Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei adroddiad blynyddol mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod 2022/23.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr i’w ragflaenydd yn y swydd, Morwena Edwards, am ei gwaith trylwyr cyn ymadael yn ystod haf 2022, a hefyd i Lois Owens (Uwch Swyddog Gweithredol) am ei gynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr am y cyflwyniad ysbrydoledig sy’n amlygu’r arweiniad mae’n ei roi, a hefyd am yr adroddiad sy’n rhwydd i’w ddarllen ac yn cynnwys enghreifftiau go iawn a hyfryd o’r gwaith sy’n digwydd.  Nododd ymhellach bod yr ystadegau ar dudalen flaen yr adroddiad yn frawychus, ond eto’n amlygu pwysigrwydd y gwaith, a phwysleisiodd fod yr aelodau’n hynod o ddiolchgar i’r staff ymroddgar sy’n cyflawni gwyrthiau oddi fewn i’r cyllidebau tynn.

 

Ategwyd diolchiadau’r Arweinydd gan sawl aelod arall yn ogystal, a chodwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Mynegwyd gobaith y byddai’r Adroddiad Blynyddol nesaf yn cynnwys y protocol sy’n cael ei ddatblygu gan yr Adran ar hyn o bryd ar sut i helpu pobl sy’n cwympo ac yn methu cael ambiwlans am oriau. 

 

Croesawyd y gwaith sy’n digwydd i sicrhau urddas a pharc i ofalwyr ifanc a holwyd faint ohonynt sydd wedi derbyn y cerdyn adnabod, ac a oes potensial i’w ehangu?  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn debygol bod y mwyafrif llethol o’r 121 o ofalwyr ifanc sy’n derbyn cefnogaeth yn defnyddio’r cerdyn, ond y gellid dod yn ôl at yr aelod gyda’r union ffigwr.

 

Holwyd faint o gydweithio sy’n digwydd rhwng y Cyngor a mudiadau sy’n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad, megis y DPJ Foundation a Tir Dewi.  Mewn ymateb, nodwyd na ellid rhoi ateb pendant, ond y gellid dod yn ôl at yr aelod gyda’r wybodaeth.  Er hynny, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio gweithio mewn partneriaeth gydag unrhyw fudiad sy’n hyrwyddo iechyd meddwl, yn enwedig yng nghefn gwlad.

 

Gan gyfeirio at dudalen 24 o’r adroddiad, holwyd beth oedd effaith y 9 swydd gwaith cymdeithasol oedd yn wag ar ddiwedd Ionawr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·           Bod y Cyngor yn cyflogi tua 150 o weithwyr cymdeithasol a 30-40 o therapyddion galwedigaethol, a gellid darparu’r union ffigurau ar gyfer yr aelod.

·           Bod y swyddi gweigion yn creu her i’r Gwasanaeth o ran cyrraedd pobl sy’n galw am wasanaeth ac yn galw am asesiad, ond y llwyddir i wneud hynny gyda’ gweithwyr cymdeithasol, gan nad oes gennym ddewis arall.

·           Bod yna bob mathau o bethau eraill yn mynd ymlaen yn y cefndir, megis y sefyllfa o ran hyfforddiant, a faint o fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i hyfforddi i fod yn weithwyr cymdeithasol.

·           Ei bod yn her fawr cael myfyrwyr i fynd i Brifysgol Bangor i ddilyn y cwrs gwaith cymdeithasol, a bod hynny’n wir am y cwrs Therapi Galwedigaethol hefyd.

·           Bod gan y Cyngor 4 hyfforddai therapi galwedigaethol ar hyn o bryd a tua 6 hyfforddai gwaith cymdeithasol hefyd ar unrhyw adeg.  Roedd hynny’n helpu i lenwi’r bwlch rhyw gymaint, ond roedd y galw am y gwasanaeth yn cynyddu.

·           Gan fod gallu’r Adran i ddarparu’r asesiadau yn mynd yn fwy heriol, penderfynwyd buddsoddi ychydig mwy mewn gweithwyr sydd heb y cymhwyster, ond sy’n gweithio gyda’r ymarferwyr cymwysedig ac sy’n gallu ymgymryd â rhai o’r dyletswyddau ysgafnach er mwyn sicrhau bod modd i bobl gael eu gweld yn gynt, a’u diogelu.

·           Bod yr heriau recriwtio gofalwyr hyd yn oed yn fwy dwys a dyna pam bod nifer y swyddi gweigion mor uchel yn yr Adran Oedolion.  Er gwaethaf y cynnydd diweddar yng nghyflogau gofalwyr, roedd yna lai o bobl ar gael yng Ngwynedd i wneud y math yma o waith, ac ni fyddai’n bosib’ darparu gofal i bob un person yng Ngwynedd am y blynyddoedd i ddod.

·           Bod angen edrych ar ddulliau amgen o ddarparu gwasanaeth i’r dyfodol, megis taliadau uniongyrchol, defnyddio technoleg a roboteg, hyrwyddo mentrau bychain yn y cymunedau a hyrwyddo bod pobl a chymunedau yn edrych ar ôl eu hunain.

 

Nodwyd yr edrychid ymlaen dros y misoedd nesaf i weld sut mae’r gwaith o arfarnu’r model newydd o ofal cartref yn gweithio.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi darlun da o’r Gwasanaeth, ond mai rôl y cynghorwyr oedd mynd ar ôl y pethau sydd ddim yn yr adroddiad.  Mynegwyd pryder ynglŷn â’r 40 o gwynion a dderbyniwyd am y gwasanaeth, er yn cydnabod bod hynny’n nifer fechan o gymharu â faint o waith sy’n cael ei gyflawni, a holwyd sut roedd yr Adran yn delio â’r cwynion hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·           Na gytunid bod yr adroddiad yn cyfleu darlun glan perffaith o’r Gwasanaeth a bod yr ystadegau brawychus wedi’u cynnwys yna er mwyn tynnu sylw at yr heriau.  Nid oedd lle i ymfalchïo yn rhai o’r ystadegau.  Roedd angen gwneud mwy, ac roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyffredinol wedi ymrwymo i wneud mwy.

·           Bod trefn gwynion statudol yn ei lle er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn adborth, ac yn ymateb i unrhyw bryderon fel nad ydym yn ail-adrodd camgymeriadau.

·           Bod 2 swyddog yn gweithio’n benodol yn y maes cwynion - un yn yr Adran Plant ac un yn yr Adran Oedolion.

·           Bod adroddiad blynyddol yn cael ei baratoi ar y cwynion, a gellid rhannu hynny gyda’r aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: