Agenda item

 

·         I ystyried a derbyn yr adroddiad

·         Cefnogi bwriad y Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teulueodd

·         Cydnabod fod y gwaith o edrych ar y materion yma eisoes wedi cychwyn

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gan nodi’r prif bwyntiau canlynol.

 

Cadarnhawyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad i’r hyn gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2022 ar faterion sy’n effeithio Gwasanaeth Plant mewn perthynas â denu, recriwtio a chadw staff proffesiynol. Eglurwyd bod y Gwasanaeth wedi profi trafferthion yn y maes yma yn y flwyddyn 2020/21 yn sgil Pandemig Covid-19 a bod staff yn penderfynu gadael i fynd i swyddi eraill, neu gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Pwysleisiwyd bod y sefyllfa wedi gwella erbyn hyn ac nid oes unrhyw swydd wag o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd.

 

Datganwyd bod pedwar maes i weithredu arnynt er mwyn ymateb i’r heriau sy’n ymddangos yn y gwasanaeth, sef:

 

·       Cyflogau

·       Denu a chadw staff

·       Buddsoddi mewn gweithwyr newydd

·       Datblygu lles staff

Eglurwyd mai cyflogau yw’r prif fater sy’n effeithio ar ddenu a chadw staff. Yn sgil hyn, gwelwyd bod staff yn gadael i weithio i awdurdodau eraill er mwyn cymryd mantais o delerau gwaith hyblyg. Nodwyd bod nifer o swyddi yn cael eu hysbysebu sawl gwaith cyn penodi staff, a bod angen diwygio’r raddfa gyflog yn aml cyn denu ymgeiswyr.

 

Soniwyd bod yr Adran yn ceisio adnabod talent o fewn y gweithlu presennol  ac yn rhoi cyfle i unigolion gael cymwysterau i ddatblygu eu gyrfa. Nodwyd bod y staff sy’n derbyn y gefnogaeth hon yn aros i weithio gyda’r adran am gyfnod maith. Hefyd, cadarnhawyd bod hyn yn gymorth i’r Adran i sicrhau bod y staff yn ddwyieithog.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran bellach yn denu ymgeiswyr wrth hysbysebu swyddi. Rhannwyd enghraifft o Swyddi Awtistiaeth a hysbysebwyd yn ddiweddar ble derbyniwyd 20 ymgais ar gyfer 4 swydd.

 

Esboniwyd bod yr Adran yn ceisio osgoi defnyddio staff asiantaeth ble mae’n bosibl. Nodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth eu defnyddio oherwydd dim ond un wythnos o rybudd sydd angen ei nodi cyn iddynt orffen gweithio i’r Adran. Yn ogystal, nodwyd bod y mwyafrif o staff asiantaeth yn ddi-gymraeg a bod eu cyflogau tua 40-70% yn fwy na’r gyfradd arferol. Er hyn, cadarnhawyd bod uchafswm bellach wedi cael ei osod ar gyflogau staff asiantaeth. Cadarnhawyd nad oes staff asiantaeth wedi gweithio i’r Adran ers tua 7 mlynedd oherwydd eu llwyddiant gyda llenwi swyddi.

 

Nodwyd bod yr adran yn awyddus i barhau i roi anogaeth ac i roi sylw brys i faterion pwysig wrth ysbrydoli ac arwain. Eglurwyd bod tri opsiwn strategol posibl i’w ddilyn, sef:

 

1.     Parhau ar yr un trywydd a chynnal y ‘status quo’.

2.     Dewis arddull drawsnewidiol, uchelgeisiol.

3.     Dewis arddull rhagweithiol tuag at welliant parhaus.

Cadarnhawyd bod yr Adran yn ffafrio’r trydydd opsiwn uchod  gan ei fod yn opsiwn gyraeddadwy i ddatrys heriau’r Adran. Cadarnhawyd eu bod angen cefnogaeth y Cyngor i weithredu’r opsiwn hwn yn y dyfodol oherwydd bod y nifer o geisiadau sy’n cyrraedd yr Adran wedi cynyddu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod 7175 o geisiadau wedi cyrraedd ymmlwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu a 2500 ymmlwyddyn ariannol 2019/20.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan aelodau,cadarnhawyd bod Gweithgor Cyflogau wedi ystyried nifer o opsiynau am y dyfodol gan    

gynnwys  cynnig cymwysterau i unigolion sydd yng nhanol eu gyrfa.

 

Diolchwyd i’r adran ac i’r holl weithwyr cymdeithasol am eu gwaith parhaus.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyniwyd yr adroddiad a rhoddwyd cefnogaeth i fwriad y Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd i roi ffocws ar y pedwar prif fater a nodwyd yn yr adroddiad fel ymateb i’r sefyllfa staffio gan gydnabod bod rhywfaint o’r gwaith eisoes wedi cychwyn.

 

 

Dogfennau ategol: