleihad yn nifer o dai sy’n talu premiwm
ail gartrefi.
·
Cadarnhawyd bod 7509 o dai (12%
o’r stoc dai) yn ail gartrefi neu lety gwyliau. Ystyriwyd bod posibilrwydd i’r
ffigwr hwn fod yn eithaf ceidwadol oherwydd bod Arolwg Stoc Gwelyau a gwblhawyd
gan y Cyngor yn 2019, ar y cyd gyda gwybodaeth gan Croeso Cymru, yn awgrymu bod
darpariaeth o lety gwyliau yn unig yn 3700-4500 mewn cyfnodau brig.
·
Nodwyd bod newid i’w weld yn ardal Bangor dros y
bedair blynedd ddiwethaf. Eglurwyd bod cynnydd canrannol o 143% o fewn y cyfnod hwn o dai yn cael eu
defnyddio fel ail dai neu lety gwyliau (o 0.97% i 2.38%), gan awgrymu bod newid
yn narpariaeth ail dai a llety gwyliau mewn ardaloedd dinesig y Sir yn ogystal
â’r ardaloedd arfordirol.
·
Ystyriwyd yr effaith ar yr iaith Gymraeg, cyfleusterau
cymunedol a prisiau tai mewn cymunedau gydag niferoedd uchel o ail gartrefi neu
lety gwyliau.
·
Cadarnhawyd bod tua 65.5% o boblogaeth Gwynedd, ar
gyfartaledd, wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Eglurwyd bod yr
ystadegyn yma yn gallu diwygio o ardal i ardal – megis Abersoch, ble mae 96%
o’r boblogaeth wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai yn sgil dwysedd uchel
o ail gartrefi a llety gwyliau.
·
Casglwyd bod cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn
hanfodol er mwyn ceisio gwyrdroi sgil effeithiau llety gwyliau ac ail dai ar
ein cymunedau ac i sicrhau tegwch a chyfleoedd i unigolion Gwynedd.
Nodwyd bu ystyriaeth i bedwar opsiwn posibl er mwyn cyfiawnhau cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4, sef:
·
Opsiwn 1: Dwyfor (ardal beilot y Llywodraeth)
·
Opsiwn 2: Ardaloedd ble fo’r ddarpariaeth bresennol o
gartrefi gwyliau yn fwy na 15% o’r stoc dai.
·
Opsiwn 3: Ardaloedd Bregus (ardaloedd sydd dan
fygythiad)
·
Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal Awdurdod Cynllunio
Lleol Gwynedd)
Cadarnhawyd mai Opsiwn 4 (Gwynedd Gyfan - Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol
Gwynedd) sydd wedi cael ei ddewis er mwyn gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Eglurwyd bod yr opsiwn hwn wedi cael ei ddewis gan fod gweithredu’r Cyfarwyddyd
yn broses ddigynsail ac nid oes modd rhagweld yn llawn beth fydd sgil
effeithiau ei gyflwyno. Ymhelaethwyd ei fod yn bwysig gwarchod y stoc dai er mwyn
sicrhau bod tai addas ar gael i drigolion Gwynedd a bydd cyflwyno Cyfarwyddyd
Erthygl 4 yn y modd hwn yn helpu i sicrhau’r amcan hwnnw.
Eglurwyd y bwriedir cyflwyno rhybudd o’r bwriad i gyflwyno Cyfarwyddyd
Erthygl 4 ac bydd modd i’r cyhoedd leisio’u barn ar y bwriad hwn. Nodwyd bod
gwefan penodol wedi cael ei wneud ar gyfer y mater hwn, gyda holl ddogfennaeth
berthnasol wedi cael ei uwchlwytho iddo, ac mae modd
i’r wefan gael ei archwilio yn Siop Gwynedd a Llyfrgelloedd Gwynedd. Ymhellach,
nodwyd bydd sesiwn codi ymwybyddiaeth yn cael ei gynnal i holl aelodau’r Cyngor
pan fu’n briodol.
Eglurwyd byddai’r
gorchymyn Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i rym ar 1af Medi, 2024 er mwyn sicrhau
bod y Cyngor yn gweithredol â gofynion Llywodraethol ac i sicrhau nad yw’r
Cyngor yn agored i geisiadau am iawndal.
Rhannwyd pryder nad yw ardaloedd Parc Cenedlaethol Eryri yn cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar hyn o bryd. Er hyn, sicrhawyd bod swyddogion yn
cydweithio’n agos gyda’r Parc ond yn cydnabod bod sefyllfa’r Parc yn wahanol i
Wynedd oherwydd ei fod wedi ei leoli dros ddau awdurdod lleol gwahanol.
Diolchwyd i holl swyddogion Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd am eu gwaith arloesol i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl
4. Nodwyd bod y swyddogion yn arwain ar y gwaith hwn dros Gymru gyfan ac bod
cyfathrebu cyson gydag awdurdodau eraill er mwyn cyflwyno gofynion tebyg mewn
Siroedd eraill.
Awdur:Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd)
Dogfennau ategol: