Agenda item

Bangor Grill Limited, 212 High Street, Bangor, LL57 1NY

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Yn unol a’r Deddf Drwyddedu 2003, argymhellir fod y Pwyllgor yn caniatáu’r  cais  yn ddarostyngedig i,

 

·         Gydymffurfio gyda gofynion yr  Heddlu

·         Cytundeb  gan yr ymgeisydd i gydymffurfio gyda mesurau rheoli niwsans a argymhellir gan Gwarchod y Cyhoedd

·         Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

·         Derbyn caniatâd Cynllunio am newid defnydd a chaniatâd i weithredu o dan unrhyw amodau cynllunio parthed amseroedd agor.

 

Cofnod:

Bangor Grill, 212 Stryd Fawr, Bangor

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Gilly Harradence – Cynrychiolydd yr ymgeisydd

M Muharam - Ymgeisydd

Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

                     

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan Bangor Grill Limited, 212 Stryd Fawr, Bangor yn gofyn am ganiatáu gwerthiant lluniaeth hwyr y nos fyddai’n cynnwys bwyd poeth fel Kebabs, byrgyrs a pizzas, i’w fwyta oddi ar yr eiddo ar ôl 23:00 yr hwyr, tan 3:30 y bore ar Nos Wener a Nos Sadwrn, tan 3:00 y bore nos Lun a Mercher a tan 2:30 nos Fawrth, Iau a Sul.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau wedi eu derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am bendantrwydd yn yr atodlen weithredol i sicrhau presenoldeb goruchwyliwr drysau o 23:00 ymlaen ar nos Wener a Nos Sadwrn. Derbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cais gan Gwarchod y Cyhoedd ar sail y ffaith nad oedd mesurau digonol yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd i sicrhau cydymffurfiad gyda’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus

 

Tynnwyd sylw fod ymholiadau wedi eu gwneud gyda’r Gwasanaeth Cynllunio parthed statws Cynllunio’r eiddo ac fe dderbyniwyd cadarnhad yn ddiweddarach  yn amlygu nad oedd cais newid defnydd wedi ei gyflwyno ar gyfer yr eiddo a bod y gwasanaeth Cynllunio yn ystyried camau gorfodaeth.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais yn ddarostyngedig i

a)         Gydymffurfio gyda gofynion yr Heddlu

b)         cytundeb gan yr ymgeisydd i gydymffurfio gyda mesurau rheoli niwsans a argymhellwyd gan Gwarchod y Cyhoedd

c)         Derbyn caniatâd Cynllunio am newid defnydd a chaniatâd i weithredu o dan unrhyw amodau cynllunio parthed amseroedd agor.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·         Bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth i Swyddog yr Amgylchedd yn nodi parodrwydd i gydymffurfio gyda mesurau rheoli niwsans

·         Nad oedd trigolion yn byw yn ddigon agos i weld/clywed effaith y system echdynnu aer

·         Y byddai yn sicrhau na fyddai sŵn yn achosi niwsans

·         Y byddai yn sicrhau na fydd arogleuon bwyd yn achosi niwsans

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar angen i agor tan 3:00yb, nodwyd mai dyma erbyn hyn oedd natur y busnes gyda thafarndai a chlybiau’r Ddinas yn aros ar agor yn hwyrach. Er nad oedd awydd gan yr ymgeisydd i weithio’n hwyr, yn anffodus roedd rhaid gwneud hynny i ymateb i’r angen. Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod yr oriau hyn yn arferol i’r math o eiddo ym Mangor ac nad oedd yr oriau yn wahanol i fusnesau tebyg cyfagos.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pharodrwydd yr ymgeisydd i dderbyn yr amodau a gynigwyd, nododd yr ymgeisydd ei fod yn fwy na bodlon derbyn yr amodau i sicrhau diogelwch.

 

            Mewn  ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnwys amod cynllunio / newid defnydd, amlygodd yr ymgeisydd bod llythyr ganddo yn nodi’r angen i gydymffurfio gydag amodau cynllunio ac y byddai’n fwy na pharod i rannu’r llythyr gyda’r Adran Trwyddedu yn cadarnhau hyn.

 

d)                    Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Bod oriau agor yn cyd-fynd gyda sawl eiddo tebyg ym Mangor

 

Ffion Muscroft (Swyddog yr Amgylchedd)

·         Pryder am sŵn o’r system echdynnu

·         Nad oedd manylion lefelau sŵn yn y cais

·         Hapus gyda bwriad yr ymgeisydd i weithredu asesiad sŵn

·         Argymell ychwanegu amodau swn i’r drwydded

·         Tynnu gwrthwynebiad yn ôl oherwydd parodrwydd yr ymgeisydd i gydymffurfio

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi eu hachos, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd;

·         Bod gan y cwmni 64 o safleoedd ac felly nid oedd yn gwmni bach

·         Bod amodau diogelwch wedi eu cynnig

·         Bod y cynllun llawr wedi cael ei addasu

·         Bydd rhif ffôn ar gael i drigolion lleol

·         Nad oedd oriau ychwanegol yn rhan o’r cai

·         Y gobaith yw gwella’r sefyllfa ac na fydd adolygiad o’r drwydded

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu:

·         Bod yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd wedi newid yr argymhelliad

·         Pe byddai’r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu y cais a derbyn yr amodau, byddai rhaid i eiriad yr amodau fod yn glir o ran eglurhad gweithredu a gorfodi - bod grym amodi effeithiol gan yr Is-bwyllgor

 

e)            Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Rhoddir amrywiadau i’r drwydded gyfredol fel a ganlyn:

 

1.    Darparu lluniaeth hwyr y nos ar ac oddi ar yr eiddo

           

Dydd Sul              23:00 – 02:30

Dydd Llun            23:00 - 03:00

Dydd Mawrth       23:00 – 02:30

Dydd Mercher     23:00 – 03:00

Dydd Iau               23:00 - 02:30

Dydd Gwener      23:00 – 03:30

Dydd Sadwrn      23:00 - 03:30

 

2.   Cynnwys y mesurau ychwanegol, fel y gwelir yn rhan M y cais, fel amodau i’r drwydded ond gan eu newid i sicrhau bod staff drysau i’w cyflogi o 23:00 ymlaen ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

 

3.  Ymgorffori’r amodau canlynol:

 

·         Ni chaiff unrhyw sŵn ddod o'r eiddo sy'n achosi niwsans.

·         Dim sŵn nac arogleuon a achosir gan yr offer echdynnu cegin sy'n arwain at achosi niwsans.

 

(i) Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor yn manylu ar y posibilrwydd o sŵn o'r system echdynnu ar y safle yn cael effeithio ar eiddo cyfagos sy'n sensitif i sŵn yn Stryd Isaf, Bangor, LL57 1HN, 1-2 City View, Cae Llepa, Bangor, LL57 1HW ac yn fflat uwchben 210 Stryd Fawr, Bangor.

 

(ii) Os yw'r asesiad yn dangos bod sŵn o'r fangre yn debygol o effeithio ar eiddo sy'n sensitif i sŵn cyfagos, yna bydd yn cynnwys cynllun manwl o fesurau lliniaru sŵn i ddangos na fydd niwsans yn cael ei achosi i feddianwyr eiddo sy'n sensitif i sŵn cyfagos drwy sŵn o'r fangre drwyddedig.

 

(iii) Rhaid cwblhau'r holl waith a argymhellir cyn i'r drwydded safle gychwyn ac mae'r Awdurdod Trwyddedu i'w hysbysu o leiaf 5 diwrnod cyn i'r gwaith gael ei gwblhau

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

Yng nghyd-destun Atal Trosedd ac Anhrefn nid oedd gan yr Heddlu dystiolaeth o drosedd ac anhrefn fel sail i wrthwynebu’r cais. Serch hynny roeddynt yn awgrymu y dylai staff drysau gael eu cyflogi o 23:00 ymlaen ar nosweithiau Gwener a Sadwrn oherwydd y risg uwch o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig ag alcohol ar benwythnosau.

Yng nghyd-destun Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd tystiolaeth yn berthnasol i’r egwyddor  hwn.

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, cadarnhaodd Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd Cyngor Gwynedd eu bod yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl yn dilyn cytundeb yr ymgeisydd i ymgorffori'r amodau a awgrymwyd ganddynt (fel y manylwyd mewn e-bost dyddiedig 7/6/23 gan swyddog Gwarchod y Cyhoedd at gynrychiolydd yr ymgeisydd).

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd tystiolaeth oedd yn berthnasol i’r egwyddor hwn.

Er nad yn rhan o’r gyfundrefn drwyddedu cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod yn cytuno i ymgymryd ag unrhyw ofynion cynllunio yn ôl yr angen.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: