Agenda item

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

Aelod Lleol: Cynghorydd Gruffydd Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn allanol, byddai’r tŷ newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o fyrddau coed ar y llawr uchaf a charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y safle a’r adeilad presennol wedi ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDDGA) Porthdinllaen i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn gyda mynediad at y safle ar hyd y traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac ymlaen at y traeth islaw.

 

Eglurwyd bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr 1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli a  thu allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a dderbyniwyd oedd yn cynnwys  gorffeniadau allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol).

 

Ategwyd, yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r cyhoedd, penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly y llwybr yn aros fel y mae.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd i’r clogwyni ac yn creu effaith andwyol ar yr ardal.

Yng nghyd-destun polisïau perthnasol, cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI yn ymwneud yn benodol ag ail-adeiladu tai ac yn gosod cyfres o feini prawf mae'n rhaid cydymffurfio â nhw (lle bo'n briodol) er mwyn caniatáu cynlluniau o’r fath.

Nodwyd bod y cais yn amlwg wedi golygu cryn graffu arno oherwydd nifer o ystyriaethau arbenigol na fyddai yn arferol i’w canfod i’r un graddau o leiaf, gyda mwyafrif ceisiadau Cynllunio i ddymchwel ac ail gosi tai preswyl. Adroddwyd bod cwmnïau a/neu unigolion cymwys wedi asesu’r wybodaeth i law ac wedi datgan eu barn ac y byddai canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiadau arbenigol yn cael eu cynnwys fel amodau ffurfiol fel bod rhaid cynnal y datblygiad yn llwyr unol a’r mesurau a argymhellwyd. Drwy sicrhau hyn, byddai’r datblygiad yn cael ei gynnal yn llwyr gyda’r cydsyniad cyffredinol a gytunwyd. Pe byddai’r sefyllfa yn newid o ran diwygio’r cynnig mewn ymateb i  sefyllfa a godir, yna bydd rhaid ymateb bryd hynny i unrhyw sefyllfa o’r newydd.

 

Mewn ymateb i rai o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn mynegi pryder y byddai caniatáu yn gosod cynsail beryglus, nodwyd bod hawl cyfreithiol cael tŷ ar y safle ac y byddai hawl i’w addasu heb ganiatâdau cynllunio. Nodwyd bod maint a swmp y tŷ yn cyd-fynd a’r tŷ presennol ond bod bwriad cael to crib yn hytrach na tho fflat.

 

I bwrpas y cais, nodwyd bod y wybodaeth arbenigol wedi ei asesu a’i ganfod yn dderbyniol. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·           Bod difrod sylweddol wedi bod i’r clogwyni yn ddiweddar

·           Byddai gwneud yr addasiadau yn diogelu’r clogwyn tu ôl i Morlais - o ganlyniad yn sicrhau diogelwch y teulu a’r cyhoedd

·           Mai’r llwybr o flaen y sydd yn rhoi’r unig fynediad i’r traeth pan fydd llanw uchel - bydd y gwaith yn fodd o gynnal y llwybr

·           Yr adeilad presennol yn un amhoblogaidd - bydd y deunydd pre-ffab yn cael ei ddisodli gyda deunydd mwy sympathetig

·           Bydd y maint yn debyg i’r presennol ond gyda llai o wydr, defnyddio cerrig lleol a tho crib fydd yn fwy dymunol yr olwg

·           Os na fydd y cais yn cael ei ganiatáu, bydd angen caniatâd i ddiogelu’r clogwyni a chadw’r fel y mae

·           Mai diogelwch yw prif yrrwr y bwriad

·           Bod cefnogaeth i’r bwriad gan ran fwyaf o’r ymgynghorai

·           Bod angen sicrhau diogelwch i’r teulu, defnyddwyr y traeth a’r llwybr

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Bod nifer helaeth wedi gwrthwynebu - faint o gwynion a dderbyniwyd?

·         Bod y cais gwreiddiol wedi amlygu symud y llwybr - balch ofnadwy bod cyfeiriad y llwybr yn aros fel ag y mae - angen amod yn gwarantu defnydd y llwybr i bysgotwyr a’r cyhoedd

·         Bod  slip’ a chyfres o risiau yn cysylltu’r safle a’r traeth - y canllaw yn simsan - dim cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad

·         Bod y presennol yn ddolur llygad - croesawu ei fod yn cael ei ddymchwel

·         Mater o farn yw bod dyluniad y bwriad yn welliant

·         Derbyn nad yw'r safle yn rhan o’r AHNE, ond rhaid ystyried ei fod yn ymylu a’r AHNE ac wedi ei leoli yn un o’r llefydd hyfrytaf

·         Bod sawl cais wedi ei wrthod oherwydd dyluniad o fewn yr AHNE ond yn cael eu caniatáu ar apêl

·         O ystyried cyd-destun y gwrthwynebiadau, awgrymu i’r aelodau ymweld â’r safle

 

          ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle

 

             PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

 

Dogfennau ategol: