Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau
unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4
o’r Adroddiad.
2.
Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes
gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a
gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud
defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago.
PENDERFYNIAD
1.
Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau
unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4
o’r Adroddiad.
2.
Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes
gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a
gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud
defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor.
TRAFODAETH
Adroddwyd i’r aelodau bod argyfwng digartrefedd
yng Nghymru ar hyn o bryd. Manylwyd ar nifer o ffigyrau i amlinellu’r sefyllfa,
gan gynnwys:
· Bod 657 o bobl
digartref yng Ngwynedd ar hyn o bryd a dros 7,000 o blant yn byw mewn tlodi.
· Bod 3000 o bobl
Gwynedd ar restr aros ar gyfer tai cymdeithasol
· Bod pris tai, ar
gyfartaledd, wyth gwaith yn fwy na’r cyflog arferol.
Eglurwyd bod y Cyngor yn ymwybodol o’r argyfwng
hwn a rhannwyd fideo i gyflwyno pum agwedd allweddol o’r Cynllun Gweithredu
Tai, sef:
1.
Mynd i’r afael â digartrefedd.
2.
Adeiladu tai newydd.
3.
Prynu tai.
4.
Dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd
5.
Sicrhau bod tai Gwynedd yn
ecogyfeillgar.
Adroddwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai
gwreiddiol yn seiliedig ar ganran premiwm treth cyngor o 50%. Atgoffwyd yr
aelodau bod y premiwm wedi cael ei gynyddu i 100% gan greu oddeutu £20 miliwn o
gyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau tai a digartrefedd, dros hyd y cynllun.
Nodwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai mewn
bodolaeth ers dwy flynedd ac hyd yma wedi gallu cwblhau bron i 600 o unedau
drwy amrywiol brosiectau, sydd am greu bydd i dros 4000 o bobl Gwynedd.
Ymhelaethwyd bod 313 o unedau ychwanegol i hynny ar y gweill ar hyn o bryd.
Eglurwyd bod £34 miliwn o arian wedi ei ddyrannu
i amrywiol brosiectau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.
Cadarnhawyd bod 8 tŷ wedi cael ei brynu fel
rhan o gynllun Prynu i Osod, gyda’r potensial i 32 o bobl elwa o’r tai hyn.
Ymhelaethwyd bod nifer o dai eraill yn y broses o gael eu prynu ar hyn o bryd.
Datganwyd hefyd bod 15 cais wedi cael ei gymeradwyo fel rhan o’r cynllun Prynu
Cartref, ers iddo lawnsio ym Medi 2022.
Adroddwyd bod y cynllun Tai Gwag wedi llwyddo i
ddychwelyd 104 o dai yn ôl i ddefnydd ar draws Gwynedd ac mae’r adran hefyd
wedi llwyddo i adeiladu 173 o dai cymdeithasol, gydag 88 o dai newydd yn cael
eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod arian wedi cael ei glustnodi er
mwyn adeiladu 113 o dai cymdeithasol pellach o fewn y flwyddyn ariannol hon.
Ymfalchïwyd bod yr adran yn helpu i gefnogi 40 o
bobl o fewn y Sir ar hyn o bryd, drwy gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr i sefydlu darpariaeth cefnogol i unigolion sydd mewn perygl o
fod yn ddigartref oherwydd materion iechyd meddwl, i barhau yn eu cartref.
Esboniwyd bod costau adeiladu, llafur a
deunyddiau, wedi cynyddu llawer ers i’r Cynllun Gweithredu Tai gwreiddiol gael
ei sefydlu yn 2021. Ymhelaethwyd bod y costau hyn wedi codi oddeutu 30% a
manylwyd bod cyfraddau llog wedi cynyddu yn ogystal. Nodwyd bod y cynnydd yma
mewn prisiau wedi creu anhawster i brynu tai oddi ar y farchnad leol ac wedi
cael effaith ar ddatblygiad amrywiol brosiectau.
Manylwyd ar y rhesymeg y tu ôl i gynyddu
cyfraniad y Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gynlluniau tai a digartrefedd, gan
gynnwys:
· Cynlluniau tai â
chefnogaeth i’r digartref – 45 uned parod yng Nghaernarfon a Phwllheli er mwyn lleihau dibyniaeth ar lety dros dro.
· Prynu cyn-dai
cymdeithasol a’u rhentu i drigolion Gwynedd a phrynu tai preifat.
· Cynllun Datblygu Tai
ein Hunain – i gynyddu’r cyfleoedd i drigolion Gwynedd.
Diolchwyd i swyddogion yr adran am eu gwaith
parhaus gyda’r Cynllun Gweithredu Tai.
Awdur:Carys Fôn Williams (Pennaeth Adran Tai ac Eiddo)
Dogfennau ategol: