Agenda item

 

i.          Canllawiau Ymweld ac Ysgolion

ii.         Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

iii.        Ymgynhoriad Cymwysterau Cymru: Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16

iv.        Cyfarfodydd CCYSAGauC 19 Mehefin, 2023

v.         Canlyniadau Etholiadau Pwyllgor Gwaith y CCYSAGauC

 

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Ohebiaeth gan nodi

 

i.    Canllawiau Ymweld ag Ysgolion : dogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn

ii.   Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg : gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd â’i addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.  Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr ar y ddarpariaeth o Adnoddau Iaith Gymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at Brif Weithredwr CBAC, Pennaeth Adran Adnoddau y CBAC, Y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg

iii.    Cofnodion Drafft CCYSAGau 21 Mawrth, 2023 : nodi o’r papurau bod gan y CCYSAGau waith diweddaru nifer o ddogfennau megis y Llyfryn Ymuno a CYSAG, maes o law

iv.    Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru : cefnogi ymateb y CCYSAGau

 

Cofnod:

Nodwyd bod y Canllawiau Ymweld ag Ysgolion  yn ddogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn.

 

O ran y cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, nodwyd y dymuniad y byddai deunydd yn yr iaith Saesneg ac yn yr iaith Gymraeg yn cyrraedd yr un pryd.  Adroddodd y Pennaeth Addysg ei fod yn gam pwysig a bod gan CYSAG gyfraniad pwysig iawn i’w wneud, a bod llawer o gyfleoedd i ddysgu Addysg Grefyddol o fewn y dyniaethau.  Cyfeiriodd hefyd at gyflwyniad a dderbyniwyd gan Lea Crimes ar ddatblygu’r cwricwlwm, oedd yn enghraifft dda o sut i ddatblygu’r cwricwlwm. 

 

Nodwyd bod rhaid cynnig ffyrdd gwahanol o gyflwyno gan edrych ar addysg gychwynnol athrawon, a’i bod yn hollbwysig cadw llygad ar y sefyllfa.  Nodwyd yr angen i weld beth fydd yn digwydd gyda TGAU.  Efallai bod mwy nag un platfform i leisio barn. 

 

Teimlwyd y byddai yn fuddiol gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd a’i  addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.  Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr am y ddarpariaeth o Adnoddau cyfrwng Cymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at CBAC, y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg.

 

Nodwyd efallai fod angen defnyddio grym geiriau y Papur Gwyn maes o law fel cyfle pellach i leisio barn.

 

O ran Cofnodion Drafft CCYSAGau 21 Mawrth, 2023 a’r papurau perthnasol adroddwyd bod gan y CCYSAGau waith diweddaru nifer o ddogfennau, gan gynnwys newid fformat adroddiadau, gan fod canllawiau wedi eu dyddio.

 

O ran yr Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16, cadarnhawyd bod CCYSAGau wedi  cyflwyno dadleuon cryf, a dderbyniodd gefnogaeth y CYSAG .

 

PENDERFYNWYD :

i.    Canllaw Ymweld ag Ysgolion: dogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn

ii.   Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd â’i addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.  Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr am y ddarpariaeth o Adnoddau cyfrwng Cymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at Brif Weithredwr CBAC, Pennaeth Adran Adnoddau y CBAC, Y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg

iii.    Cofnodion Drafft : nodi bod gan y CCYSAGau waith diweddaru dogfennaeth

iv.    Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: cefnogi ymateb y CCYSAGau

 

 

 

 

 

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 16:45 p.m.

 

 

 

 

CADEIRYDD

 

 

Dogfennau ategol: