Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.”

 

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Mai Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â’r gallu i greu deddfau, ond heb awdurdodaeth gyfreithiol ei hun, a bod y cymhlethdod sy’n codi o’r drefn yma’n golygu bod trafferthion yn codi rhwng y Senedd a San Steffan, gyda’r polisïau’n croesi ar faterion allweddol, a’r Senedd yn defnyddio ei chyllid i dalu am wasanaethau nad oes ganddi rym drostynt, yn ogystal ag achosion llys drudfawr.

·         Bod llawer iawn o newidiadau negyddol wedi bod ynglŷn â’r system gyfreithiol yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, gyda 23 o lysoedd y goron / ynadon yn cau, sy’n golygu bod mwy o bobl yn gorfod teithio ymhellach am gyfiawnder, yn enwedig pobl sy’n byw mewn cymunedau ac ardaloedd gwledig.  Hefyd, mae torri’r cymorth cyfreithiol i bobl sydd mewn angen yn golygu bod llawer yn dioddef problemau iechyd ac iechyd meddwl o boeni am achosion yn y llys, ac mae hynny, yn ei dro, wedi arwain at fwy o straen ar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. 

·         Y byddai datganoli’r grymoedd dros gyfiawnder a chreu cyfundrefn newydd yn golygu y gallai Cymru fynd ar drywydd gwahanol i ddatblygu’r gwasanaeth cyfreithiol i fod yn well i bobl Cymru. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaeth gyfreithiol eu hunain, yn ogystal ag Ynys Manaw, Jersey a Guernsey; mae hyd yn oed ardaloedd yn Lloegr gyda mwy o rym dros elfennau o’r gyfraith na Chymru. Mae’n bryd i’n cenedl gael yr un grym i symud ymlaen er mwyn gwaredu’r sefyllfa gymhleth sy’n bodoli rŵan.

·         Y credid ei bod yn bwysig bod y cynghorwyr yn gwthio’r materion cenedlaethol yma er lles pobl y wlad, ac wrth i ni ddod a’r materion yma gerbron y Cyngor, mae’n cychwyn sgyrsiau allweddol, sy’n symud ein cymunedau ymlaen a chreu systemau sy’n gweithio i ni.

 

Mynegodd nifer o aelodau eraill gefnogaeth i’r cynnig gan nodi:-

 

·         Bod hyn yn wall sylfaenol yn y ffordd mae Cymru’n gweithio a’i bod yn hanfodol bod ein system gyfreithiol yn adlewyrchu ein gwerthoedd a phwy ydym ni fel Cymry.

·         Ein bod angen y grym dros, nid yn unig hyn, ond popeth, a’n bod angen edrych ar ôl ein hunain fel gwlad a chael annibyniaeth i Gymru.

·         Bod cynnig gan Gyngor Gwynedd yn galw am annibyniaeth i wahanol systemau / gweinyddiaethau yn gam sicr ac angenrheidiol ymlaen.

·         Nad oedd yn anarferol, dan y drefn bresennol, i achosion llys gael eu symud ar fyr-rybudd o’r llys yng Nghaernarfon i Gaer.

·         Bod gennym yr isadeiledd, y llysoedd, ac ati, yng Nghymru, ond bod yr hen system sy’n rheoli’r cyfan yn Lloegr.

·         Bod yr ystadegau’n profi nad yw’r system gyfiawnder sy’n cael ei rheoli o San Steffan yn gweithio o gwbl, h.y.:-

-       Canran y bobl sy’n ail-droseddu yn fuan ar ôl gadael y carchar – 25% - 30%

-       Canran y bobl sy’n ail-droseddu ar ôl bod yn y carchar am lai na 12 mis – 54%

-       Y grŵp sydd fwyaf tebygol o ail-droseddu - dynion ifanc 15-17 mlwydd oed

·      Bod gwaith ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn amlygu anghyfartaledd difrifol rhwng y maes cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.  Credid hefyd bod yna lai o droseddu, ond mwy o garcharu yng Nghymru, yn enwedig merched, am ryw reswm.

·      Bod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gwneud gwaith gwych yn cadw pobl ifanc Gwynedd allan o garchar drwy eu cefnogi yn eu cymunedau, ond bod eu gwaith yn ddarostyngedig i 2 set o reolau – rheoliadau Lloegr a rheoliadau / gweithdrefnau Cymru hefyd. 

·      Nad oedd gan yr Arolygiaeth fu’n arolygu’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ddiweddar siaradwyr Cymraeg, ac mai’r unig ateb, er mwyn parchu ein hawliau, ein hawliau iaith, ymateb i anghenion iaith ac anghenion eraill yn ein cymunedau yng Nghymru yw cael un system gyfiawnder i Gymru.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.