Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r
ymatebion drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o’r
Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru (yn Atodiad 2 i’r adroddiad), er caniatáu
eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda’r ychwanegiad a nodir isod:-
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y Pwyllgor i ystyried
a dod i farn ar ymatebion i’r Ymgynghoriad ar argymhellion yr Adolygiad
Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol (adroddiad Richard Penn) er caniatáu eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Gofynnwyd yn benodol am farn yr aelodau ar yr ymatebion drafft canlynol:-
C4. Ydych
chi’n cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn caniatâd i apelio a amlinellir
yn yr argymhelliad hwn? Os nad ydych, pa
opsiynau eraill fyddech chi’n eu hawgrymu?
Ydym.
Sylwadau: Mae’n ymddangos yn briodol y dylai'r Ombwdsman allu
gwneud sylwadau ar geisiadau am ganiatâd i apelio ac y dylai'r broses ganiatáu
amser i wneud sylwadau.
Dylid fod gofyn
penodol hefyd i hysbysu Swyddog Monitro perthnasol yn syth hefyd fod apêl wedi
ei derbyn gan fod bodolaeth apêl yn ganolog i gychwyn cyfnod atal neu beidio.
C13. Hysbysebu am aelodau annibynnol o'r pwyllgorau
safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gofyn i hysbysebu swyddi gwag ar
gyfer aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau mewn papurau newydd?
Ydym.
Sylwadau: Mae
costau hysbysebion o'r fath yn uchel a dengys profiad anecdotaidd fod y rhan
fwyaf o ymgeiswyr yn dod trwy sianeli eraill megis gwefannau neu rwydweithiau
presennol Aelodau Unigol. Mae'n bwysicach sicrhau bod ymgeiswyr cymwys o
amrediad eang o gefndiroedd yn cael eu denu i'r rôl ac felly dylai LlC gyflwyno canllawiau ar recriwtio cynhwysol.
C14a.
Cyn-weithwyr cyngor yn eistedd fel
aelodau annibynnol o bwyllgorau safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gwaharddiad
gydol oes ar gyn- weithwyr cyngor rhag bod yn aelodau annibynnol o bwyllgor
safonau eu cyflogwr blaenorol?
Nac ydym. Cryfder y Pwyllgor Safonau ar hyn o bryd yw
bod yn rhaid iddynt gynnwys mwyafrif o Aelodau Annibynnol y gellid dweud heb
amheuaeth eu bod yn wirioneddol annibynnol ac yn amhleidiol.
C14b.
Os ydych chi, beth, yn eich barn chi,
fyddai’n gyfnod gras addas rhwng cyflogaeth a phenodi i bwyllgor safonau, ac a
ddylai hyn fod yr un fath ar gyfer holl weithwyr cynghorau, neu’n hirach ar
gyfer y rheini a oedd gynt mewn swyddi â chyfyngiadau statudol neu wleidyddol?
Ni ddylai
swyddogion sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol fedru gwasanaethu fel Aelodau
Annibynnol. O ran swyddogion eraill, mae'r safbwynt hwnnw'n fwy cynnil ond
awgrymir nad ddylid caniatáu hyn. Os, er gwaethaf y farn hon, yw LlC yn dymuno caniatáu iddynt fod yn gymwys yna mae angen
i'r cyfnod gras ar gyfer cyn-weithwyr fod yn hir i leihau'r canfyddiad fod y
cyn-weithiwr dal yn cael ei effeithio oherwydd ei gysylltiad blaenorol â'r
cyngor. Dylid gosod y cyfnod gras yn gyfnod penodol o megis 5 mlynedd neu
gellid bod yn hyblyg ar sail hyd eu gwasanaeth (lluosog) gyda neu heb leiafswm.
C16. Pwyllgorau safonau – galw tystion a
sancsiynau: A ddylai pwyllgorau safonau gael y pŵer i alw tystion?
Dylai.
Sylwadau: Mae'r un
ystyriaethau a gyflwynwyd yn yr ymateb i Gwestiwn 5 yn berthnasol fan hyn. Heb ei bwerau i ymdrin â dirmyg, byddai angen
modd o orfodaeth ar y mecanwaith i gyflwyno gwŷs, megis efallai'r pŵer i geisio am warant gan Lys yr Ynadon.
C21.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud ar y materion a
godwyd yn yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys ar yr argymhellion hynny yn yr
Adroddiad nad oes cwestiwn penodol wedi'i gynnig ynglŷn â hwy?
Oes
Sylwadau:
Mae dau
argymhelliad sy'n gofyn am newid deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru ac ar hyn
o bryd nid oes unrhyw gynigion gweithredu ar eu cyfer. Byddai y Cyngor yn
dymuno gweld gweithredu deddfwriaethol i gefnogi'r argymhellion a ganlyn:
1)
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynnig i'w gwneud yn fandadol
i gynghorydd adrodd am ei ymddygiad troseddol ei hun, sy'n ymddangos yn
afresymegol pan fo gorfodaeth i eraill wneud hynny.
2)
Byddai darpariaeth o fewn y cod fod hyfforddiant yn orfodol
yn cryfhau unrhyw ymdrech i berswadio'r cynghorydd hwnnw i fynychu. Ymhellach,
pe bai ymdrechion i argyhoeddi'r cynghorydd i fynychu yn profi i fod yn
aflwyddiannus byddai darpariaeth o'r fath wedyn o leiaf yn darparu sail gadarn
i ymdrin â'u cyndynrwydd.
Byddai'r
Cyngor (ar farn mwyafrif) felly'n cefnogi cynnwys ymrwymo i gwblhau
hyfforddiant o fewn y datganiad derbyn swydd, fyddai'n ymddangos yn fecanwaith
addas. Yn yr un modd, gallai'r cod model gynnwys ymrwymiad i gwblhau
hyfforddiant. Gallai hyn fod un ai i hyfforddiant ar y cod ei hun neu i gwblhau
unrhyw hyfforddiant y mae'r cyngor yn ei ddiffinio fel gofynnol i alluogi mwy o
ddisgresiwn lleol.
Noder
y mynegwyd y farn hefyd pe bai cynghorydd yn cael ei ethol yn benodol ar
blatfform na fyddai ef yn mynychu hyfforddiant yna byddai'n anghywir cyflwyno
unrhyw gosb am fethu â mynychu.
Ymhellach,
gwnaed sylw fod clercod yn rhan bwysig o strwythur llywodraethu cynghorau tref
a chymuned. Er bod darpariaeth wedi'i gwneud sy'n disgwyl i gynghorwyr fynychu
hyfforddiant, nid oes ymrwymiad tebyg o ran y clercod, ac fe ddylai fod.
3)
Mae mater wedi codi'n ddiweddar ynghylch pwerau'r Ombwdsman
i wneud cyfeiriadau pan fo cynghorydd hefyd ar awdurdod perthnasol arall (h.y.
awdurdod gyda'i bwyllgor safonau ei hun). Ar hyn o bryd, nid oes pŵer
penodol i'r Ombwdsman gyfeirio achosion i fwy nag un awdurdod ar yr un amser.
Efallai y bydd hyn yn angenrheidiol yn ddibynnol ar p’un a fyddai canfyddiad y
pwyllgor safonau mewn prif awdurdod hefyd yn rhwymo awdurdod perthnasol megis
parc neu awdurdod tân.
E.e pan fo
cynghorydd yn cael ei atal gan gyngor sir am weithrediadau yn ei fywyd preifat
sy'n dwyn anfri ar eu swydd. Mae'r cynghorydd hefyd ar awdurdod tân. Gall y gweithrediadau
hynny hefyd ddwyn anfri ar eu swydd ar yr awdurdod tân. A yw'r cyfnod atal o'r
cyngor sir hefyd yn atal y cynghorydd yn awtomatig o'r awdurdod tân neu a
fyddai pwyllgor safonau'r awdurdod tân ei hun angen gwrando ar y mater?
Ymddengys mai'r olaf yw'r sefyllfa fwyaf tebygol.
Pe bai angen i'r
Awdurdod Tân ac Achub gynnal ei wrandawiad ei hun, yna gall fod yn ddefnyddiol
rhoi'r pŵer i OGCC wneud cyfeiriad i sawl awdurdod yr un pryd (y gellid ei
ddehongli trwy ddefnyddio'r rheolau dehongli statudol fod yr unigol yn golygu'r
lluosog hefyd). I'r gwrthwyneb, os tybir nad yw penderfyniad pwyllgor safonau'r
prif gyngor yn effeithio ar yr awdurdod tân yna gellir diffinio hyn mewn
deddfwriaeth o ran graddau'r cyfnod atal a beth mae'r term 'atal' yn ei olygu
gan nad oes diffiniad technegol ohono mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth.
Pwyntiau’n codi
o’r drafodaeth:-
·
C16
– Awgrymodd aelod fod gorfodi presenoldeb tyst mewn gwrandawiad braidd yn
llawdrwm. Nid yw’r achosion yn rhai
troseddol, a hyd yn oed pe gellid gorfodi rhywun i ddod i wrandawiad, ni ellid
eu gorfodi i roi tystiolaeth. Er hynny,
roedd y Pwyllgor yn gyffredinol o’r farn y dylai’r hawl gorfodi fod yna fel
pŵer gwrthgefn petai ei angen.
·
C21(1)
– Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod bodolaeth materion troseddol yn ddata
personol sensitif iawn o ran gwarchodaeth, ac felly na fyddai’n briodol rhoi
gwybod i arweinyddion grwpiau gwleidyddol fod cynghorydd wedi adrodd am ei
ymddygiad troseddol ei hun. Byddai gadael
i’r Swyddog Monitro wybod am y mater troseddol ar sail ‘yr angen i wybod’
gofalus iawn yn briodol.
·
C21(2)
– Nodwyd y dylid argymell yn gryf i aelodau eu bod yn mynychu hyfforddiant ar y
Cod Ymddygiad, ond mai mater i’r aelod unigol yw penderfynu a yw am fanteisio
ar y cynnig ai peidio, a phe na fyddai aelodau’n ei dderbyn, gellid dal hynny’n
eu herbyn mewn unrhyw achos o dorri’r Cod yn y dyfodol.
Canmolwyd yr hyfforddiant
a ddarparwyd ar gyfer aelodau newydd Cyngor Gwynedd yn dilyn yr etholiadau ym
Mai 2022, ond mynegwyd siomedigaeth nad oedd pawb wedi manteisio ar y cyfle
yma.
Nodwyd bod yna
lawer o gyfeiriadau yn y wasg y dyddiau hyn at fwlio, ac awgrymwyd bod angen
cynnwys yr elfen yma fel rhan o’r hyfforddiant.
Mewn ymateb, eglurwyd bod rhan o’r hyfforddiant yn ymdrin â materion o
gwmpas parch a dim bwlio, ac ati. O ran
y sefyllfa’n gyffredinol yng Nghyngor Gwynedd, credid bod y negeseuon hynny’n
treiddio drwodd ar y funud, ond nid oedd lle i laesu dwylo byth mewn
sefyllfaoedd fel hyn.
Pwysleisiwyd y
dylai’r hyfforddiant fod yn fandadol, ac er nad oes modd gorfodi neb, dylai
pawb, yn gynghorwyr sir a chynghorwyr tref a chymuned, sylweddoli mor bwysig ydyw
ac ymrwymo iddo.
Awgrymwyd nad oedd
y frawddeg ‘Byddai'r Cyngor (ar farn mwyafrif) felly'n cefnogi cynnwys
ymrwymo i gwblhau hyfforddiant o fewn y datganiad derbyn swydd ...’ yn
ddigon cryf, o bosib’, ond nodwyd hefyd ei fod yn gam ymlaen, gan nad oedd yr
ymrwymiad yna o gwbl ar hyn o bryd.
I’r gwrthwyneb,
awgrymwyd na ddylid gwneud yr hyfforddiant yn gwbl orfodol. Er hynny, dylid hysbysu’r aelodau o
bwysigrwydd y Cod a’r ffaith y gallai peidio mynychu’r hyfforddiant gael ei
ddal yn eu herbyn mewn unrhyw achos o dorri’r Cod yn y dyfodol. Mewn ymateb, eglurwyd:-
-
Wrth
arwyddo’r datganiad derbyn swydd, bod unigolion yn ymrwymo i’r swydd cynghorydd
a hefyd i’r Cod, ac felly roedd y waelodlin yn cael ei gosod yna.
-
Petai’r
datganiad yn cael ei addasu fel bod unigolyn yn ymrwymo i dderbyn yr
hyfforddiant ar y Cod hefyd, byddai cwestiwn yn codi wedyn o ran beth fyddai
canlyniadau peidio cydymffurfio â hynny.
-
Na
chredid y gellid gorfodi rhywun i fynychu hyfforddiant, ond mi fyddai yna
ganlyniadau o ran, efallai'r Cod Ymddygiad, neu fater
o gyfeirio’r pwynt i’r Pwyllgor Safonau am ymateb, a byddai dyletswydd hefyd ar
yr arweinyddion grwpiau gwleidyddol i roi pwysau ar aelodau i fynychu’r
hyfforddiant.
-
Mai
un o’r cwestiynau cyntaf a ofynnir gan yr Ombwdsmon ar ôl derbyn cŵyn yw pa hyfforddiant ar y Cod mae’r aelod dan sylw
wedi fynychu.
-
Bod
unrhyw beth gorfodol yn codi cwestiwn o ran yr orfodaeth y tu cefn iddo, ond y
byddai’r datganiad yma o leiaf yn ymrwymiad i fynychu hyfforddiant ar y Cod.
·
C21(3)
– Cytunwyd yn gryf â’r ymateb drafft.
Nodwyd nad oedd y sefyllfa bresennol yn gwneud synnwyr i’r cyhoedd, a’i
bod yn bwysig sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn safon yr hyfforddiant ac
ymddygiad y cynghorwyr.
Gofynnwyd i’r
Swyddog Monitro gynnwys elfennau o’r drafodaeth uchod ynghylch sut y byddai
hyfforddiant gorfodol yn gweithio’n ymarferol, datgan troseddau a gorfodi
tystion yn yr ymateb i’r Ymgynghoriad.
Yna nododd y
Cadeirydd y dymunai dynnu sylw at yr ymateb drafft canlynol:-
C6. A ddylid
gwneud unrhyw newidiadau i’r drefn ar gyfer cyfeirio penderfyniadau apeliadau
yn ôl i bwyllgorau safonau?
Na ddylid
Sylwadau: mae'r
arfer wedi'i hen sefydlu y dylai tribiwnlysoedd apêl gyfeirio achosion yn ôl
i'r prif benderfynydd i gael eu hailystyried. Er mai 'dewr' fyddai Pwyllgor
Safonau a feiddia anghytuno â'r Panel byddai'r newid arfaethedig yn gwneud i
ffwrdd â'r hawl iddynt gael dewis gwneud hynny a byddai hyn yn lleihau eu
rhyddid i weithredu.
Nododd y
Cadeirydd:-
·
Nad
oedd ganddo deimladau cryf ar y mater, ond mewn unrhyw faes arall yn y
gyfraith, byddai unrhyw un sy’n mynd i apêl yn disgwyl y byddai penderfyniad yr
apêl yn sefyll.
·
Er
bod gan bwyllgorau safonau'r hawl i anwybyddu penderfyniad apêl, bod Panel
Dyfarnu Cymru yn trafod achosion yn fwy aml na phwyllgorau safonau a’u bod yn
gallu sicrhau cysondeb ar draws Cymru hefyd ar y mater.
·
Y
gallai cynghorwyr deimlo nad oes pwynt mynd i apêl os yw’r pwyllgor safonau yn
gallu anwybyddu penderfyniad yr apêl.
·
Y
byddai’n rhaid i bwyllgor safonau sy’n dewis anwybyddu penderfyniad apêl
gyflwyno rhesymau cryf iawn dros wneud hynny.
Mewn ymateb,
eglurwyd:-
·
Bod
y drefn apelio yn yr achosion hyn yn ymdebygu i adolygiad barnwrol lle mae’r
corff apelio (e.e. tribiwnlys apêl) yn adolygu penderfyniad y corff penderfynu
(e.e. pwyllgor safonau) ac yn rhoi eu barn hwy ar yr achos, ond bod y
penderfyniad terfynol ar y mater yn nwylo’r corff penderfynu.
·
Ei
bod yn anorfod felly bod y pwyllgor safonau yn gorfod dod i farn ar y mater,
gan roi sylw i sylwadau’r tribiwnlys apêl.
·
Bod
angen rhesymau cryf iawn dros ddod i ganlyniad gwahanol i’r tribiwnlys apêl, ac
roedd yn hanfodol bod y rhesymeg dros wneud hynny yn cael ei chofnodi’n glir,
er mwyn dangos bod y penderfyniad apêl wedi derbyn sylw dyladwy, ond ar falans, bod y pwyllgor yn parhau o’r farn y dylai eu
penderfyniad gwreiddiol sefyll.
Gofynnwyd i’r
Swyddog Monitro wneud ychwanegiad i’r ymateb drafft i wneud yn glir bod angen
rhesymeg gref iawn dros fynd yn groes i farn tribiwnlys apêl a bod hynny’n cael
ei roi allan i’r cyhoedd ac i’r cynghorydd perthnasol ar y pryd.
Nodwyd y croesawid
y ffaith mai’r pwyllgor safonau sydd â’r gair olaf ar y mater.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
ymatebion drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o’r
Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru (yn Atodiad 2 i’r adroddiad), er caniatáu
eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda’r ychwanegiad a nodir isod:-
·
Cynnwys
elfennau o drafodaeth y pwyllgor ynghylch sut y byddai hyfforddiant gorfodol yn
gweithio’n ymarferol, datgan troseddau a gorfodi tystion.
·
Nodi’n
ychwanegol dan C6 (trefn ar gyfer cyfeirio penderfyniadau apeliadau yn ôl i
bwyllgor safonau) ei bod yn hanfodol bod y rhesymeg dros anghytuno â barn
tribiwnlys apêl yn cael ei chofnodi’n glir, er mwyn dangos bod y penderfyniad
apêl wedi derbyn sylw dyladwy, ond ar falans, bod y pwyllgor yn parhau o’r farn
y dylai eu penderfyniad gwreiddiol sefyll.
Dogfennau ategol: