Agenda item

Datblygiad preswyl o 4 tŷ fforddiadwy ynghyd a mynedfeydd cysylltiedig a pharcio (cynllun diwygiedig i'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Cynorthwyol i wrthod y cais ar sail y rhesymau isod: -

1.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf datblygu) o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, Gwynedd a Môn, 2017 gan nad yw’n cydymffurfio a holl bolisïau perthnasol o fewn y Cynllun sy’n ymwneud a chynigion ar gyfer darparu tai fforddiadwy.

2.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 8 (cymysgedd priodol o dai), Polisi TAI 15 (trothwy tai fforddiadwy a’u dosbarthiad), Polisi TAI 16 (safleoedd eithrio) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cymysgedd Tai a Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd sy’n cadarnhau’n ddi-amheuol bod yr angen am dai fforddiadwy ar safle eithrio yn Rhiwlas wedi ei brofi a bod prisiad y tai eu hunain yn fforddiadwy i bobl leol.

3.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PS 1 (yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn sy’n cadarnhau bod y datblygiad yn cyfarch anghenion y gymuned leol a fyddai’n diogelu a/neu hybu’r iaith Gymraeg o fewn Rhiwlas.

 

Cofnod:

Datblygiad preswyl o 4 fforddiadwy ynghyd a mynedfeydd cysylltiedig â pharcio (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi 4 fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar safle ar gyrion pentref Rhiwlas. Nodwyd fod y cais yn gais diwygiedig i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio yn Chwefror 2018 ar gyfer 5 fforddiadwy pryd y’i gohiriwyd ar sail: (i) gofyn i’r datblygwr am dystiolaeth o wir angen am dai cymdeithasol 3 llofft ym mhentref Rhiwlas; (ii) derbyn cadarnhad os oes gan gymdeithas dai cymdeithasol cofrestredig ddiddordeb yn yr unedau neu beidio ynghyd a (iii) gwybodaeth am restrau aros i dai cymdeithasol yn yr ardal.

 

Nodwyd bod y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol:

·         Codi 2 deulawr 2 lofft a chodi 2 ddeulawr 3 llofft ar ffurf teras.

·         Darparu mynedfeydd ar wahân i bob a rhodfeydd preifat ar gyfer defnydd parcio oddi ar y ffordd.

·         Darparu siediau/storfeydd domestig ynghyd ac ardal sychu dillad yng nghefnau’r tai.

·         Cwlfertio o amgylch 26m o’r ffoes sy’n rhedeg drwy gornel dwyreiniol y safle.

                

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli oddi allan i’r ffin datblygu fel y’i cynhwysir yn y CDLl ond yn cyffwrdd yn union â’r ffin. Gellid felly ei ystyried fel safle eithrio.

Eglurwyd bod egwyddor o godi tai fforddiadwy ar y safle wedi ei selio ym Mholisi TAI 16 o’r CDLl (safleoedd eithriad) lle nodi’r fod yn rhaid i ddatblygiad ar ymyl ffin datblygu fod ar gyfer 100% tai fforddiadwy os gellid dangos bod yr angen lleol wedi ei brofi am dai fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn safle tu mewn i’r ffin datblygu.

 

Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Rhiwlas dros gyfnod y Cynllun yw 9 uned gyda 2 uned wedi eu cwblhau o fewn y pentref rhwng 2011-2020 a ffigwr ar gyfer banc tir o fewn y pentref yn 1 uned. O ystyried y wybodaeth yma, byddai caniatáu’r cais ar y safle yn cael ei gefnogi yn erbyn y lefel cyflenwad dangosol.

 

Gohiriwyd y cais cynllunio am 5 tŷ gan y Pwyllgor Cynllunio yn 2018  oherwydd bod angen i’r datblygwr dystiolaethu gwir angen am dai cymdeithasol 3 llofft ym mhentref Rhiwlas. Yn y cyfamser, roedd yr ymgeisydd wedi lleihau'r niferoedd o 5 tŷ i 4 tŷ ond er hynny nid oedd wedi cyflwyno tystiolaeth rymus na chadarn yn cadarnhau bod yr angen yn bodoli am dai 3-llofft cymdeithasol yn Rhiwlas er gwaethaf cyflwyno Datganiad Cynllunio a Datganiad Tai Fforddiadwy i gefnogi’r cais. Amlygywd bod y Datganiad Tai Fforddiadwy yn cyfeirio at yr angen am dai cymdeithasol yn y pentref yn seiliedig ar ffigyrau cofrestr Opsiynau Tai'r Cyngor oedd yn dangos bod 38% angen tŷ 2-lofft a 24% angen tŷ 3-llofft o gyfanswm o 98 person. Ategwyd mai ffigyrau Ward Penisarwaun yn gyffredinol oedd y ffigyrau hyn ac nid rhai oedd yn benodol ar gyfer Rhiwlas (byddai’n anodd adnabod pwy fyddai wedi dangos parodrwydd i symud/byw yn Rhiwlas pe byddai’r cyfle yn codi).

 

Yn ychwanegol, nodwyd bod yr Aelod Lleol eisoes wedi nodi bod mwy o angen am dai un llawr/byngalos cymdeithasol ar gyfer yr henoed yn y gymuned yn hytrach na thai 3-llofft gan fod 50% o’r stoc dai cymdeithasol 3-llofft yn Rhiwlas yn rhai sy’n cael eu tan-feddiannu. Ategwyd nad yw preswylwyr yn barod i ail-gartrefu gan nad oes tai un llawr/byngalos llai ar gael o fewn y pentref.  I’r perwyl hyn, felly, ystyriwyd nad yw’r angen am dai fforddiadwy cymdeithasol yn Rhiwlas wedi ei brofi’n ddiamheuol.

 

Parthed darparu tai fforddiadwy canolradd yn Rhiwlas, ymddengys ffigyrau Tai Teg  nad oes angen am dai 2-lofft ac mai dim ond 2 sydd ar y gofrestr ar gyfer tai 3-llofft (i’w prynu) ac mewn ymateb i’r broses ymgynghori statudol cadarnhaodd yr Uned Tai ac Eiddo nad yw’r angen yn bodoli o fewn y pentref ar gyfer tai fforddiadwy canolradd.

 

Er ystyriwyd y byddai’r cais yn dderbyniol ar sail capasiti a lleoliad, ni ystyriwyd bod tystiolaeth rymus wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd yn cadarnhau’n ddiamheuol bod yr angen am dai fforddiadwy a gynigiwyd yma wedi ei brofi ar gyfer pentref Rhiwlas.  Ystyriwyd nad oedd y bwriad cyfredol yn dderbyniol mewn egwyddor ac nad ydoedd yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·           Bod diddordeb yn y safle ers 2008 lle bu trafodaethau gyda Tai Gogledd Cymru ynglŷn â darparu 10 uned. Bu rhaid lleihau’r nifer oherwydd effaith ar y cynefin

·           Bod bwriad adeiladu 5 annedd mewn ymateb i anghenion lleol, ond erbyn hynyn cynnig 4

·           Hapus i drafod ac addasu’r cais i sicrhau dyluniad ac anghenion y pentref (y cynllun eisoes wedi ei addasu o leiaf 5 gwaith)

·           Bod y tir yn cael ei gymeradwyo gan y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol

·           Hapus i ddiwygio’r cais os mai dyna beth yw’r dymuniad

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod y cais wedi mynd yn ôl ac ymlaen nifer o weithiau ers iddo ddod yn Gynghorydd yn 2017

·         Ei fod yn erfyn ar ddatblygwyr i ystyried adeiladu byngalos yn Rhiwlas

·         Bod digon o dai 3 llofft - rhain yn cael ei tanfeddianu

·         Bod gwaith yr adeiladwr i’w gymeradwyo

·         Pryder bod pobl sydd yn chwilio am dai llai yn gorfod symud allan o’r gymuned

·         Croesawu byngalos, ond nid yn gefnogol i’r cynllun yma am dai tair llofft

 

          ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

  Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a pharodrwydd yr ymgeisydd i ystyried adeiladu byngalos a’r cynnig i dynnu’r cais yn ôl fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r swyddogion i osgoi costau, nododd y Swyddog Monitro bod rhaid cael penderfyniad ar y cais dan sylw.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Cynorthwyol i wrthod y cais ar sail y rhesymau isod: -

 

1.    Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf datblygu) o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, Gwynedd a Môn, 2017 gan nad yw’n cydymffurfio a holl bolisïau perthnasol o fewn y Cynllun sy’n ymwneud a chynigion ar gyfer darparu tai fforddiadwy.

 

2.    Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 8 (cymysgedd priodol o dai), Polisi TAI 15 (trothwy tai fforddiadwy a’u dosbarthiad), Polisi TAI 16 (safleoedd eithrio) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cymysgedd Tai a Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd sy’n cadarnhau’n ddi-amheuol bod yr angen am dai fforddiadwy ar safle eithrio yn Rhiwlas wedi ei brofi a bod prisiad y tai eu hunain yn fforddiadwy i bobl leol.

 

3.    Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PS 1 (yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn sy’n cadarnhau bod y datblygiad yn cyfarch anghenion y gymuned leol a fyddai’n diogelu a/neu hybu’r iaith Gymraeg o fewn Rhiwlas.

 

Dogfennau ategol: