Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i’r Aelodau yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

 

Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

 

• Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

 

Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

 

• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

 

• Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS a’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Roedd gan yr ymgeisydd drwydded yrru lân.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y troseddau wedi digwydd ar ôl iddo raddio o Brifysgol Bangor a chael ei wahodd i ymuno a chwmni newydd ar y Stryd Fawr. Nid oedd yn ymwybodol o’r camweinyddu ac ni fu iddo gynnwys y collfarnau ar ei ffurflen gais gan iddo ystyried y collfarnau fel rhai’r cwmni ac nid collfarnau personol. Ategodd ei fod bellach wedi derbyn dinasyddiaeth i’r wlad ac amlygodd bod ei gais am ddinasyddiaeth wedi bod yn un trylwyr am ei gymeriad.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

CEFNDIR

 

Yn Ebrill 2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o guddio, methu ymrwymo i’r dyletswydd a osodir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (A.1006. A1006(7). Cafodd ddirwy o £250 a chostau o £2200 a gordal dioddefwr o £15 mewn Llys Ieuenctid yng Ngwynedd.

 

Yn Nhachwedd 2013 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o guddio, methu ymrwymo i’r dyletswydd a osodir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (A.1006. A1006(7). Cafodd ddirwy o £250 mewn Llys Ieuenctid yng Ngwynedd.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Nid oedd y Polisi’ yn ystyried y troseddau penodol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd, fodd bynnag cafwyd yr ymgeisydd yn euog mewn Llys Ieuenctid yn 2013. Nid oedd collfarnau wedi eu cofnodi ers hynny.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at gollfarnau 2013 ynghyd ag argymhelliad y swyddog i ganiatáu y cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarnau Ebrill a Thachwedd 2013 yn droseddau, ond bod cyfnod o 10 mlynedd wedi rhoi amser digonol i’r ymgeisydd brofi i’r Awdurdod Trwyddedu bod gwersi wedi eu dysgu ers iddo droseddu, bod ei ymddygiad wedi newid a’i fod wedi amlygu ei allu a’i addasrwydd ar gyfer dal trwydded gyrrwr tacsi.

 

Wedi ystyried natur y troseddau, y ddedfryd a roddwyd a’r ffaith nad oedd unrhyw hanes pellach o droseddu, nid oedd rheswm dros beidio yn yr achos yma a chaniatáu’r cais.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd