Agenda item

(a)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.17 o’r Cyfansoddiad.

 

Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn ar ran Cylch yr Iaith (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad).

 

“O ystyried bod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi caniatáu sefyllfa lle bo

 

-       plant yn cael eu trochi yn unedau’r gyfundrefn drochi am 20% yn llai o amser nag o’r blaen, a hynny drwy gwtogi’r amser y mae’r plant yn yr unedau o 5 diwrnod yr wythnos i 4;

-       cwtogi staffio unedau trochi o ddau athro i un;

-       unedau trochi yn gorfod cau am gyfnodau o ganlyniad i absenoldeb staff a phrinder athrawon llanw cymwys;

-       a hefyd, oherwydd y lleihad, cyfyngu ar allu staff unedau trochi i fynd i’r ysgolion i roi arweiniad a chymorth;

 

onid ydi hin wir bod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi bod yn gyfrifol am wanychu effeithiolrwydd y ddarpariaeth drochi, a bod angen cywiro’r sefyllfa?

 

 

(b)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(A)      Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd

 

          Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn (ar ran Cylch yr Iaith) (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

“O ystyried bod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi caniatáu sefyllfa lle bo –

·         plant yn cael eu trochi yn unedau’r gyfundrefn drochi am 20% yn llai o amser nag o’r blaen, a hynny drwy gwtogi’r amser y mae’r plant yn yr unedau o 5 diwrnod yr wythnos i 4;

·         cwtogi staffio unedau trochi o ddau athro i un;

·         unedau trochi yn gorfod cau am gyfnodau o ganlyniad i absenoldeb staff a phrinder athrawon llanw cymwys;

·         a hefyd, oherwydd y lleihad, cyfyngu ar allu staff unedau trochi i fynd i’r ysgolion i roi arweiniad a chymorth,

 

onid ydi hi’n wir fod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi bod yn gyfrifol am wanychu effeithiolrwydd y ddarpariaeth drochi, a bod angen cywiro’r sefyllfa?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“I ateb y pwyntiau unigol i ddechrau, ers i’r weledigaeth newydd yma ar gyfer y gyfundrefn drochi fod yn weithredol, mae asesiadau athrawon yn nodi bod cyflawniad y plant yn gyson hefo’r drefn a fu, a’u bod yn cael gwasanaeth cystal, os nad gwell, na’r drefn a fu.  Hefyd, mae sylwadau’r penaethiaid yn nodi bod y plant yn gwerthfawrogi gallu cadw cysylltiad hefo’u mam ysgol, a buaswn i’n tybio y bydd y drefn honno yn ei gwneud yn haws dwyn perswâd ar rieni i yrru eu plant i’r canolfannau trochi.  Nid oes gennym yr hawl, wrth gwrs, i orfodi unrhyw deulu i yrru eu plant yno, ac rwy’n meddwl ei bod yn naturiol i riant boeni am blentyn yn colli cysylltiad hefo’u cyfoedion, a hynny, ar adeg, efallai, pan fo plentyn newydd symud i ardal newydd ac yn trio gwneud ffrindiau. 

 

O ran y strwythur staffio, mae’r drefn newydd yn creu cyfle i greu un tîm sy’n cydweithio ac yn gallu datblygu’n barhaus, ac mae cytundebau parhaol, wrth gwrs, yn rhoi sicrwydd a chysondeb.  Nid oes yr un uned drochi wedi gorfod cau oherwydd absenoldeb na phrinder athrawon cymwys.  Mae’r staff yn mynd i ysgolion prif lif bob wythnos ac maen nhw hefyd yn treulio cyfnodau ar ddiwedd pob cwrs yn rhoi cefnogaeth ac ôl-ofal i’r plant.

 

Ar bwynt cyffredinol, ein blaenoriaeth ni bob tro ydi rhoi’r plentyn yn ganolog ac wrth galon unrhyw gynlluniau er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn y lle gorau un i ddysgu a chaffael y Gymraeg, fel mae pob un ohonom ni yn yr ystafell yma eisiau rwy’n siŵr.  A hefyd mae’n werth nodi bod tîm llawn o arolygwyr Estyn wedi bod yn arolygu’r Awdurdod yr wythnos ddiwethaf, ac un o’r pethau roedden nhw’n craffu’n benodol arno oedd maes y Gymraeg, gan gynnwys y maes trochi, a bydd canfyddiadau’r arolygiad hwnnw yn gyhoeddus ym mis Medi.  Rwy’n edrych ymlaen yn arw iawn i’w ddarllen yn fanwl, a byddaf yn annog i bawb arall ei ddarllen hefyd pan fydd yn gyhoeddus.”

 

Cwestiwn Atodol gan Mr Ieuan Wyn (ar ran Cylch yr Iaith)

 

“O ystyried bod cymorthyddion yn cael ymweld â’r ysgolion i roi arweiniad ar y pumed diwrnod, a hynny heb eu bod wedi dilyn cwrs yn y dull trochi na gloywi iaith, ac na fydd hi’n bosib’ i chwe uned drochi yn y sir sicrhau bod pontio effeithiol rhwng yr unedau a’r ysgolion ar y pumed diwrnod, yn enwedig pan fo ond un athro ymhob uned a phan fo 79 o ysgolion cynradd ac 14 o ysgolion uwchradd yn y sir, a gan nad oes gan yr Adran Addysg strwythur i sicrhau athrawon wrth gefn, fel bod Uned Drochi Llangybi, er enghraifft, wedi gorfod cael dros 6 athro llanw gwahanol di-hyfforddiant mewn un tymor, oni ddylid ail-edrych ar fodel y drefn newydd a chywiro’r diffygion?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rwy’n meddwl ei bod yn briodol i dynnu sylw yn y lle cyntaf at y ffaith eich bod chi wedi bod yn rhan o gyflwyno’r gyfundrefn yma’n wreiddiol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am ymdrechion pawb sydd wedi ymwneud â’r gyfundrefn dros y blynyddoedd.  Rwy’n croesawu eich angerdd amlwg dros y maes hollbwysig yma, ond yr hyn sy’n fy ngwneud yn drist yw bod tôn y cwestiynu yma yn tanseilio ymdrechion cwbl arwrol y tîm sy’n gweithio hefo’r plant yma, yn tanseilio cefnogaeth eu teuluoedd ac yn tanseilio llwyddiannau rhyfeddol y plant eu hunain, sy’n llwyddo mor wych i godi’r Gymraeg mewn bur amser.

 

Fel y gwyddoch eich hun, mae beth sy’n cael ei gyflawni yn y canolfannau yma yn wirioneddol glodwiw.  Rwy’n meddwl am blant fel Chloe o Lanzarote, sy’n rhugl ei Chymraeg ar ôl ond cychwyn hefo ni fis Medi diwethaf.  Mae’r gyfundrefn drochi yn flaenoriaeth gennym ni yng Nghynllun y Cyngor, fel y gallwch weld.  Mae yna awydd gan Lywodraeth Cymru i rowlio allan ein cyfundrefn ni yn genedlaethol oherwydd ei fod yn arfer mor dda.  Mae yna waith strategol blaengar a phwysig yn digwydd er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn datblygu ac yn moderneiddio o hyd, fel y gwelodd y rhai hynny ohonoch a fanteisiodd ar y cyfle i ymweld â [phentref rhithiol] Aberwla dros ginio.

 

Mae’r awgrym ein bod yn fwriadol wanychu cyfundrefn rydym ni for falch ohoni ac mor angerddol drosti yn fy ngwneud yn drist, ac mae’r gwrthwyneb yn wir, oherwydd pe na fyddem yn datblygu a gwella, ni fyddai gennym y cyfle i lansio Aberwla yn yr Eisteddfod eleni fel rhywbeth newydd ac arloesol.  A gyda hynny o eiriau, fedra’i ond gwahodd pob un sydd yma heddiw i alw draw i’r lansiad ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod, a gai hefyd annog pawb i fynd ati i ddarllen arolygiad Estyn o’r ddarpariaeth drochi.  Rwy’n siŵr y cawn ni sgyrsiau ar ôl hynny, ar ôl i chwithau hefyd gael cyfle i’w ddarllen, ac rwyf wastad yn agored i gael sgyrsiau am y glo man ac am eich pryderon.”

 

(B)      Cwestiynau gan Aelodau Etholedig

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Ydi’r Cyngor yn ystyried lefelau amddifadedd mewn cymuned wrth benderfynu faint o ddarpariaeth mae cymuned yn ei dderbyn gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Cwestiwn pwysig iawn.  Fel rhan o’r broses ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid, fe gwblhawyd darn o waith Effaith Cydraddoldeb, wrth gwrs, ac fe nodwyd bryd hynny'r pwysigrwydd o gynnal swyddfa a chanolfan yn y ddwy gymuned fwyaf difreintiedig yn ein sir ni, sef Caernarfon a Maesgeirchen.  Mae’r gwasanaeth yn parhau i fod am ddim, ac mae yna bresenoldeb ymhob ysgol.  Mae’r gwasanaethau wedi cyrraedd 42 o gymunedau ar draws y sir, gan gynnwys, wrth gwrs, cymunedau difreintiedig.  Wedi dweud hynny, rwyf wastad yn agored i glywed syniadau am sut i gyrraedd pobl ifanc mewn ffyrdd mwy effeithiol.  Nid pobl anodd eu cyrraedd, fel maen nhw’n cael eu galw, ydi’r rhain, wrth gwrs, ond pobl sydd, efallai, ddim yn cael eu cyrraedd yn effeithiol gan wasanaethau bob amser.

 

Yn wir hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r aelod ac i’r cynghorwyr sir a thref eraill yng Nghaernarfon am y gwaith maen nhw’n wneud yn Porthi’r Dref, sef noson i bobl ifanc sy’n cynnig pryd o fwyd, lle cynnes a chroesawgar a chyfle i gymdeithasu.  Noson ddi-ffril faswn i’n ddweud ydio, ond sy’n mynd o nerth i nerth.  Yn digwydd bod, mi wnes i bicio i mewn neithiwr i ddweud helo a gweld beth oedd yn mynd ymlaen, ac mae’n amlwg yn noson sy’n cael ei gwerthfawrogi’n ofnadwy gan y criw o bobl ifanc oedd yno.  Pob clod i Geraint, y ‘chef’ am y bwyd, y ‘chicken nuggets’ sy’n ‘banging’ yn ôl rhai o’r bobl ifanc oedd yna neithiwr a’r cacennau hefo llysiau cudd!  Wedyn diolch i chi bois am eich gwaith.

 

Fe fyddwch chi’n ymwybodol hefyd bod hwn yn flaenoriaeth gennym ni yng Nghynllun y Cyngor – Ymestyn Cyfleoedd Chwarae a Chymdeithasu i Blant a Phobl Ifanc y Sir.  Rwy’n meddwl bod hynny’n nodi ein hawydd i gael y gwaith yma’n iawn.  Mi fydd yna gasglu data a barn yr holl randdeiliaid a bydd hynny yn rhoi arweiniad i ni o ran beth sydd angen ei ddatblygu a’i wella, a byddwn yn croesawu mewnbwn pobl fel yr Aelod i’r broses yna pan ddaw.” 

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn cytuno â mi bod y wasg a chymdeithas yn gyffredinol yn aml yn anghofio am bobl ifanc, ac yn euog o’u darlunio mewn golau drwg, a bod angen i ni ddathlu llwyddiannau pobl ifanc yn llawer amlach er mwyn ceisio newid y darlun yma, sy’n aml yn un anghywir?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Fedra’i ddim cytuno mwy, a bod yn onest.  Rwy’n meddwl yn aml fod pobl ifanc yn cael eu gweld fel problem, sy’n ganfyddiad afiach a dweud y gwir, a’r geiriau ‘hard to reach’ yna rydym ni’n eu clywed o hyd.  Mae geiriau mor bwysig ymhob cyd-destun, ond yn enwedig yn y cyd-destun yma.  Er enghraifft, sonnir yn aml am ‘a gang of youths’, ond pam defnyddio’r gair ‘gang’?  Fyddech chi byth yn dweud ‘a gang of pensioners’ neu a ‘gang of fifty year olds’ na fyddech?  Wedyn rwy’n meddwl bod y ffordd mae’r wasg yn darlunio pobl ifanc yn aml yn creu mwy o broblem na’r hyn sydd yna mewn gwirionedd, nes bod pobl ifanc yn cael eu gweld fel problem, sydd ddim yn wir.

 

Flynyddoedd yn ôl roeddwn yn rhan o brosiect yn ward Peblig, o’r enw Cegin Cofi, dan arweiniad y Cynghorydd Tref Kenny Khan.  Rwy’n gwybod beth ydi’r ddelwedd sydd gan bobl o bobl ifanc, o griwiau ifanc, o hogiau ifanc mewn ‘hoodies’ ac ati, ac mae’n ddelwedd wallus ac annheg yn aml iawn.  Beth sydd raid i ni gofio rŵan hefyd ydi mai’r oedran yma, yr arddegau, ydi un o’r grwpiau sydd wedi cael eu heffeithio bennaf gan Cofid.  Felly, mae angen i ni roi ffocws cyson a manwl ar ein pobl ifanc, sydd yn eu blynyddoedd ffurfiannol, ac sy’n trio ffendio eu hunain yn y byd, a hynny, yn aml iawn, yn erbyn ffactorau nad oes gennym ni'r syniad lleiaf beth ydynt.  Gan hynny, rwy’n croesawu unrhyw beth sy’n cadw’r ffocws yna ar bobl ifanc ac yn amlygu eu lleisiau, ac rwy’n gwybod mod i wedi dweud hyn o’r blaen yma, ond hoffwn dynnu sylw at Brosiect 15.  Mae yna 3 enillydd y prosiect hwnnw - lleisiau sy’n ysbrydoli pobl ifanc.  Mae o ar Facebook, Instagram, ac ati, - Prosiect 15 - 3 o bobl ifanc yn siarad.  Ia, gadewch i ni amlygu lleisiau ein pobl ifanc ni.”

 

(2)     Cwestiwn Y Cynghorydd Huw Rowlands

 

“Pa gynlluniau sydd ar waith er mwyn gwella’r trefniadau casglu sbwriel yng Ngwynedd, fel bod y diffygion presennol yn cael eu goresgyn, a chasgliadau yn cael eu gwneud ar amser ac yn unol â’r gofynion statudol?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Diolch am y cwestiwn.  Fel mae rhai aelodau’n gwybod, o bosib’, mae 'na waith yn digwydd ar hyn o bryd i drawsnewid y gwasanaeth casglu gwastraff, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r gweithlu, goruchwylwyr a’r undebau i newid y ffordd o weithio.

 

Roedd lefelau salwch uchel a threfniadau hanesyddol yn golygu nad oedd y gwasanaeth yn gwneud y defnydd gorau o oriau gwaith cynhyrchiol yn y gorffennol. Mae’n debyg nad oedd ein trigolion wedi gweld gwahaniaeth mawr yn eu casgliadau gan fod y gwasanaeth yn rhoi adnoddau ychwanegol i mewn i oresgyn y problemau hynny.  Yn hanesyddol, roedd hyn yn arwain at orwariant sylweddol, ac yn wir, Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod ail ddrytaf yng Nghymru o ran gwariant fesul cartref ar wasanaethau gwastraff y llynedd.

 

Er mwyn ceisio delio hefo hyn, rydym ni wedi bod, dros y misoedd diwethaf, yn mynd drwy broses o ail ddylunio'r gwasanaeth casglu, a hwn ydi’r prif reswm pam bod methiannau casglu wedi bod yn digwydd, yn enwedig yn ardal Arfon.

 

Fodd bynnag, mae’r gwaith o osod y sylfaen rheolaethol wedi ei gwblhau a phenaethiaid hefyd bellach wedi cyfarfod a llythyru pob aelod o staff er mwyn cadarnhau disgwyliadau.  Mae’r trefniadau newydd sydd wedi eu rhoi yn eu lle i’w gweld yn dwyn ffrwyth, ac rwy’n disgwyl y bydd trigolion Gwynedd yn gweld gwelliant yn eu casgliadau yn fuan gobeithio.

 

Efallai na fydd y gwasanaeth yn berffaith ar y dechrau, ond os bydd y criwiau wedi methu casglu ar y diwrnod arferol, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i’w gasglu ar y diwrnod canlynol.  Pan fydd pethau’n mynd o chwith, rydym ni wedi dechrau trefn newydd o gyfathrebu hefo’r cymunedau drwy roi gwybodaeth amserol ar y cyfryngau cymdeithasol ac i aelodau lleol, ac rwy’n siŵr y bydd nifer ohonoch wedi dechrau derbyn y nodyn yna yn dweud bod y casgliad yna wedi’i golli ac y bydd yna geisio casglu'r diwrnod canlynol.

 

O ran staffio, mae dwy swydd newydd wedi cael eu hysbysebu’n ddiweddar a fydd o help i oresgyn unrhyw broblemau staffio yn y tymor byr.  Mae’r gwasanaeth hefyd yn ail-edrych ar ei fflyd, er mwyn sicrhau ei fod hefo’r cerbydau mwyaf addas a dibynadwy. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn technoleg fydd yn cynorthwyo’r arweinyddion tîm i reoli’r cylchdeithiau yn fwy effeithlon.

 

Felly, ymddiheurwn am yr anhwylustod mae’r ail-drefnu yma wedi ei achosi i drigolion Gwynedd, ond rydw i’n ffyddiog y cawn wasanaeth y gallwn fod yn falch ohono unwaith eto, i’n staff a’r trigolion.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Huw Rowlands

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn hyderus bod y trefniadau newydd a’r camau sy’n cael eu cymryd i wella’r gwasanaeth yn ddigon rhagweithiol, ac yn ddigon grymus i sicrhau gwelliannau yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Rwy’n cytuno hefo’r rhwystredigaeth sydd wedi bod hefo’r gwasanaeth.  Mae wedi effeithio y rhan fwyaf ohonom ni, a finnau yn fy ward fy hun, fel y gweddill ohonom ni.  Ydw, mi rydw i’n ffyddiog bod y newidiadau yma yn mynd i ddwyn ffrwyth, ond fel pob newid, mae’n mynd i gymryd amser i setlo i lawr, ond rwy’n gobeithio, mor fuan â phosib’, y gwelwn ni wahaniaeth go iawn.”

 

(3)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

"Fel un sydd yn cynrychioli dau o'r traethau gorau yn y byd, sef Traeth Llandanwg a Thraeth Harlech, gan hefyd ddatgan bod amryw o draethau eraill yn ein sir yn disgyn i'r un categori, hoffwn ddatgan fy siom nad oedd y Cyngor wedi gwneud cais am Faner Glas i unrhyw un o'n traethau eleni.  Gai ofyn y rheswm pam na wnaeth y Cyngor ymgeisio?"

 

Ateb – Y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Rydym ni wedi anfon ymateb ysgrifenedig at yr aelod, ac mae ar gael i bob cynghorydd arall yn eich papurau.  Mi wnâi ateb drwy gyfeirio at y paragraff olaf.  Fel mae’n dweud, penderfynodd Cyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn a Chyngor Conwy beidio cyflwyno ceisiadau ar gyfer Baner Las.  Nid yw Cyngor Gwynedd wedi dathlu Gwobrau Baneri Glas yn ystod dwy allan o’r tair blynedd ddiwethaf, ac er hynny, mae ein traethau wedi bod ymysg y prysuraf erioed.  Dim ond un cynllun achredu yw'r Faner Las sy'n gwerthuso traethau ar sail meini prawf amrywiol, na fyddai o reidrwydd yn dathlu rhinweddau arbennig traethau Llandanwg a Harlech fel y cyfeirir atynt.

 

Mae ein traethau mor lân, diogel a phoblogaidd ag y buont erioed.  Mae ansawdd dŵr yn cael ei fesur yn rheolaidd, gyda llawer o draethau’n cyrraedd y safon uchaf, sef ‘rhagorol’.  Mae ein traethau yn parhau i fod ymhlith y gorau yng Nghymru, neu’r byd, a byddant yn parhau i ddenu miloedd o ymwelwyr a phobl leol eto'r haf yma”.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Gai ofyn am sicrwydd gan yr Aelod Cabinet y bydd monitro ein traethau yn cario ymlaen fel petasem yn ymgeisio am y Faner Las, ac wrth gwrs hefyd, mynd llawer ymhellach gyda rhai pethau?”

 

Ateb – Y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Fedra’i sicrhau y bydd y gwaith monitro a chyhoeddi ansawdd dyfroedd ymdrochi ar hyd yr arfordir yn parhau yn yr un modd, a hoffwn hefyd sicrhau y bydd yr Adran yn ystyried cyfleoedd perthnasol i gyflawni gwelliannau parhaus i’r dyfodol.”

 

(4)     Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

“Mewn cydweithrediad efo Cadw Cymru’n Daclus mae llawer o gymunedau Gwynedd yn ceisio lleihau ‘sbwriel.  Mae’r ‘Tîm Tacluso’ yn gosod biniau ychwanegol mewn mannau strategol. 

 

Ond, mae problem ‘sbwriel yn cael ei gwaethygu’n aml, er yn anfwriadol, gan y Cyngor hwn gan fod:

i)          Loriau ‘sbwriel/ailgylchu yn ‘sbydu ‘sbwriel wrth wibio trwy’r ardal;

ii)         Contractwyr torri glaswellt yn gadael y toriadau a ‘sbwriel sydd wedi dod i’r golwg ar ochr y lôn.

 

Hoffwn wybod pa fesurau sydd ar y gweill i wella’r sefyllfa hon?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

“Mae’r ymateb ysgrifenedig wedi ei rannu, ond mi wnâi gyfeirio at un neu ddau o bwyntiau.  Yn y lle cyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Dafydd Meurig a’r Adran Amgylchedd am ddarparu’r ymateb i ran 1 y cwestiwn yn ymwneud â lorïau casglu ‘sbwriel.  Fel y gwelwch, mae hon wedi bod yn broblem hanesyddol a bod y cartgylchu ar gefn y lorïau sydd yn cael ei ddefnyddio ddim y gorau ac felly bydd yr Adran yn edrych ar gael rhai mwy addas i’r gwaith.  Hefyd, mae tueddiad, wrth gwrs, ymhlith rhai o’r gweithlu i symud ymlaen o un lleoliad i’r llall heb gau’r drysau.  Bydd y swyddogion yn atgoffa’r gweithlu i sicrhau bod y drysau cefn wedi cau cyn symud ymlaen.

 

Symud i ail ran y cwestiwn, sy’n gyfrifoldeb yr Adran Priffyrdd, mae amryw wedi awgrymu y dylai’r contractwyr sy’n torri’r gwair hefyd godi unrhyw ‘sbwriel sy’n dod i’r golwg ar ôl y torri, ond nid yw hyn yn rhan o’r cytundeb, a byddai ychwanegu hyn yn golygu costau ychwanegol sylweddol.  Beth sydd i fod i ddigwydd ydi bod y contractwyr torri gwair yn gadael i’r swyddogion wybod lle maent yn torri, a bydd ein gangiau ni yn eu dilyn i godi ‘sbwriel.  Byddwn yn gadael i’r contractwyr wybod y bydd rhaid iddynt gydymffurfio gyda hyn.  Wrth gwrs, mae’r broblem yn waeth yn yr haf pan mae’r ymwelwyr yma.  Felly, rwy’n gobeithio y cawn yr hawl cyn bo hir i godi Treth Twristiaeth, fel bod adnodd ychwanegol ar gael i ddelio gyda’r sefyllfa, a sawl sefyllfa arall debyg, oherwydd nid yw’n deg bod trethi trigolion Gwynedd yn cael ei ddefnyddio i godi ‘sbwriel ychwanegol sydd wedi deillio o ymwelwyr i’r sir.

 

I gloi, hoffwn roi pwyslais ar y paragraff olaf, sef addysg.  Rwyf o hyd yn clywed pethau tebyg i “pam di’r Cyngor ddim yn codi ‘rubbish’ mae pobl yn lluchio o’u ceir yn fwy aml’  Nid wyf byth yn clywed pobl yn gofyn pam bod pobl yn lluchio ‘sbwriel allan o’u ceir yn y lle cyntaf, a hwn ydi’r ffordd ymlaen yn yr hir-dymor, sef addysgu pobl.  Mi wnawn ni gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chadw Cymru’n Daclus ac ail-ddechrau ymweld ag ysgolion i gael y neges drosodd nad yw’n dderbyniol i daflu ‘sbwriel allan o ffenest y car.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

“Hoffwn wybod a fydd y cynlluniau newydd yn cynnwys cydweithio yn benodol gydag ysgolion a Chadw Cymru’n Daclus, achos mae yna gynllun newydd gan Cadw Cymru’n Daclus, sef Ysgolion Di-sbwriel, a siom i mi oedd clywed mai ond 2 ysgol sydd wedi ymuno â’r cynllun yng Ngwynedd ar hyn o bryd.”

 

Ateb – Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, y Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

“Yn sicr mae yna waith i’w wneud hefo ysgolion, ac fel roeddwn yn sôn cynt, addysg ydi’r ffordd ymlaen.  Mi wnâi sicrhau bod yr Adran yn cysylltu hefo’r ysgolion a gyda Chadw Cymru’n Daclus i hyrwyddo’r prosiect yma.”

 

(5)     Cwestiwn Y Cynghorydd Elin Hywel

 

“Gyda chynnydd sylweddol mewn amlygedd defnydd ‘Vapes’ gan bobl ifanc, yn benodol gan bobl ifanc oed addysg uwchradd, pa gamau mae’r Cyngor yn eu cymryd i gefnogi ein hysgolion uwchradd i ddod i’r afael â’r her newydd a phryderus yma?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Diolch am y cwestiwn.  Ydi, mae’n rhywbeth sy’n codi’i ben yn aml iawn.  Mae’n broblem gynyddol, a dweud y gwir, yn ein hysgolion uwchradd ni, a phwy a ŵyr, efallai y bydd yn broblem fydd yn dechrau codi yn y cynradd fel mae’r pethau yma yn dueddol o fynd.  Pan fyddaf yn mynychu cyfarfodydd penaethiaid, mae’n un o’r pethau sy’n dod i fyny’n gyson yno wrth i ni godi’n pryderon.

 

Mae yna bethau fedar ysgolion eu gwneud, wrth gwrs, fel adolygu prosesau, ac ati, ac addasu’r cwricwlwm i gyfarch y pryderon ac addysgu, ond mae angen cefnogaeth gan yr Awdurdod hefyd, ac rydym ni’n aros cadarnhad am arian grant i gefnogi’r maes a chomisiynu darn o waith er mwyn trio gweld beth y gellir ei wneud.  Byddai hynny’n digwydd ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Be di’r Sgôr, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

 

Wrth gwrs, gan fod hwn yn faes newydd, mae ymchwil a data yn brin, ond mi fyddwn yn ceisio bod yn rhagweithiol yn ein hymdrechion i fanteisio ar unrhyw arweiniad newydd neu ymchwil newydd a ddaw yn y maes, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn cymryd y pwnc yma o ddifri’ ac rwy’n ei glywed o bob cyfeiriad fy hun hefyd.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Elin Hywel

 

“Gan nad oes posib’ i ni wybod effeithiau hir-dymor ‘vapio’ ar iechyd, a pha mor hawdd ydi hi i ‘vapio’ mewn unrhyw ardal, y tu fewn neu tu allan, pa gamau mae’r Adran Addysg wedi cymryd i addysgu athrawon, disgyblion, ond hefyd rhieni ar y risgiau sylweddol sydd i ‘vapio’?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Eto, mae yna waith i’w wneud ar yr elfen addysgu, ond eto hefyd, mae’r wybodaeth yn gymharol brin ar hyn o bryd, ond rwy’n meddwl bod rhaid i ni fynd ati’n rhagweithiol i ffendio hynny o wybodaeth sydd yna ar gael i ni.

 

Rydych chi’n gwneud y pwynt ynglŷn â pha mor hawdd ydi hi i ‘vapio’, boed hynny y tu fewn neu’r tu allan.  Mae hynny’n sicr yn wir, ac mae honno’n sgwrs arall eto rydym ni wedi gael yn y cyfarfodydd penaethiaid ynglŷn â thoiledau ysgolion.  Mae fano’n leoliad lle mae plant a phobl ifanc yn dueddol o fynd i ‘vapio’.  Wedyn rydym ni wedi ymrwymo i wneud darn o waith sy’n edrych oes yna rywbeth fedrwn ni wneud o ran steil toiledau, pa mor agored neu beidio ydyn nhw, fel bod criwiau o blant sy’n mynd i’r toiledau i ‘vapio’ yn haws i’w gweld.  Felly mae ‘na ddarn bach o waith ynglŷn â’r holl leoliadau ‘vapio’ yn mynd i gael ei wneud gennym ni fel Adran.

 

Hefyd, o ran y ‘sbwriel mae ‘Vapes’ yn creu, rwy’n siŵr bod unrhyw gynghorwyr sy’n hel ‘sbwriel wedi gweld y tameidiau bach plastig yna yn bob man.  Dydi hynny ddim yn amgylcheddol-gyfeillgar chwaith nagdi?  Ond eto, hoffwn sicrhau’r aelod bod yna waith yn mynd i gael ei wneud ar hyn.”

 

(6)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“O ystyried:-

·         Na fu unrhyw newid sylweddol i bolisi addysg Gymraeg Gwynedd yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf i geisio gwrthweithio shifft iaith a'r breuo parhaus, o gyfrifiad i gyfrifiad, ar y gymdeithas Gymraeg weddillol,

·         Ac wedi iddi ddod i’r amlwg nad yw’r Adran Addysg yn monitro cyfrwng yr addysg yn ysgolion y sir,

·         Ac yn wyneb yr ansicrwydd ynghylch union nifer y disgyblion yn y sir sy’n cael addysg drwy gyfrwng y Saesneg

 

onid ydy hi’n bryd gafael ynddi a rhoi ystyriaeth ddifrif, o’r newydd i gynyddu’r ddarpariaeth ym mhob ysgol uwchradd yng Ngwynedd a oedd gynt yng nghategori 2A neu 2B fel ei bod yn cyfateb i’r ddarpariaeth mewn ysgolion Cymraeg 3P (hynny yw 100% o’r plant yn gwneud o leiaf 90% o’u haddysg yn Gymraeg) a chyflwyno cyfundrefn fonitro gyfaddas rhag blaen i sicrhau hynny?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rwy’n mynd i gychwyn drwy gyfeirio at fy ymateb i gwestiwn digon tebyg a gefais gan y Cynghorydd Rhys Tudur yn y Cyngor llawn diwethaf, ac os caf wneud hynny, hoffwn nodi mai mater lleol i ni yng Ngwynedd ydi ein Polisi Iaith Addysg, mai fframwaith gweinyddol yn unig ydi’r drefn gategoreiddio a’n bod ni’n bwriadu mynd ati i ddiweddaru’r Polisi Iaith er mwyn adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi mynd rhagddynt ym myd addysg ers gosod y Polisi Iaith.

 

Rydym ni o ddifri am y ddarpariaeth yn y sir yma, a dyna pam ein bod yn diweddaru’r Polisi Iaith.  Mae’r ffaith ein bod cymaint o ddifri’ am y ddarpariaeth yma yn cael ei ddangos, rwy’n meddwl, yn y ffaith ein bod yn diweddaru’r Polisi Iaith, ein bod yn casglu gwybodaeth o fewn yr Adran am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y sir a’n bod ni wedi sefydlu Tasglu Darpariaeth Cymraeg Ysgolion Gwynedd i edrych ar yr union bethau mae’r aelod yn sôn amdanynt.  Gan hynny, rwy’n edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y rhai sy’n ymgymryd â’r darnau yma o waith, nifer ohonynt yn y stafell yma, ac i weld pa argymhellion ddaw yn eu sgil.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“O ystyried bod a wnelo’r mater yma â’n parhad ni fel pobl, ac o ystyried bod y mater yn bur syml, er gwaethaf y cymhlethdod technocrataidd sydd ynglŷn â’r gyfundrefn, fyddai’r Aelod Cabinet yn barod i ddatgan pa mor ddymunol fyddai cyfundrefn addysg lle mae 100% o blant y sir yn cael 90% o’u haddysg yn Gymraeg, h.y. pa mor ddymunol yn ei golwg hi fyddai dynodi’r ysgolion yn y sir yn ysgolion 3P fel sydd mewn siroedd eraill?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rydw i wedi dweud sawl gwaith beth yw fy marn i am ysgolion 3P a pham nad wyf yn meddwl eu bod yn addas i’r sir yma, ac nid wyf am ddiflasu pawb yn y ‘stafell drwy fynd drwy hynny eto. 

 

Rwy’n meddwl mai’r hyn sydd gennym ni yma ydi ‘clash’ diwylliannol, neu ‘clash’ steils, o bosib’.  Rwy’n meddwl ein bod o’n dau yn dymuno’r un pethau yn y bôn, sef i wella, i rymuso ac i ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg er mwyn ein parhad ni, fel rydych chi’n dweud yn glir iawn.  Rwy’n dweud hyn ‘chydig yn dafod yn y boch, efallai, ond mae’n ymddangos eich bod chi eisiau mynd ati hefo pastwn, lle rwyf innau eisiau mynd ati mewn ffordd fydd, yn y pen draw, rwy’n meddwl, yn fwy llwyddiannus, drwy gydweithio, bod yn gynhwysol, drwy ddylanwadu a mynd â phawb hefo ni ar y siwrne yma.  Rwy’n gwybod y byddwch chi’n meddwl rŵan mai rhyw hen eiriau meddal a ‘fflyffi’ ydi pethau fel annog a chefnogi a chydweithio, ac ati, ond beth sydd ynghanol y maes cymhleth yma ydi pobl, teuluoedd Gwynedd, ac rydym ni i gyd fel bodau dynol yn un uwd o bryderon, o ansicrwydd, o ddyheadau a hefyd rhagfarnau - gadewch i ni fod yn onest, pob un ohonom ni!

 

Mae pethau fel newid categori hefyd - rydych chi’n sôn am bethau technegol - mae newid categori yn newid canran darpariaeth, ayb, ac maent i gyd yn gofyn am ymgynghori llawn hefo ysgolion a phob math o brosesau statudol o gwmpas y ddeddf trefniadaeth ysgolion, hefo heriau recriwtio yn broblem.  Mae’r hyn rydych chi’n ofyn amdano yn agor y drws i heriau na fyddem, o bosib’ yn falch ohonyn nhw.  Wedyn, hyd yn oed o dynnu pob un o’r rhwystrau, y materion yna oddi yna, nid wyf o blaid diwylliant pastwn.  Nid yw hynny’n golygu mod i’n mynd i fod yn ‘soft’ ar fy nyhead i, sydd yr un fath â’ch dyhead chi yn y bôn, sef i rymuso darpariaeth y Gymraeg, a thrwy hynny rymuso’r Gymraeg yn y sir yma.  Fodd bynnag, tra mod i’n ddigon ffodus o fod yn dal y rôl yma, wnâi fyth wneud unrhyw beth fyddai’n amharu ar allu pob un plentyn yn y sir yma i gael mynediad at addysg Gymraeg, a’m dyhead mwyaf bob amser ydi gweld gweddill Cymru yn mynd yn debycach i Wynedd, gan gynhyrchu siaradwyr Cymraeg sydd yn falch o’u hiaith ac yn ei defnyddio.

 

Fodd bynnag, gan mod i’n gwybod nad ydych chi’n hoffi pethau meddal a ‘fflyffi’, mae gen i rywbeth ‘chydig bach caletach, sef data o lawr ein dosbarthiadau a gan ein hysgolion uwchradd ni.  Mae hwnnw wedi dod i’m llaw yn ddiweddar, felly rhag i mi gael unrhyw beth yn anghywir, mi wnâi ddarllen o e-bost, os gai.  O edrych ar ffigurau ysgol gyfan ar draws y sir, yn unol â diffiniad y drefn gategoreiddio, mae 'na dros 70% o blant uwchradd Gwynedd yn cael o leiaf 70% o’u gweithgareddau ysgol cwricwlaidd ac allgyrsiol yn Gymraeg.  Heb y ddwy ysgol drosiannol, y rhai 3T, mae dros 90% o blant uwchradd Gwynedd yn cael o leiaf 70% o’u gweithgareddau ysgol cwricwlaidd ac all-gyrsiol yn y Gymraeg”.  Rwy’n falch iawn o hyn, ac rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylem ni i gyd ymfalchïo ynddo.  Mi ddylem ni gefnogi unrhyw ymdrechion i ledaenu'r arfer yma ar draws Cymru.  Nid yw hynny i ddweud ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau.  Mae yna wastad gwaith i’w wneud a dyna pam ein bod wedi gosod y tasglu i wneud y gwaith maen nhw’n wneud, a dyna pam rydym ni’n hel data yn yr Adran a dyna pam y byddwn ni’n dal i weithio dros y Gymraeg yng Ngwynedd bob amser.”

 

(7)     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“O ystyried y feirniadaeth a gafodd y Cyngor mewn erthygl ar Cymru Fyw ‘Teithio Llesol: Siom nad yw rhai Cynghorau â diddordeb’ a oedd yn ymwneud â cheisiadau am grantiau llwybrau Teithiau Llesol y tu hwnt i’r pot craidd blynyddol o £500,000 y flwyddyn, i ba raddau y mae’r Cyngor wedi llwyddo i gael grantiau Teithio Llesol sydd tu hwnt i’w pot craidd ar gyfer ardaloedd gwledig tros y 5 blynedd diwethaf, ac i ba raddau y mae angen i’r Cyngor wella eu strwythurau staffio er mwyn cael mwy o lwyddiant i wneud ceisiadau yn y dyfodol?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Diolch am y cwestiwn.  Ydi mae gwella isadeiledd cerdded a beicio yn y sir yn un o flaenoriaethau’r Cyngor a thros y blynyddoedd mae Cyngor Gwynedd wedi cyflawni gwaith fyddwn i’n dadlau sy’n arloesol yn y maes yma, ac wedi sefydlu 116 cilomedr o lwybrau cerdded a beicio ar draws y sir.

 

Ond wrth gwrs mae hwn yn waith hynod o gostus sy’n gwneud y Cyngor yn ddibynnol iawn ar allu denu arian grant er mwyn cyflawni unrhyw newid sylweddol.

 

Mae’r galw am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru yn gystadleuol iawn, ac er mwyn llwyddo, mae angen cyflwyno tystiolaeth ar sut y byddai unrhyw gynllun yn cyfarch meini prawf y Llywodraeth.  Yn anffodus, mae cyfarch y meini prawf yma yn fwy heriol mewn ardaloedd gwledig sydd hefo poblogaeth is.

 

Eleni cyflwynodd Cyngor Gwynedd gais am arian i adeiladu 3 cynllun sef:

 

·         Llwybr cerdd a beicio rhwng Tywyn ac Aberdyfi gwerth £1.6m;

·         Llwybr cerdded a beicio ym Mangor gwerth £1.2m;

·         Llwybr cerdded a beicio yng Nghaernarfon gwerth £350,000.

 

Dim ond un o’r ceisiadau yma fu’n llwyddiannus, sef Llwybr Teithio Llesol ar Ffordd Penrhos, Bangor.  Newyddion da i aelodau Bangor, wrth gwrs, a phobl Bangor, ond siomedig i’r gweddill ohonom.  O gronfa arall, sef Llwybrau Diogel mewn Cymunedau,  mae yna £280,000 wedi ei sicrhau i wella darpariaeth cerdded a beicio ger Ysgol Godre’r Berwyn yn Y Bala.

 

Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, fe wnaeth y Cyngor gyflwyno ceisiadau am brosiectau gwerth oddeutu £10.5 miliwn, ond dim ond gwerth £1.5 miliwn a dderbyniwyd o’r ddwy gronfa, sef Teithio Llesol a Llwybrau Diogel yn y Gymuned.

 

Er hynny, rydym hefyd wedi elwa o ddefnyddio’r arian craidd i ddatblygu cynlluniau sydd wedi galluogi’r Cyngor i ddenu arian o ffynonellau gwahanol, yn cynnwys £2.6 miliwn ar gyfer gwelliannau i gylchfan Brynrefail ac £1.8 miliwn ar gyfer gwelliannau Lôn Las Ogwen.

 

I’r dyfodol, mae swyddogion yn trafod hefo Trafnidiaeth Cymru sut allwn ni gryfhau cynlluniau eraill er mwy sicrhau cyllid ychwanegol. Mae swyddogion yn defnyddio cyfran o’r £500,000 arian craidd Teithio Llesol sydd wedi ei dderbyn i ddatblygu cynlluniau, gyda’r bwriad o allu cyflwyno ceisiadau am grant i’w gwireddu yn y blynyddoedd nesaf.

 

Tra’n derbyn fod yna heriau capasiti wedi wynebu’r Gwasanaeth dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydw i’n hyderus fod y gwaethaf y tu ôl i ni. Yn ogystal, mae Uned Llwybrau a Mynediad y Cyngor wedi ymuno gyda’r Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau yn ystod y misoedd diwethaf ac mae gen i ffydd y bydd y cydweithio agos ar draws y maes yn cryfhau ein hymdrechion yn y maes Teithio Llesol.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“O ystyried fod nifer ceisiadau cronnus am wasanaeth yn ymwneud â ffyrdd a thraffig wedi dyblu o fis Rhagfyr i’r Pasg, ac o ystyried fod yr Adran sy’n ymwneud â theithio llesol yn mynd i gael y byrdwn o orfod delio hefo materion fel newid cyflymder drwy bentrefi i 20mya, a hefyd bod datblygiad llwybrau teithiau llesol, fel yn fy ardal i, wedi oedi ers dros ddegawd, hoffwn ofyn, os ydi’r Adran yn gwegian eisoes, onid yw’n hanfodol ein bod yn recriwtio mwy o staff er mwyn i ni lwyddo i gael mwy o arian teithiau llesol a sicrhau nad oes oedi o ddegawdau maith i weld llwybrau newydd sydd eu mawr angen?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“O ran y llwybrau yn ardal yr aelod, sef ardal Afonwen, rwy’n meddwl bod yr Adran wedi rhoi cais i mewn ar gyfer llwybr yn yr ardal yna dair gwaith, ac wedi cael gwrthodiad dair gwaith, ac mae hynny’n dangos pa mor wallus yw meini prawf y Llywodraeth, sy’n ffafrio ardaloedd poblog dros ardaloedd gwledig.  Ni allwn roi ceisiadau i mewn dro ar ôl tro ond i’w gweld yn cael eu gwrthod, pan fyddem ni’n gallu ymateb i’r meini prawf yn well drwy gyflwyno ceisiadau mewn llefydd sy’n fwy tebygol o lwyddo.  Mae’r frwydr yn y fan honno hefo’r Llywodraeth i ymestyn eu meini prawf i ffafrio ardaloedd gwledig fel Gwynedd.

 

O ran yr ochr capasiti, rwy’n derbyn bod yna heriau capasiti wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae’r newid i 20mya, wrth gwrs, yn cymryd adnoddau eithaf sylweddol, a bydd hynny yn dod i ben, gobeithio, pan fydd yr 20mya yn dod i mewn yn yr Hydref.  Gwn bod yna drafodaethau wedi bod rhwng y Pennaeth Amgylchedd a’r Prif Weithredwr ynglŷn â delio hefo capasiti yn y maes trafnidiaeth, felly rwy’n gobeithio y gwelwn ni gynnydd yn y fan honno i geisio cwrdd â’r anghenion.” 

 

 

Dogfennau ategol: