I gyflwyno'r Datganiad o’r Cyfrifon, yn amodol ar archwiliad, am y flwyddyn a ddaeth
i ben 31 Mawrth 2023 i'r Cyd-Bwyllgor ei gymeradwyo.
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon, yn amodol ar archwiliad, am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023
Cofnod:
Cyflwynwyd y Datganiad o’r Cyfrifon gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, a
gadarnhaodd bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn golygu fod
rhaid i bob cyd-bwyllgor baratoi cyfrifon blynyddol a gan fod GwE gyda
throsiant o dros £2.5 miliwn, ei bod yn ofynnol felly bod cyfrifon llawn yn
cael eu paratoi yn hytrach na dychweliad blynyddol sydd yn cael eu paratoi ar
gyfer Cyd-bwyllgorau llai o faint, sydd llawer symlach.
Cadarnhawyd bod y cyfrifon wedi eu cwblhau
a’u rhyddhau ers diwedd Mehefin i’w harchwilio gan Archwilio Cymru.
Fel sgil effaith i’r argyfwng Covid, gwelwyd
estyniad yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda dyddiad
cwblhau’r archwiliad ddiwedd Tachwedd eleni. O ganlyniad, bydd fersiwn yn dilyn
archwiliad yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod mis Rhagfyr.
Yn y cyfarfod 24 Mai, adroddwyd ar sefyllfa
ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2022/23, oedd ar ffurf alldro syml. Adroddwyd
bod gorwariant o £139k yn deillio yn bennaf o wariant bwriadol ar flaenoriaethu
cynlluniau angenrheidiol yn ystod y flwyddyn er mwyn rhoi cefnogaeth i
ysgolion, ond ei fod yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn. Ond, mae’r
Datganiad o’r Cyfrifon ar ffurf safonol ar gyfer pwrpas allanol a llywodraethu.
Nodwyd ei bod yn ddogfen faith, ond yn dilyn
ffurf safonol CIPFA o ran y prif ddatganiadau a nodwyd y canlynol :
Mae’r Adroddiad Naratif yn rhoi gwybodaeth
am y cyfrifon ac am weledigaeth blaenoriaethau GwE, y strategaeth ariannol,
perfformiad ariannol ac yn manylu ar y prif faterion. Mae Tabl 2 yn priodi sefyllfa
sydd wedi ei adrodd yn yr alldro diwedd y flwyddyn i sefyllfa Datganiad Incwm a
Gwariant sydd yn y Cyfrifon.
Mae Datganiad Symudiad mewn reserfau yn
crynhoi sefyllfa ariannol GwE, ac mae y datganiad yma yn priodi sefyllfa incwm
a gwariant efo sefyllfa’r fantolen, gan gynnwys gwybodaeth am y reserfau
defnyddiadwy a reserfau na ellir eu defnyddio. Cadarnhawyd bod symudiad
sylweddol wedi bod yn y reserfau na ellir eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.
Manylwyd bod reserfau defnyddiadwy, sef cronfeydd wrth gefn GwE wedi lleihau o
£2k erbyn diwedd Mawrth 2023 i £1.154 miliwn.
Mae Nodyn 10 yn rhoi dadansoddiad o
gronfeydd cyffredinol GwE a’r Gronfa Athrawon sydd newydd gymhwyso. Mae £139k
wedi ei ddefnyddio i gyllido gorwariant y flwyddyn tra bod £137k wedi ei roi i
mewn yn y gronfa Athrawon newydd gymhwyso yn ystod y flwyddyn.
Dengys Nodyn 15 - Reserfau na Ellir eu Defnyddio
bod £9 miliwn o symudiad oherwydd sefyllfa pensiynau. Cadarnhawyd bod pensiynau wedi symud o fod yn
ymrwymiadau i fod yn asedau, a bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd wedi ei
weld, oherwydd amodau’r farchnad yn gyffredinol. Canlyniad hyn yw bod symudiadau
sylweddol yn sefyllfa mantolen Cyd-bwyllgorau ac Awdurdodau Lleol.
O ran Taliadau i Swyddogion, cadarnhawyd bod y sefyllfa chwyddiant yn
golygu fod yna fwy yn y bandiau cyflog yn 2022/23 i gymharu gyda 2021/22.
Cyfeiriwyd at y lleihad o £2.8 miliwn sydd
wedi ei dderbyn yn yr Incwm Grant rhwng y ddwy flynedd. Nodwyd bod nifer o
grantiau un-tro yn sgil effaith covid wedi eu derbyn yn 2021/22, a nifer
ohonynt yn sylweddol ac yn hwyr yn y flwyddyn, ond nad oes grantiau o’r math
wedi eu derbyn yn 2022/23, sydd hefyd yn ddarlun cyffelyb a’r Cynghorau.
Cadarnhawyd na fu pecynnau terfynu gwaith yn 2022/23 na 2021/22.
Nodwyd bod symudiad yn ffigyrau Pensiynau oherwydd amodau’r farchnad.
Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a nodi’r
Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad).
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad o’r
Cyfrifon, yn amodol ar archwiliad, am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023
Dogfennau ategol: