Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith.
Penderfyniad:
Cofnod:
·
Cadarnhawyd bod y
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio gydag aelodau CWLWM (5 sefydliad
arweinio cenedlaethol gofal plant yng Nghymru) i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar
draws lleoliadau gofal plant yng Ngwynedd.
·
Eglurwyd bod Cynllun
‘Croesi’r Bont’ yn parhau gan y Mudiad Meithrin er mwyn trochi’r Gymraeg o fewn
y cylchoedd a dosbarthiadau meithrin.
·
Nodwyd bod Gwasanaeth Blynyddoedd
Cynnar yn cynnig grantiau o £100 i warchodwyd plant preifat newydd di-gymraeg i
helpu prynu adnoddau Cymraeg.
·
Esboniwyd bod yr adran
yn darparu cymorth i rieni ddysgu Cymraeg drwy sesiynau ‘clwb cwtch’ ar lein y Mudiad Meithrin a hefyd drwy gynnal
cyrsiau ‘Friends’ drwy gyfrwng y Gymraeg gyda
chymorth Tîm Cefnogi Teulu Tîm Trothwy a Gwasanaethau Ieuenctid.
·
Sicrhawyd bod anghenion
ieithyddol yn ffactor wrth benderfynu ar faterion megis cynnwys pecynnau gofal
a’r gefnogaeth i blant bregus, lleoliadau gofal a maethu/mabwysiadu. Eglurwyd
bod angen i rai plant o dan ofal yr Adran cael eu symud i ardal all-sirol
oherwydd materion diogelwch ond cadarnhawyd bod Gweithwyr Cymdeithasol yn
parhau i gyfarch anghenion ieithyddol y plentyn drwy ymweliadau ac adnoddau.
·
Adroddwyd bod 55 o
ddarparwyr Addysg Feithrin yng Ngwynedd yn derbyn cefnogaeth Athrawes
Blynyddoedd Cynnar gan yr Adran. Eglurwyd eu bod yn darparu addysg feithrin
cyfrwng Cymraeg am 10 awr y wythnos i blant 3 oed er mwyn eu trochi yn yr iaith
a chyflwyno’r iaith iddynt fel iaith addysgu.
·
Esboniwyd bod rhwydwaith
o weithwyr Cymorth Ieuenctid y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu cyfleon dysgu
anffurfiol ac achrediadau i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd bod hyn
yn llwyddo i bontio gweithgareddau’r ysgol â rhai cymdeithasol megis Gwobr Dug
Caeredin, ble mae holl elfennau’r wobr ar gael yn y Gymraeg drwy Ap newydd.
·
Cadarnhawyd
bod holl ddeunyddiau’r rhaglen ‘Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ wedi cael eu
datblygu’n Gymraeg a Saesneg ar gyfer defnydd rhanbarthol a chenedlaethol.
·
Rhannwyd bod grŵp o
ofalwyr maeth o Wynedd wedi creu fideo fel rhan o ymgyrch maethu cenedlaethol
Maethu Cymru. Nodwyd bod y fideo yn cael ei chyflwyno’n Gymraeg gydag
is-deitlau Saesneg ac yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn aml i
ddenu pobl i feddwl am faethu.
·
Esboniwyd bod yr Adran
wedi arwain ar sefydlu Fframwaith Gweithgareddau a Chwarae i blant, pobl ifanc
a theuluoedd ar draws Gwynedd. Manylwyd bod 24 o ddarparwyr gweithgareddau wedi
cael eu cymeradwy ar y fframwaith er mwyn darparu cyfleoedd chwarae drwy
gyfrwng y Gymraeg.
·
Ymfalchïwyd bod dros 50
o sefydliadau lleol wedi dod yn ynghyd i gynnid gweithgareddau llesiant i bobl
ifanc yn ddiweddar fel rhan o Ŵyl Llesiant Ieuenctid Gwynedd.
·
Nodwyd bod yr Adran wedi
bod yn cydweithio gyda Thîm Llesiant y Cyngor i ddatblygu Ap ‘Ai Di’ er mwyn
darparu ffordd hwylus i ofalwyr ifanc gadw cyswllt gyda’u hysgol, ac i’w
ddefnyddio yn gymunedol er mwyn cael gostyngiadau ar weithgareddau a
gwasanaethau. Eglurwyd bod yr ap hwn wedi derbyn canmoliaeth genedlaethol yn
ddiweddar gan ei fod yn cyrraedd anghenion gofalwyr ifanc.
·
Diweddarwyd bod 69% o
staff yr adran wedi cwblhau hunanasesiad iaith. Eglurwyd bod nifer o staff heb
gwblhau’r hunanasesiad yn weithwyr achlysurol a staff sydd heb fynediad i
gyfrifiadur.
·
Cadarnhawyd bod 93.8% o
staff yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Esboniwyd bod 21 aelod o staff ddim yn
cyrraedd y dynodiad iaith ar gyfer eu swydd gyda 3 o’r staff hynny yn mynychu
hyfforddiant iaith ar hyn o bryd.
·
Cydnabuwyd bod
trafferthion recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwysedig yn fater sy’n peri
pryder i’r Adran. Cadarnhawyd bod yr adran wedi datblygu Cynllun Gweithlu er
mwyn lleihau’r tebygolrwydd o orfod recriwtio gweithwyr cymdeithasol di-gymraeg
neu ddefnyddio gweithwyr asiantaeth ddi-gymraeg. Nodwyd bod y Cynllun Gweithlu
hwn eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Cabinet a Phwyllgor Craffu Gofal.
·
Trafodwyd bod cydweithio
drwy gyfrwng y Gymraeg gyda phartneriaid yn her sy’n wynebu’r Adran. Manylwyd
bod hyn yn cynnwys cyfarfodydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gan nad yw
nifer o’r partneriaid yn cynnig darpariaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd
rhithiol. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cynnal y mwyafrif o’u cyfarfodydd yn
ddwyieithog a diolchwyd i Uned Gyfieithu’r Cyngor am gydweithio mor effeithiol
gyda’r Adran.
·
Eglurwyd bod pobl ifanc
sy’n derbyn dedfryd o garchar wedi cael ei ychwanegu i gofrestr risg yr Adran.
Manylwyd bod hyn oherwydd nad oes gan yr Adran unrhyw reolaeth o ble fydd yr
unigolion yn cael eu dedfrydu a byddent yn colli pob cysylltiad gyda’u teulu,
iaith a diwylliant dros y cyfnod hwn. Rhannwyd enghraifft berthnasol o’r
sefyllfa hon a chadarnhawyd bod yr adran yn parhau i’w gefnogi drwy gyfrwng y
Gymraeg dros gyfnod ei ddedfryd, gyda chymorth y Gwasanaeth Cyfiawnder
Ieuenctid a Gweithwyr Cymdeithasol.
·
Amlygwyd bod canfod
lleoliadau gofal addas i blant yn heriol a nodwyd bod yr adran wedi derbyn cwyn
gan un person ifanc gan fod y staff sy’n edrych ar ei ôl yn ddi-gymraeg.
Pwysleisiwyd bod yr Adran yn gwneud popeth yn eu gallu er mwyn lleoli unrhyw
unigolion mewn lleoliadau gofal addas ym mhob ystyr.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
·
Eglurwyd bod ardaloedd
Dechrau’n Deg wedi cael ei gyfyngu i leoliadau penodol yn y gorffennol oherwydd
ei fod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod yr angen am y
gwasanaeth wedi amlygu mewn ardaloedd eraill o fewn Gwynedd erbyn hyn ac mae’r
cynllun wedi cael ei ymestyn. Cadarnhawyd bod cynlluniau i ymestyn y
ddarpariaeth ymhellach yn y dyfodol oherwydd ei fod yn rhoi cefnogaeth bwysig i
blant a rhieni a darpariaeth gofal plant am 12.5 awr yr wythnos i blant 2 oed.
·
Ymfalchïwyd bo sefyllfa
recriwtio’r Adran wedi gwella yn ddiweddar gan nad oes swyddi gwag o fewn yr
Aran ar hyn o bryd. Trafodwyd bod yr Adran wedi gweithio ar nifer o wahanol
ffyrdd i ddenu staff megis cydweithio gyda Phrifysgol Bangor er mwyn rhoi
profiad lleoliadau gwaith i 9 disgybl MA. Eglurwyd bod 7 o’r disgyblion heini
wedi llwyddo i dderbyn swydd ar ddiwedd eu profiad gwaith a bod pob un ohonynt
yn siarad Cymraeg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: