Agenda item

I ystyried cymeradwyo'r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellir ; yn ddarostyngedig i yn ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellwyd: yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd arfaethedig trwyddedau tacsi 2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor, yn ôl yn 2013, wedi  penderfynu y byddai ffioedd tacsi yn cael eu hadolygu yn flynyddol a hynny i adennill costau llawn o dderbyn, prosesu a gweinyddu trwyddedau yn unig. Amlygwyd nad oedd ffioedd Gwynedd wedi newid ers 2019 ac er yr adolygwyd y sefyllfa yn 2020/21, penderfyniad y Pwyllgor oedd peidio cynyddu ffioedd oherwydd sgil effeithiau argyfwng covid.

 

Adroddwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu yn cydnabod fod costau cynnal a chadw cerbydau, costau yswiriant a chostau tanwydd wedi bod yn cynyddu dros yr 18 mis diwethaf, a bod y sefyllfa wedi bod yn anodd i’r diwydiant tacsi wrth ddod allan o’r cyfnod covid.

 

Amlygwyd, yng nghyd-destun costau’r Uned Trwyddedu, bod chwyddiant, ynghyd a  ffactorau megis anghenion hyfforddiant swyddogion, costau hysbysebu ac ymgynghori ar newidiadau i’r prisiau, a chynnydd yn y lefel gwiriadau sydd angen eu gwneud i sicrhau addasrwydd gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr hefyd yn ystyriaethau ar gyfer cynyddu costau darparu’r gwasanaeth trwyddedu tacsis. Ategwyd yr angen i gwblhau Adolygiad y Polisi Tacsi Unedig, fydd yn mabwysiadu argymhellion Safonau Statudol Cerbydau Hacni a Hurio Preifat  Cenedlaethol yr Adran Drafnidiaeth; yn ogystal ag ymgorffori'r newidiadau  pellgyrhaeddol arfaethedig fydd yn debygol o ddeillio o  ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar sut mae’r diwydiant tacsi yn cael ei reoleiddio. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd fawr o ddewis ond cynyddu’r ffioedd os am gynnal y gwasanaeth a ddisgwylir gan y cyhoedd a’r diwydiant.

 

Adroddwyd bod y diffyg  incwm a geir am y gwahanol drwyddedau tacsi yn amrywio; yn ddibynnol ar yr ymdrech ychwanegol sydd yn digwydd wrth brosesu ceisiadau a gwirio cydymffurfiad ac felly argymhellwyd cynnydd ar gyfartaledd o 12% mewn lefelau ffioedd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Er bod cynyddu unrhyw ffioedd yn groes i’r graen, bod rhaid adennill costau

·         Pryder y bydd rhai cwmnïau yn dod i ben o ganlyniad i’r cynnydd – angen sicrhau bod cymorth ar gael

·         Prinder gyrwyr mewn ardaloedd gwledig, pam felly bod rhaid iddynt dalu'r un pris a gyrwyr ardaloedd trefol

·         Bod rhai cwmnïau yn anwybyddu’r tariff

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd arfaethedig sylweddol mewn trwydded 3 mlynedd, derbyniwyd mai dyma’r cynnydd mwyaf sydd yn cael ei argymell oherwydd y gwaith o sicrhau os yw gyrrwr yn addas a phriodol (fydd hefyd i’r dyfodol, yn unol â gofynion statudol, yn cynnwys gwirio taliadau treth).

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam na ellid gwneud cynnydd o 12% ar gyfer yr holl ffioedd yn hytrach na chanran cyfartaledd, nodwyd mai adennill costau yn unig yw hawliau'r Uned Trwyddedu a bod ffactorau penodol ynglŷn â’r broses. Amlygwyd bod ymarferiad costau wedi ei wneud ar gyfer pob math o drwydded i amlygu tegwch ac fe ystyriwyd na fuasai un canran yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa.

Mewn ymateb i’r sylw bod rhai cwmnïau tacsi yn anwybyddu’r tariff, nodwyd bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn cymhlethu’r broses drwy gyflwyno dwy gyfundrefn rheoleiddio - un ar gyfer cerbydau hacni / tacsi ac un arall ar gyfer hurio preifat. Mewn ymateb, nodwyd yr angen i greu un system fyddai’n osgoi cymhlethdod a chyfeirio’r farn honno i’r Llywodraeth. Nododd y Rheolwr Trwyddedu, oedd hefyd yn Gadeirydd Grŵp Trwyddedu Gogledd Cymru, bod y Grŵp wedi cyflwyno sylwadau i ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru (Mai 2023) a’u bod yn siomedig iawn o benderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau gyda dwy broses.

 

Anogwyd y Cynghorwyr i gyfeirio cwynion am unrhyw gwmni nad oedd yn cadw at y ffioedd i’r Uned Trwyddedu

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig i godi’r ffioedd

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellwyd: yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ategol: