Agenda item

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri tŷ fforddiadwy canolradd newydd.

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a chodi tri annedd fforddiadwy “canolradd” (dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un cartref ar wahân gyda thair llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac mae'r safle, sydd o fewn ardal breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir yn y CDLl wedi bod yn segur ers hynny. Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon Coch sydd tua chefn y safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y blynyddoedd diwethaf cwblhawyd gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r afon yn sgil llifogydd sylweddol yn 2012.

 

Nodwyd bod y datblygiad yn un gang Cyngor Gwynedd fel rhan o gynllun “Tŷ Gwynedd” ac y byddai’r y tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu rentu am bris sy’n fforddiadwy i bobl leol.

 

Tynnwyd sylw at y nifer o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth.

 

Er gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd  bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad  ynddo’i hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon presennol y safle. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a achosir gan dri thŷ yn achosi perygl uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y llyfrgell.

 

Yng nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl) gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r broses modelu a ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion y NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad 1 y NCT. Yn ogystal roedd yr  ACLl yn cynnig cyfres o fesurau lliniaru er gwella gwytnwch y datblygiad rhag llifogydd.

O ganlyniad,  ystyriwyd  fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y gallu i reoli risg llifogydd i ddeiliaid y tai arfaethedig ac na fyddai’n achosi perygl ychwanegol mewn mannau eraill. Ystyriwyd, felly, fod y cais  yn cydymffurfio gyda gofynion Polisïau PS 5 a PS6 a chynnwys y ddogfen gyfredol NCT 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004).

 

Yng nghyd-destun y wybodaeth arbenigol a chyflwynwyd ynglŷn â’r perygl llifogydd, derbyniwyd na fydd y datblygiad hwn yn gwaethygu’r sefyllfa o safbwynt materion cynllunio materol o’i gymharu â’r hyn a ellid digwydd dan ddefnydd cynllunio cyfreithiol presennol y safle. Ystyriwyd y gall gynnig cyfle i wella gwytnwch y safle i berygl llifogydd a chyflwyno gwelliannau o safbwynt materion megis mwynderau gweledol a bioamrywiaeth. Nodwyd bod y bwriad yn cynnig cyfle i greu tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol ar safle tir llwyd o fewn ffin ddatblygu; yn gynllun derbyniol ar sail egwyddor yn cydymffurfio â gofynion polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Ei bod yn gefnogol i gais am dai fforddiadawy yn sgil argyfwg tai i bobl lleol er bod y safle dan sylw yn anaddas

·         Bod diffyg parcio sylweddol yn y pentreftensiynau rhwng trigolion lleol / deiliad ail dai / safleoedd Airbnb ynghylch diffyg llefydd parcio

·         Os caiff y tai eu hadeiladu, lle fydd pobl yn parcio? Ambell ddeilydd yn oedrannus, diffyg symudedd - hyn heb ei ystyried

·         Plismyn lleol yn cael eu galw allan yn rheolaidd i ddelio gyda materion megis parcio anghyfreithlon

·         Y cynllun yn golygu colli llefydd parcio fydd yn arwain at anrhefn llwyr

·         Y ffordd hefyd yn arwain at fferm brysur

·         Derbyn bod prinder tai ond y lleoliad yn anaddas

·         Oes modd ystyried troi'r hen lyfrgell yn faes parcio - byddai hyn yn lliniaru’r broblem?

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle i asesu cyd-destun y safle

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelodau:

·         Angen ystyried pryderon y Cyngor Cymuned ynglŷn â pharcio

·         Awgrym i ystyried codi dau dy yn hytrach na thri fyddai’n rhyddhau lle parcio

·         Anghyfrifol fyddai peidio ymateb i broblemau parcio’r pentref

·         Bod angen ystyried agosatrwydd y safle i’r afon

 

            PENDERFYNWYD Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: