I ystyried
yr adroddiad
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd
diweddariad ar Wasanaeth Iechyd Meddwl Gwynedd. Atgoffwyd yr aelodau gan yr
Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl bod y Gwasanaeth Iechyd
Meddwl yn dîm integredig ers 1996, a bod y Bwrdd Iechyd yn arwain ar y
gwasanaeth. Manylwyd bod y gwaith yn cael ei arwain gan Strategaeth ‘Law yn
Llaw at Iechyd Meddwl’ a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella
darpariaeth iechyd meddwl sydd ar gael i gefnogi unigolion yng Nghymru.
Eglurwyd bod y
gwasanaeth wedi ei rannu i gynnig cefnogaeth o fewn gwasanaethau cynradd i
achosion lefel isel, a gwasanaethau eilradd i achosion mwy dwys. Cadarnhawyd
bod cyfeiriadau yn cael eu derbyn gan feddygon teulu, cyn cael eu craffu’n
ddyddiol er mwyn ystyried os oes gwybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad am
addasrwydd i dderbyn asesiad iechyd meddwl. Nodwyd bod y cyfeiriadau yn cael eu
cyfeirio’n ôl i’r meddygon teulu gydag eglurhad, os nad ydynt yn addas i’w
cyfeirio ymlaen i’r gwasanaeth perthnasol.
Esboniwyd bod
cyfrifoldebau clir o fewn y bartneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd. Gan mai’r Bwrdd
Iechyd sy’n arwain ar y gwasanaeth, mae’r ffocws ar ddiagnosis a meddyginiaeth
ar eu rhan nhw - yr elfen feddygol. Cadarnhawyd mai rôl Cyngor Gwynedd fel
awdurdod lleol yw canolbwyntio ar elfennau cymdeithasol. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd
hefyd yn arwain ar y gwaith o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Pwysleisiwyd mai
gweithwyr yw prif adnodd y gwasanaeth gan eu bod yn cynnig therapi a
chefnogaeth i unigolion ymdopi a goresgyn eu salwch.
Cadarnhawyd bod
Cyngor Gwynedd yn cyflogi staff mewn nifer o rolau gwahanol er mwyn cynnig y
gwasanaeth hwn, gan gynnwys:
· 2 Arweinydd Ardal (Gogledd a De Gwynedd)
· 12.5 Gweithiwr Cymdeithasol
· 9 Gweithiwr Cefnogol er mwyn gweithio’n fwy dwys gydag unigolion ar
gynlluniau gofal a thriniaeth (gyda chyfraniad ariannol i’w cyflogi gan y Bwrdd
Iechyd).
Bwriedir
ailfodelu’r cynllun aml asiantaeth iechyd meddwl presennol sydd gan Gyngor
Gwynedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn ymgynghoriad â
Phennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Iechyd Meddwl a’r ddau
Arweinydd Ardal ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Amlygwyd yr angen i
adolygu rôl y Gweithwyr Cefnogol o fewn y gwasanaeth a’r angen i adolygu
lleoliadau all-sirol er mwyn sicrhau ein bod yn deall dyheadau unigolion i
ddychwelyd i’r ardal neu beidio.
Adroddwyd bod trafferthion yn codi ar draws Gwynedd a gweddill Cymru pan
mae awdurdodau lleol yn cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn integreiddio Gofal
a Iechyd Cymdeithasol, gan gynnwys:
· Diffyg eglurder am ddeilliannau
· Galw rhywbeth yn ‘bartneriaeth’ er mwyn gwneud iddo swnio’n well
· Diffyg eglurder am ysgogwyr sefydliadol
· Diffyg eglurder am ysgogwyr sydd heb eu datgan
· Bod yn afrealistig a gor-uchelgeisiol;
· Dim digon o sylw i fanylion ymarferol.
Cadarnhawyd bod y
peryglon cyffredin hyn yn cael eu nodi fel rhwystrau creiddiol gan arweinwyr
iechyd meddwl, sy’n eu hatal rhag cyflawni eu dyletswyddau statudol yn
effeithiol. Nodwyd bod lefel y risgiau hyn wedi cynyddu ac yn cael effaith ar
lesiant y staff gan wneud iddynt deimlo’n ynysig a ddim yn rhan greiddiol o’r
bartneriaeth.
Manylwyd ar risg
arall sy’n effeithio’r bartneriaeth drwy gadarnhau bod y Bwrdd Iechyd yn
defnyddio systemau papur yn hytrach na systemau technolegol (megis WCCIS).
Eglurwyd bod defnyddio systemau papur i gasglu data sensitif yn beryglus ac yn
gweithredu fel rhwystr wrth rannu gwybodaeth a chynllunio gwasanaethau yn
effeithiol. Esboniwyd bod hyn yn arwain at risgiau ychwanegol gan gynnwys:
· Risg llywodraethu: ynghylch rheoli data yn ddiogel
· Risg cyfathrebu: ynghylch cofnodi a rhannu gwybodaeth yn gyfredol
· Risg rôl: ynghylch cyflawni’r rôl statudol a amlinellir yn Neddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Nodwyd bod nifer o opsiynau wedi cael eu cysidro ar gyfer darparu’r
gwasanaethau hyn yn y dyfodol, gan gynnwys:
a)
Parhau ar ffurf y gwasanaeth
presennol.
b)
Adolygu trefniant partneriaeth
newydd am gyfnod o flwyddyn , gyda chyfarfodydd chwarterol i adolygu’r
trefniant/cynnydd.
c)
Trosglwyddo i dîm/gwasanaeth
gofal cymdeithasol/llesiant ar wahân sy’n cyd-fynd â sefydlu llwybr
cymdeithasol ataliol llesiant ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Mynegwyd barn gref
nad oedd y trefniant presennol yn gynaliadwy. Yn ogystal, roedd teimlad na
fyddai sefydlu cytundeb partneriaeth arall yn datrys y materion allweddol nac
yn wir yn lliniaru’r risgiau sylweddol a nodwyd. Mae’r model presennol yn
cynnig sicrwydd cyfyngedig o bartneriaeth effeithiol a diogel
Cadarnhawyd mai
model fel opsiwn C uchod a fyddai fwyaf addas i Wynedd oherwydd y byddai’n
fodel llesiant pwrpasol ac yn hyrwyddo’r amcanion allweddol. Eglurwyd bod y
rhain yn canolbwyntio ar:
· Lliniaru risg bresennol oherwydd y cyfathrebu gwael ynghylch cynnydd a
newid gan y Bwrdd Iechyd.
· Darparu mwy o berchnogaeth ar lesiant, presgripsiwn cymdeithasol a model
cymdeithasol adferiad iechyd meddwl.
· Darparu’r cyfle i adolygu gwasanaethau i hyrwyddo canolbwyntio ar ataliaeth
drwy berchnogi gofal sylfaenol.
Sicrhawyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn cael ei
ddefnyddio er mwyn datblygu achos busnes i lywio sefydlu gwasanaeth llesiant
iechyd meddwl gofal cymdeithasol ar wahân, cyn cynhyrchu adroddiad ar gamau pellach
a fyddai’n canolbwyntio ar archwilio’n fanwl y broses rheoli prosiect ar gyfer
sefydlu gwasanaeth Llesiant Iechyd Meddwl Gofal Cymdeithasol ar wahân. Nodwyd
bod sawl ymgais wedi bod i ymgynghori gyda’r Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl o fewn y
Bwrdd Iechyd er mwyn rhannu syniadau, cynllunio a chytuno ar sut bydd Cyngor
Gwynedd yn cydweithio â nhw.
Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:
· Bod nifer o awdurdodau eraill, megis Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy,
Cyngor Sir Wrexham a Chyngor Sir Y Fflint wedi
penderfynu sefydlu partneriaeth ar wahân i’r Bwrdd Iechyd eisoes, ac mae Cyngor
Sir Ynys Môn mewn sefyllfa tebyg i Gyngor Gwynedd ac wrthi’n ystyried dyfodol
eu gwasanaeth hwy.
· Cadarnhawyd bod cydweithio cadarn yn parhau rhwng y Bwrdd Iechyd, Cyngor
Gwynedd a’r Llywodraeth wrth weithio mewn partneriaeth. Nodwyd bod rhai o’r
awdurdodau eraill sydd wedi dod a’r gwasanaeth ar y cyd i ben wedi gweld
gwelliant yn y cydweithio rhyngddynt hwy a’r Bwrdd Iechyd o dan eu trefniant
newydd.
· Nodwyd mai nod Llywodraeth Cymru yw integreiddio iechyd a gofal
cymdeithasol. Eglurwyd er bod y model newydd yn mynd yn groes i’r egwyddor
hynny y bydd yn sicr o gryfhau’r cydweithio rhwng y ddau gorff yn unol ag
egwyddorion Llywodraeth Cymru.
· Cytunwyd bod problemau cydweithio ers blynyddoedd, hyd yn oed cyn i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei sefydlu. Nodwyd os na fydd y model yn
llwyddiannus, bydd yr Adran yn cydnabod hynny ac yn atebol amdano.
· Eglurwyd y bu ymgynghoriad â Gweithwyr Cymdeithasol a’r Gweithwyr Cefnogol
o fewn y gwasanaeth er mwyn derbyn mewnbwn ganddynt ar 14 Mehefin 2023.
Adroddwyd bod y mwyafrif o’r gweithwyr yn croesawu’r newid gyda rhai yn pryderu
gan fod ganddynt berthynas da â staff y Bwrdd Iechyd. Rhannwyd bod y gweithwyr
yn edrych ymlaen at y newidiadau..
· Cadarnhawyd bod cyfathrebiad cyson yn digwydd gyda’r awdurdodau lleol
eraill sydd wedi gwahanu o’u partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn i Wynedd
gael dysgu am eu llwyddiannau a’u methiannau cynasefydlu’r
model mwyaf addas ar gyfer y dyfodol.
· Sicrhawyd bod y broses o wahanu gyda’r Bwrdd Iechyd yn cael ei amserlennu
ac bydd y Pwyllgor Craffu Gofal yn cael diweddariadau cyson. Nodwyd bydd angen
cymeradwyaeth y Cabinet er mwyn symud ymlaen gyda’r model, ond bod yr Adran yn
ffyddiog bydd y model newydd yn weithredol erbyn Ebrill 2024. Pwysleisiwyd nad
yw’r dyddiad hwn yn derfynol ac mae posibilrwydd cryf bydd amserlen y model yn
cael ei ddiwygio.
· Manylwyd ar yr angen i edrych ar gostau ariannol gan fod nifer o
gyfeiriadau sy’n cyrraedd y gwasanaeth yn cynyddu yn sydyn, gan nodi bod tua
2000 yn fwy o gyfeiriadau yn y flwyddyn hon i gymharu â 2020.
· Bod yr Aelod Cabinet am gysylltu gyda’r Gweinidog Iechyd er mwyn egluro’r
trafferthion cydweithio sy’n codi rhwng awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd.
Cadarnhawyd nad
oedd gwahanu oddi wrth y Bwrdd Iechyd yn y maes hwn yn fethiant. Pwysleisiwyd
bod y Bwrdd Iechyd yn llwyddo i ddarparu gofal meddygol gwych i gleifion a bod
y model a fwriedir ei ddefnyddio ar gyfer y dyfodol am gael ei ddefnyddio er
mwyn ymdopi’n well ag agweddau cymdeithasol o’r gofal.
Diolchwyd i’r Adran am yr adroddiad ac am eu gwaith o fewn y maes gofal
iechyd meddwl.
PENDERFYNWYD:
1.
Derbyn
yr adroddiad a chefnogi cynlluniau’r adran i sefydlu model gwaith newydd ar
gyfer Gwasanaeth Iechyd Meddwl
2.
Gofyn i’r Aelod Cabinet Oedolion,
Iechyd a Llesiant gysylltu gyda Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru i egluro
bwriad i greu model gwaith newydd a'r rhesymau tu ôl i hynny
3.
Croesawyd adroddiad cynnydd a
chyfathrebiad cyson rhwng swyddogion yr Adran â’r Pwyllgor Craffu Gofal ar
ddatblygiad y Gwasanaeth Iechyd Meddwl.
Dogfennau ategol: