Cyflwyno
canlyniadau a cychwynol yr ymgynghoriad gan y gwasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg,
a gwahodd sylwadau gan yr aelodau am ymateb posib yr Uned Iaith a Chraffu wrth
lunio’r strategaeth derfynol..
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad, a’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Atodiad 1, gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith.
Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Atgoffwyd bod Safonau’r Gymraeg (Mesur y
Gymraeg)(Cymru) 2011 yn gosod gofynion ar y Cyngor i lunio strategaeth 5
mlynedd sydd yn nodi sut y maent yn bwriadu mynd ati i hyrwyddo a hybu defnydd
o’r Gymraeg o fewn y Sir. Nodwyd bod angen i’r Cyngor egluro sut mae’r
gweithredoedd hyn am gyfrannu at amcanion cenedlaethol Cymraeg 2050 i gynyddu
nifer siaradwyr Cymraeg.
Eglurwyd bod cyfnod y strategaeth hybu
bresennol yn dod i ben ym mis Hydref 2023. Nodwyd bod y cyfnod adolygu wedi
cychwyn ar ddechrau 2023 a chynhaliwyd sesiynau trafod gydag aelodau Cabinet, y
Pwyllgor Iaith a Fforwm Iaith Gwynedd er mwyn derbyn mewnbwn, cyn cynnal cyfnod
ymgynghori ar y strategaeth ddrafft rhwng 17 Ebrill a 21 Mai 2023.
Adroddwyd bod 159 o
ymatebion electronig ac un llythyr o ymatebiad wedi cyrraedd y gwasanaeth.
Manylwyd bod trawstoriad da o bob rhan o’r Sir, gyda’r rhan fwyaf o ymatebwyr
yn unigolion rhwng 35 a 74 oed. Cadarnhawyd mai dim ond 3 ymatebiad oedd gan
bobl o dan 34 oed a phwysleisiwyd bydd y gwasanaeth yn ystyried yn ofalus sut
maent yn casglu barn y garfan yma o’r gymuned yn y dyfodol.
Esboniwyd bod 72.3% o’r ymatebwyr yn cytuno
gyda’r bwriad i ganolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.R oedd hyn yn thema cyffredin mewn nifer o
ymatebion er mwyn galluogi pobl i fagu hyder wrth siarad Cymraeg.
Cadarnhawyd y bydd
ystyriaeth yn cael ei roi i newidiadau neu addasiadau i’r strategaeth derfynol
er mwyn ymateb i rai o’r sylwadau yn yr ymgynghoriad. Manylwyd bydd drafft
terfynol yn cael ei rannu ag adrannau mewnol er mwyn gallu adnabod ffrydiau
gwaith fydd yn ateb yr amcanion ac yn creu rhaglen waith cychwynnol.
Rhannwyd y bwriedir cyflwyno drafft terfynol
y strategaeth i’r Cabinet ym mis Hydref 2023.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y mater canlynol:
· Nodwyd bod ymatebion i’r ymgynghoriaeth yn isel
fwy na thebyg oherwydd bod gan y Cyngor nifer o ymgynghoriadau ar y gweill yr
un pryd. Cytunwyd bod angen ystyried dulliau newydd i rannu gwybodaeth er mwyn
i’r adborth a dderbynnir fod yn adlewyrchiad teg o farn y cyhoedd ond
cydnabuwyd bod heriau yn wynebu cynnal ymgynghoriaethau
ar hyn o bryd – megis heriau cyfryngau cymdeithasol a heriau i dderbyn ymatebion
gan drawstoriad o oedrannau gwahanol.
· Cadarnhawyd nad yw’r gwasanaeth wedi ymchwilio hyd yma, i effeithiau
Dealltwriaeth Artiffisial (Artificial Intelligence - AI) ar yr iaith Gymraeg yn y dyfodol.
Pwysleisiwyd bod y dechnoleg hon wedi datblygu’n gyflym a bydd gwaith ymchwil
yn cael ei wneud iddo yn ystod cyfnod y strategaeth hon.
· Pwysleisiwyd bod dyletswydd ar y Cyngor i roi ystyriaeth i holl
ymatebion yr ymgynghoriaeth. Cytunwyd mai lleiafrif
o’r ymatebion oedd yn negyddol ond nodwyd bod rhaid i swyddogion fod yn
ymwybodol o’r sylwadau hyn wrth fynd ymlaen i lunio drafft terfynol.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad, a’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Atodiad 1, gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: