Agenda item

 

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Yn  unol â Deddf Drwyddedu 2003 penderfynwyd gwrthod y ceisiadau gan nad oedd manylion digonol na mesurau diogelwch wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd mewn ymateb i bryderon y Cyngor a’r Heddlu

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

·         Mr Dean Hawkins - ymgeisydd

·         Elizabeth Williams (Swyddog Trwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

·         Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Rheolaeth Llygredd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar geisiadau am ddigwyddiad dros dro yn Beechwood House, Dolgellau, Gwynedd, mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan.

 

Cais 1 - Rhybudd Digwyddiad Dros dro i gynnal gweithgareddau trwyddedig estynedig i’r hyn sydd ar y drwydded fel rhan o weithgareddau Sesiwn Fawr Dolgellau 21, 22 a 23 o Orffennaf. 

 

Cais 2 - Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i gael cerddoriaeth tu allan a bar tu allan ar y Marian Fawr yn Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Hwyl yr Haf Dolgellau 19 o Awst

 

Adroddwyd bod gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r ddau gais gan y Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd, gyda sylwadau hefyd yn ategu pryderon wedi eu derbyn gan yr Heddlu. Eglurwyd mai dim ond y Cyngor (sydd yn gweithredu cyfrifoldebau Iechyd Amgylchedd) a’r Heddlu sydd gyda’r grym i wrthwynebu rhybudd digwyddiad dros dro. Nid oes trefn o ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y gyfundrefn digwyddiadau dros dro.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth fyddai’n diwallu pryderon y Cyngor a’r Heddlu ynglŷn â’r ddau ddigwyddiad. Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad, bod poster wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â natur y digwyddiad os byddai’r rhybudd digwyddiad dros dro yn cael ei ganiatáu. Roedd y poster yn amlygu’n glir nad oedd yr amserlen yn ymwneud a Sesiwn Fawr Dolgellau.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                    Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd  yr ymgeisydd:

·         Nad oedd yr eiddo wedi cael ei gynnwys yng ngweithgareddau Sesiwn Fawr Dolgellau - anodd peidio cymryd hyn yn bersonol

·         Ei fod yn ceisio gwneud elw wedi covid 19 - gweld cyfle i gymryd mantais o’r digwyddiad

·         Bod lleoliadau eraill yn y dref yn chwarae cerddoriaeth yn uchel, pam felly nad oedd modd gwneud hynny yn Beechwood House?

·         Ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda’r Cyngor a threfnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau ynglŷn â cheisio cau'r ffordd, ond nad oedd datrysiad

·         Bydd miloedd yn mynychu’r dref ac mi ddylid cau’r ffyrdd i gyd

·         Bod pawb yn cael cymryd rhan heblaw am Beechwood House

 

            Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd wedi cyflwyno gwybodaeth i’r Swyddog Amgylchedd, nododd nad oedd manylion cyswllt ganddo a'i fod yn cadw cofnod ei hun o’r lefelau sŵn a chwynion fel y gall gysylltu tystiolaeth gyda digwyddiad yn yr eiddo.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ‘ardal allanol’, nododd nad oedd ardal allanol i’r eiddo (dim gardd nac ardal allanol i eistedd) ac felly lle i sefyll yn unig fyddai tu allan gyda cherddoriaeth yn cael ei chwarae. Byddai ffenestri a drysau yn aros ar agor.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn am y ‘gwn sebon’ (foam cannon), nododd, gan nad oedd y ffordd yn cau, ni  fydd defnydd  bellach o’r ‘gwn sebon’.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y byddai’n rheoli’r gweithgareddau, nododd y byddai’n talu am ddau warchodwr diogelwch i warchod y drysau rhwng 6pm ac amser cau ar y nos Wener a’r nos Sadwrn ynghyd a chyflogi 5 aelod o staff i fonitro’r gweithgareddau / ymddygiad. Ategodd bod yr eiddo wedi ei leoli gyferbyn a lleoliad yr Heddlu dros y digwyddiad.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn sut y bydd yn cyfarch pryderon o reoli sŵn a phobl, nododd y byddai hyn yn ddibynnol ar y nifer pobl fydd yn mynychu. Ategodd y byddai staff ychwanegol ar gael i reoli a monitro'r sefyllfa, ond anodd fyddai atal pobl rhag sefyll tu allan. Bydd rhaid rheoli’r sefyllfa gyda chefnogaeth staff, gwarchodwyr diogelwch a’r Heddlu.

 

d)            Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.

 

Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Bod pryderon diogelwch defnyddwyr ffordd a chwsmeriaid ger yr eiddo wedi eu hamlygu

·         Na fydd adnoddau ychwanegol ar gael gan yr Heddlu i gadw golwg ar yr eiddo - nid yw trin y dorf yn waith i’r Heddlu

·         Cyfrifoldeb deilydd y drwydded yw gofalu am ei gwsmeriaid

·         Bod pob eiddo cyfrifol yn talu am wasanaeth Diogelwch.

 

Mared Llwyd (Arweinydd Tîm Rheolaeth Llygredd)

·         Bod nifer o gwynion am yr eiddo, yn seiliedig ar gerddoriaeth uchel, wedi eu derbyn dros y misoedd diwethaf

·         Bod cofnodion sŵn (fesul dyddiad ac amser) wedi cael eu cofnodi drwy ap sŵn. Cofnodion ar ffurf log a dyddiadur hefyd wedi eu derbyn

·         Byddai cwsmeriaid, sy’n ymgynnull tu allan i’r eiddo, yn achosi rhwystr ac aflonyddwch i eraill fynd heibio

·         Bod amod o gau drws a ffenestri yn ystod digwyddiad eisoes ar drwydded yr eiddo. Derbyn y byddai gweithredu hyn yn anodd mewn tywydd poeth, ond bod modd gosod system awyru aer tu mewn i’r eiddo.

·         Cyswllt gyda’r ymgeisydd wedi ei wneud drwy ffôn, llythyrau ac e-byst yn nodi’r cwynion ac yn ceisio dealltwriaeth o’r sefyllfa. Cynnig wedi ei wneud i gydweithio i osgoi niwsans cyhoeddus

·         Angen mesurau yn eu lle - derbyn dyhead yr ymgeisydd i ddatblygu’r busnes ond rhaid gwarchod y cyhoedd

·         Nid yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno mesurau lliniaru sŵn

·         Bod digwyddiad Sesiwn Fawr Dolgellau yn gorffen am 8pm yn y stryd gyda gweithgareddau dan do yn parhau yn y Ship. Bod y cais am gerddoriaeth hyd 1am yn hwyrach na phob eiddo arall yn y dref.

 

Ni dderbyniwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei achos, nododd yr ymgeisydd;

·         Derbyn nad oedd mesurau wedi eu cymryd i reoli ardal allanol yr eiddo

·         Ei fod yn ymwybodol o’r cwynion – rhain wedi eu gorliwio

·         Bod llenni atal sŵn a ‘shutters’ wedi eu gosod ar y ffenestri

·         Ei fod yn cadw log lefelau sŵn a'u bod o fewn y lefelau cyfreithiol

·         Ei fod yn gwahodd y swyddogion i weld yr hyn sydd yn cael ei gynnig

·         Bydd yr eiddo yn cau ym mis Medi

 

Yn manteisio ar y cyfle i grynhoi ei hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu:

·         Derbyn bod angen creu bywoliaeth, ond nid ar draul diogelwch y cyhoedd

·         Nad oedd eglurhad digonol o fesurau i liniaru pryderon

·         Bod yr amod cau ffenestri a drysau  wedi ei dorri ar sawl achlysur

·         Gan nad yw’r sefyllfa yn gwella, y  cam nesaf  fydd gosod peiriant cofnodi sŵn yn yr eiddo i gasglu tystiolaeth

 

Yng nghyd-destun cefndir a natur yr ail gais, nododd yr ymgeisydd mai cais ydoedd i ddarparu lluniaeth, a cherddoriaeth drwy seinydd ar y Marian Fawr, Dolgellau.

 

e)            Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor geisiadau’r ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD:

 

YN UNOL Â DEDDF DRWYDDEDU 2003 PENDERFYNWYD GWRTHOD Y CEISIADAU GAN NAD OEDD MANYLION DIGONOL NA MESURAU DIOGELWCH WEDI EU CYFLWYNO GAN YR YMGEISYDD MEWN YMATEB I BRYDERON Y CYNGOR A’R HEDDLU

 

Rhesymau:

 

Cais 1 - Rhybudd Digwyddiad Dros dro i gynnal gweithgareddau trwyddedig estynedig i’r hyn sydd ar y drwydded fel rhan o weithgareddau Sesiwn Fawr Dolgellau 21, 22 a 23 o Orffennaf. 

 

Nodwyd rhwystredigaeth yr ymgeisydd nad oedd wedi ei gynnwys fel rhan o Sesiwn Fawr Dolgellau (SFD).  Serch hynny, rôl yr is-bwyllgor oedd ystyried y cais yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth drwyddedu ac yn benodol y pedwar egwyddor trwyddedu, yn dilyn gwrthwynebiad i’r cais gan y Gwasanaeth Iechyd Amgylchedd a Heddlu Gogledd Cymru.

 

Ystyriwyd tystiolaeth a barn broffesiynol Swyddog Iechyd yr Amgylchedd fod nifer o gwynion wedi eu derbyn ynglŷn â sŵn yn tarddu o’r eiddo a bod dwy gŵyn yn parhau yn agored ynghyd ag enghreifftiau lle'r oedd yr amodau rheoli sŵn sydd ar y drwydded wedi eu torri gan and oedd y ffenestri ar gau.

 

Derbyniwyd tystiolaeth gan yr Heddlu yn gwrthwynebu ar sail pryderon o safbwynt diogelwch y cyhoedd y tu allan i’r eiddo lle byddai gweithgareddau trwyddedig yn cael eu cynnal pe caniateir y cais.  Nid oedd mesurau cau ffyrdd yn eu lle y tu allan i’r eiddo fel y byddai o fewn ardal SFD. Y rheswm dros gau’r ffyrdd oedd i ddelio gyda’r math o broblemau a fyddai’n codi petai’r cais yn cael ei ganiatáu. Roedd yr Heddlu hefyd yn ymwybodol o gwynion niwsans sŵn ynglŷn â’r eiddo yn y gorffennol.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio felly, ar sail y cais a’r hyn ddywedwyd yn y gwrandawiad, y gallai’r ymgeisydd roi mesurau digonol yn eu lle i liniaru’r problemau sŵn nag i warantu diogelwch y tu allan i’r eiddo.

 

Cais 2 - Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i gael cerddoriaeth tu allan a bar tu allan ar y Marian Fawr yn Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Hwyl yr Haf Dolgellau 19 o Awst

 

 

Roedd y cais yn golygu cynnal bar a chwarae miwsig mewn man cyhoeddus.  Nid oedd yr Is-bwyllgor yn credu bod y cais yn darparu digon o wybodaeth ynglŷn â natur y digwyddiad na’r modd roedd yr ymgeisydd yn bwriadu ei reoli i sicrhau digwyddiad diogel na fyddai’n tarfu yn ormodol ar bobl yn y cyffiniau.  O ganlyniad ni allai’r Is-bwyllgor fodloni ei hun yn ddigonol o safbwynt yr egwyddorion trwyddedu i fedru caniatáu’r cais.

 

Dogfennau ategol: