Agenda item

Diweddaru’r Pwyllgor am y gwaith wrth law er ystyriaeth yr aelodau.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod y maes cludiant cyhoeddus yn profi cyfnod heriol yn dilyn Covid-19.  Nodwyd bod pobl wedi symud oddi wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus yng nghyfnod y Pandemig ac nad oedd y ffigyrau wedi cynyddu i’r lefel a welwyd cyn Covid-19. Eglurwyd bod pecyn ariannol wedi ei ddarparu gan y Llywodraeth er mwyn cynorthwyo costau cynnal cludiant cyhoeddus dros y cyfnod hwnnw ond bod y cynllun brys wedi dod i ben. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad y byddai’r Llywodraeth trwy’r Gronfa Bontio ar gyfer bysiau yn darparu cymorth ariannol tan Ebrill 2024.

 

Adroddwyd bod newid yn nhechnoleg yn golygu bod y Cyngor yn ceisio defnyddio bysiau trydan. Nodwyd bod  bysiau trydan cyntaf Gwynedd yn mynd i gael eu gwefru ym Mhorthmadog. Esboniwyd bod hyn yn newid mawr i gwmnïau bysiau a bod risgiau sylweddol ynghlwm a’r newidiadau hyn.

 

Cydnabuwyd bod ceir personol yn mynd i fod yn angenrheidiol mewn rhai ardaloedd gwledig er gobeithiwyd i’r ddibyniaeth hwn ar geir personol gael ei leihau yn y dyfodol. Er hyn, adroddwyd bod cynnydd o dros 30% yn nefnydd y SHERPA o gwmpas ardal Yr Wyddfa dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Atgoffwyd bod nifer o sefydliadau yn gyfrifol am y maes cludiant cyhoeddus ar y cyd gyda’r Cyngor megis Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a Chyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiad ar bwyntiau gwefru bysiau trydan ym Mhorthmadog, cadarnhaodd Pennaeth Adran Amgylchedd y gobeithir i’r pwyntiau gwefru gael eu cysylltu’n drydanol erbyn mis Awst, gyda’r gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd erbyn mis Medi yn ddibynnol ar dendr. Er hyn, nodwyd bod ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fysiau yn dilyn 6yh yn peri pryder i gwmnïau a chynhelir trafodaethau gyda’r heddlu i ddatrys y broblem. Eglurwyd y parheir i ddarbwyllo gweithredwyr i barhau gyda gwasanaethau ond ei fod yn her oherwydd prisiau rhedeg gwasanaethau.

 

Nododd aelod ei fod yn croesawu’r cydweithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru gan nodi pwysigrwydd bod y gwasanaethau lleol yn cysylltu gyda’r gwasanaethau strategol. Cyfeiriodd at wasanaeth yn ei ward nad oedd yn mynd trwy Dolan, er y credai y dylai oherwydd y nifer o deithwyr posib a fyddai’n cynyddu niferoedd defnyddwyr y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar gyllideb, cadarnhaodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod y Cyngor yn ffodus i dderbyn cefnogaeth gan Trafnidiaeth i Gymru yn flynyddol. Er hyn, pwysleisiwyd nad oes corff arall fyddai’n gallu helpu’r Cyngor i ariannu’r gwasanaethau hyn petai’r gefnogaeth yn dod i ben. Eglurwyd byddai angen chwilio am arian refeniw i ariannu’r gost petai’r sefyllfa hyn yn codi.

 

Eglurwyd bod y bysiau trydan wedi eu prynu gan Lywodraeth Cymru a bod eu perchnogaeth yn symud i Gyngor Gwynedd. Esboniwyd bod y broses o gael trwyddedau a hawliau ar gyfer meddu â thrwydded bysiau yn un anodd, cymhleth a chostus iawn ac ni fyddai hyn o fudd i’r Cyngor weithredu arno ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod y bysiau wedi cael eu gwarantu ac felly ddim yn debygol o fod yn gostau ychwanegol i’r Cyngor a bod gwaith monitro parhaus mewn lle er mwyn sicrhau bod y bysiau yn cael eu cadw i’r safon orau posibl.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Adran Amgylchedd mai prif her yr adran gyda’r maes hwn yw codi hyder trigolion Gwynedd i ddefnyddio’r gwasanaethau. Rhannwyd enghraifft ble roedd un o wasanaethau ardal Blaenau Ffestiniog wedi gorfod stopio gan orfodi trigolion i ddefnyddio ceir personol. Cydnabuwyd na fyddai’r ddibyniaeth ar geir personol yn stopio oni bai bod trigolion Gwynedd yn hyderus bod y gwasanaethau mewn lle yn mynd i barhau ac yn gyfleus iddynt.

 

Cyfeiriodd aelod at faterion a oedd wedi codi yn ei ward yn ddiweddar gan nodi bod angen sicrhau darpariaeth yn yr ardaloedd gwledig. Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod darparu gwasanaethau yn ardaloedd gwledig yn fwy costus gyda nifer isel o ddefnyddwyr yn golygu cost uwch y pen.

 

Nododd aelod pwysigrwydd derbyn mewnbwn gan ddefnyddwyr a’r rhai nad oedd yn defnyddio’r gwasanaethau wrth adolygu/ail-strwythuro gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i ymholiad am beidio defnyddio bysiau sy’n defnyddio tanwydd ffosil, eglurodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod yr adran yn ymchwilio i fysiau hydrogen yn ogystal â thrydan.

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod gwasanaethau yn ardal Arfon wedi eu tendro ac y bwriedir tendro gwasanaethau yn ardal Meirionnydd yn y ddeufis nesaf.

 

Holodd aelod sut y gellid ehangu’r defnydd o fysiau trydan i ardaloedd gwledig heb fod y Cyngor yn ei sybsideiddio. Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd bod disgwyliad y byddai’r dechnoleg yn gwella a’r pris prynu yn dod i lawr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt egluro’r sefyllfa yng nghefn gwlad i Lywodraeth Cymru fel eu bod gyda gwell dealltwriaeth, nododd Aelod Cabinet Amgylchedd ei fod yn cyfleu’r heriau a’r sefyllfa mewn trafodaethau a’i fod wedi cynrychioli’r Cyngor mewn cynhadledd yn trafod trafnidiaeth yn Llundain yn ddiweddar.

 

Croesawyd y syniad o geisio cynnwys mwy o ardaloedd twristiaeth poblogaidd yng nghylchdeithiau’r gwasanaeth er mwyn rhoi cyfle i bawb ymweld â’r safleoedd.

 

Holodd aelod pryd fyddai’n amserol i’r Pwyllgor dderbyn diweddariad. Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Amgylchedd y byddai’n amserol ar ôl mis Mawrth 2024. Ymhelaethodd y cynhelir trafodaethau am wasanaethau gydag aelodau penodol yn y cyfamser. Nododd aelod y byddai’n fuddiol derbyn gwybodaeth am y defnydd o’r bysiau trydan yn dilyn sefydlu’r gwasanaeth newydd fel rhan o’r diweddariad.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

Dogfennau ategol: