Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton,
adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2022/23.
Diolchodd i’r cadeiryddion ac is-gadeiryddion craffu a’r holl aelodau
craffu am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.
Diolchodd hefyd i swyddogion y Gwasanaeth am gefnogi’r aelodau a
llunio’r adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
Holwyd a oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at adolygiad Archwilio Cymru o
effeithiolrwydd craffu yng Ngwynedd.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd yr adroddiad wedi’i gyhoeddi eto, ac y
byddai ar gael yn fuan ym mis Hydref.
Nodwyd nad oedd yr
Adroddiad Blynyddol yn dangos effeithiolrwydd y craffu, h.y. sut mae sylwadau’r
craffwyr ar adroddiadau neu gynlluniau strategol drafft wedi dylanwadu ar yr
adroddiadau / cynlluniau strategol terfynol.
Cwestiynwyd beth oedd diben yr Adroddiad Blynyddol oedd gerbron a holwyd
pryd fyddai’r aelodau’n derbyn adroddiad sy’n edrych ar wir effeithiolrwydd y
craffu. Mewn ymateb nodwyd:-
·
Mai un cynnig i wella sy’n cael ei adnabod yn y
fersiwn drafft o adroddiad Archwilio Cymru yw’r union bwynt yma, sef olrhain
effaith y craffu sy’n digwydd.
·
Bod bwriad i gynnal adolygiad mewnol o’r trefniadau
craffu yn yr hydref. Byddai drafft o
amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Craffu cyn
diwedd y mis, ac yn sicr, byddai olrhain effaith craffu yn rhan o’r ystyriaeth
yn ystod yr adolygiad yna hefyd.
Gan fod yr
Adroddiad Blynyddol yn rhestru rhai o’r sylwadau a wnaed gan aelodau wrth
drafod gwahanol faterion, awgrymwyd y byddai’n synhwyrol defnyddio’r sylwadau hynny
fel man cychwyn ar gyfer gwaith y flwyddyn ganlynol, fel bod yr adrannau yn
gallu dod yn ôl ymhen 6 mis neu flwyddyn
gyda diweddariadau ar y prif faterion a godwyd gan y craffwyr y flwyddyn cynt. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod sylwadau o’r fath bob amser o gymorth, a phetai
gan yr aelodau unrhyw syniadau gwahanol o ran sut i gael mwy o werth o’r
adroddiadau, diau y byddai’r swyddogion yn cymryd hynny i ystyriaeth y flwyddyn
nesaf.
·
Y cytunid bod lle i wella, a bod angen gwneud gwell
defnydd o’r eitem sefydlog ‘Materion yn codi o Drosolwg a Chraffu’ ar
raglenni cyfarfodydd y Cabinet, gan adrodd yn ôl i’r pwyllgorau craffu ar
ganlyniad trafodaethau’r Cabinet.
Nodwyd y ceid ymdeimlad bod y gyfundrefn graffu bresennol wedi’i chreu er
mwyn cadw grym mewn un lle, ac er bod rhyddid i’r craffwyr drafod gwahanol
faterion, ni welid y cyswllt rhwng y trafodaethau hynny a newidiadau mewn
polisi. Mewn ymateb, nodwyd bod yr
aelodau newydd ar y Cyngor wedi gallu ychwanegu llawer at y gyfundrefn graffu,
ac yn yr hydref, gellid dwyn syniadau a sylwadau’r aelodau, ynghyd â sylwadau
Archwilio Cymru at ei gilydd, gan edrych oes yna ffordd o wella’r llinyn aur
rhwng y craffu a’r penderfynu.
Nododd
cyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal ei fod o’r farn bod y Pwyllgor yn gwneud
gwahaniaeth, a chyfeiriodd at y gwaith o ran denu staff ac amlygu diffygion yn
y Gwasanaeth Ambiwlans a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel
enghreifftiau o’r hyn a gyflawnwyd gan y pwyllgor dros y 2 flynedd ddiwethaf.
Holwyd faint o newidiadau sydd wedi digwydd yn sgil craffu yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf. Awgrymwyd hefyd na
ddylem orfod disgwyl i Archwilio Cymru ddod yn ôl, ac y dylai’r data fod ar
flaenau ein bysedd. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Na ellid rhoi union ffigwr yn y fan a’r lle, ond bod
yna newidiadau wedi digwydd yn sgil craffu, er o bosib’ nad oedd hynny wedi’i
adrodd yn ôl yn ffurfiol drwy’r gyfundrefn graffu.
·
Bod angen rhoi gwybod i’r aelodau sut mae craffu
wedi gwneud gwahaniaeth, ac y byddai’r wybodaeth yn cael ei chasglu a’i rhannu
gyda’r aelodau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: