Agenda item

Adolygu Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2022-23.

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

2.    Bod Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn cylchredeg cofnodion cyfarfodydd diweddaraf y Bwrdd i Aelodau’r Pwyllgor mor fuan â phosib.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ddirprwy Arweinydd Y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd bod gan Bwyllgorau Craffu Gwynedd ac Ynys Môn ddyletswydd i fonitro cynnydd ymdrechion y Bwrdd wrth weithredu’r cynllun llesiant, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Esboniwyd mai 2022-2023 oedd flwyddyn olaf y cynllun llesiant a fabwysiadwyd yn 2018. Nodwyd bod y Bwrdd wedi cynnal ymgynghoriadau trylwyr gan ymgysylltu gyda grwpiau o rhanddeiliaid er mwyn datblygu Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028. Nodwyd byddai’r cynllun hwn yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod a gynhelir ym Moduan yn Awst 2023.

 

Nodwyd bod y cynllun llesiant newydd yn adlewyrchu gwersi a ddysgwyd gan y Bwrdd wrth weithredu’r Cynllun Llesiant diweddaraf er mwyn ymgorffori gweithdrefnau newydd i fod yn fwy llwyddiannus.

 

Atgoffwyd bod aelodau’r Bwrdd yn arbenigwyr yn eu meysydd unigol ac yn cydweithio gyda’r rhanddeiliaid er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ychwanegu gwerthi amcanion y Bwrdd oddi fewn y Cynllun Llesiant. Rhannwyd rhai enghreifftiau ble roedd y trefniant hwn wedi bod yn llwyddiannus megis Siarter Teithio Llesol, tywys Aelodau Llywodraeth Cymru o amgylch ardaloedd Gwynedd a Môn er mwyn pwysleisio pwysigrwydd mentrau cymdeithasol o fewn cymunedau a chydlynu newidiadau i faes iechyd a gofal

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i sylwad ar sicrhau fod trigolion yn ymwybodol o beth yw ystyr sero net carbon a sut i’w gyrraedd, cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, bod gweithdai yn cael eu cynnal ar hyn o bryd er mwyn canfod y ffordd orau o gyflwyno’r Amcan hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod am yr Iaith Gymraeg, sicrhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod yr Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ac ni fyddai’n cael ei newid pob 5 mlynedd fel Amcanion Llesiant y Bwrdd a nodwyd bod Is-grŵp wedi ei ffurfio’n barhaol er mwyn trafod materion ieithyddol. Ymhelaethwyd bod Comisiynydd y Gymraeg yn cyfarfod gyda Chadeirydd y Bwrdd yn chwarterol ac yn hapus gyda’u gwaith. Pwysleisiwyd bod geiriad y cynllun gorffenedig wedi cael ei ddiwygio er mwyn amlygu pwysigrwydd yr iaith i’r Bwrdd.

 

Nododd yr aelod ei fod yn cydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd o ran yr Iaith Gymraeg ond ei fod o’r farn bod peidio cynnwys Amcan Llesiant penodol yn y Cynllun Llesiant newydd yn gam gwag. Ymhelaethodd pe byddid wedi cynnwys Amcan Llesiant penodol mi fyddai wedi gwneud datganiad cryf bod yr Iaith yn ganolog i waith y Bwrdd ac yn uwch na phopeth.

 

Nodwyd nad oedd cofnodion cyfarfodydd diweddaraf y Bwrdd wedi cael eu uwchlwytho ar eu gwefan ac felly cynigiwyd i ohirio’r drafodaeth nes i’r wybodaeth gael eu rhannu’n gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei graffu’n llawn gyda holl wybodaeth berthnasol wrth law. Eiliwyd y cynnig.

·       Mewn ymateb i’r cynnig hwn, eglurodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mai problem weinyddol oedd y rheswm am hyn a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod problemau’r wefan yn cael eu datrys. Ymhelaethodd bod gwefan rhanbarthol yn cael ei ddatblygu.

·       Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cynnwys fel rhan o’r adroddiad blynyddol yn arferol. Cydnabuwyd fodd bynnag y dylai’r cofnodion hynny fod ar gael ar y wefan i unrhyw un eu harchwilio pe dymunant wneud hynny

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig i ohirio’r drafodaeth. Disgynnodd y cynnig ac fe barhawyd gyda’r drafodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar benderfyniad y Bwrdd i symud ffocws o newid hinsawdd i sero net carbon, cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn nad oedd y newid hwn mewn terminoleg wedi effeithio ar waith pwysig y Bwrdd i helpu gydag atal llifogydd. Eglurwyd hefyd bod y newid hwn wedi cael ei wneud er mwyn caniatáu i fwy o bartneriaid cael mewnbwn ar y gwaith. Nodwyd bod y Bwrdd yn cydweithio gyda’r Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur ar y materion hyn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

2.     Bod Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn cylchredeg cofnodion cyfarfodydd diweddaraf y Bwrdd i Aelodau’r Pwyllgor mor fuan â phosib.

 

Dogfennau ategol: