Agenda item

Cais ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau yn ymwneud â'r isod:

  1. Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2040 a'r cyfnod adfer hyd at 31/12/2042 i gyd-fynd â thelerau'r prif ganiatâd cynllunio.
  2. Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd.
  3. Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau.
  4. Oriau Gweithio.
  5. Rheoli symudiadau cerbydau HGV o'r safle i 9 y dydd ar ddyddiau gwaith (dydd Llun - dydd Gwener), Dim mwy na 2 ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau'r Banc/Gwyliau Cyhoeddus.
  6. Mesurau Lliniaru Llwch.
  7. Monitro ansawdd yr aer
  8. Sŵn Gweithredol - cyfyngiadau lefel sŵn.
  9. Arolygon monitro sŵn.
  10. Cyfyngu oriau gweithredu'r malwr.
  11. Mesurau rhesymol i osgoi ymlusgiaid. 
  12. Cynllun Gwella Bioamrywiaeth (i gynnwys creu gwâl dyfrgwn).
  13. Cynllun Rheoli Adfer (i gynnwys mesurau arolygu a dileu rhywogaethau ymledol anfrodorol a ffensys atal mynediad da byw i ardaloedd sydd wedi'u hadfer).

 

Cofnod:

Cais ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai cais ydoedd ar gyfer gweithio tomen gwastraff llechi er mwyn creu stoc ar gyfer ei brosesu mewn gwaith/ffatri mwynau. Saif tomen Bryntirion o fewn Chwarel Lechi Ffestiniog sydd i'r gogledd orllewin o dref Blaenau Ffestiniog; ceir mynediad i'r chwarel gyda cherbyd o Gefnffordd yr A470, sydd tua 150m i'r gogledd o Dai Oakeley. 

 

Adroddwyd bod yr ymgeisydd yn gweithredu gwaith mwynau sy'n prosesu  gwastraff llechi o domennydd llechi'r Ffridd a Bryntirion i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog.   Adroddwyd bod rhan ddeheuol y domen eisoes wedi cael ei gweithio fel rhan o ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW (a ehangwyd wedyn dan C20/0079/03/AC). Caiff y deunydd ei symud o'r domen gan duriwr â thrac (tracked excavator) a'i fwydo i falwr symudol a hopran fwydo (feed hopper) cyn ei drosglwyddo i'w sychu a'i falu i'r gwaith ar gludfelt.  Defnyddir y cynnyrch gronynnog neu bowdr yma yn bennaf ar gyfer deunyddiau adeiladu fel ffelt to, bitwmen llechi artiffisial, pryfladdwyr, paent, resinau, haenau pibellau, ffeltiau to a chwrs lleithder, corff cerbydau dan sêl, teils terazzo a phlastigion neu bydd yn cael ei gludo ar y ffordd fel agregau eilaidd.   

 

Daw'r angen am y cais o ganlyniad i'r pentwr cyfyngedig wrth gefn sydd ar ôl yn y tomennydd sydd eisoes wedi cael caniatâd i gael ei weithio.  Amcangyfrifwyd bod tua 520,000 tunnell o ddeunydd wrth gefn yn ardal y cais a byddai hyn yn sicrhau bod gan y gwaith mwynau gyflenwad parhaus o ddeunydd am bum mlynedd.

 

Nid yw'r cynnig yn cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV o'r safle a byddai'n rhyddhau'r mwynau sydd wrth gefn yn unol â'r amodau presennol ar gyfer Chwarel Ffestiniog sy'n cyfyngu ar yr allbwn i 9 llwyth fesul diwrnod gwaith a 2 lwyth ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau'r Banc/Gwyliau Cyhoeddus.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan Network Rail (NR) yn gwrthwynebu'r bwriad oherwydd diffyg gwybodaeth yn ymwneud â rheoli llwch a'i effeithiau ar siafftiau aer y twnnel. Fodd bynnag, eglurwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth drylwyr am reoli llwch ac Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi argymell amodau priodol (mesurau lliniaru) i leihau unrhyw effaith ar ansawdd aer. Ategwyd bod NR hefyd yn  gwrthwynebu ynghylch sefydlogrwydd tir a dŵr ffo mewn perthynas â thwnnel Ffestiniog a'r rheilffordd. Gwnaed cais gan NR am drafodaethau pellach rhwng pob parti ym mis Mawrth, ond nid oedd cyfarfod i drafod sylwadau pellach ar gynnwys y wybodaeth technegol wedi digwydd.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau o'r farn bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth ddigonol o ran adroddiadau technegol sy'n ymwneud â bod yr arwyneb yn gallu cynnal llwyth, hydroleg/daeareg ac adfer ac nad oedd unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan NR yn gwrthbrofi digonolrwydd neu ddibynadwyedd yr adroddiadau hyn. Roedd yr awdurdod wedi cysylltu â NR sawl gwaith ynglŷn â'r materion hyn, gan dynnu eu sylw yn benodol at yr adroddiadau manwl a dderbyniwyd, ond ni chafwyd unrhyw sylwadau ychwanegol.

 

Yng nghyd-destun materion Bioamrywiaeth, nodwyd bod Uned Bioamrywiaeth Gwynedd a CNC wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r cynigion gyda'r amodau perthnasol yn eu lle. Byddai'r amodau hyn yn sicrhau bod y bwriad yn cydymffurfio â pholisi AMG 5 y CDLl ar y Cyd a NCT 5, sef nad oes effaith andwyol ar fioamrywiaeth leol. Ystyriwyd bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac argymhellwyd cymeradwyo'r cais gydag amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·         Bod y cais yn un fyddai’n hwyluso estyniad i’r gwaith

·         Bod cyflenwad parhaus o ddeunydd am bum mlynedd

·         Byddai hyn yn gwarchod chwe swydd am oleiaf pum mlynedd arall

·         Dyma’r unig ffynhonnell o’r deunydd yma yn y DU

·         Byddai’r cam yma yn un sylweddol i sicrhau parhad mewn darparu deunyddiau

·         Bod y cwmni yn gweld gwerth i hanes y chwarel

 

Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau yn ymwneud â'r isod:

1.         Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2040 a'r cyfnod adfer hyd at 31/12/2042 i gyd-fynd â thelerau'r prif ganiatâd cynllunio.

2.         Gweithgareddau a ganiateir a chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd.

3.         Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio am fwynau.

4.         Oriau Gweithio.

5.         Rheoli symudiadau cerbydau HGV o'r safle i 9 y dydd ar ddyddiau gwaith (dydd Llun - dydd Gwener), Dim mwy na 2 ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau'r Banc/Gwyliau Cyhoeddus.

6.         Mesurau Lliniaru Llwch.

7.         Monitro ansawdd yr aer

8.         Sŵn Gweithredol - cyfyngiadau lefel sŵn.

9.         Arolygon monitro sŵn.

10.       Cyfyngu oriau gweithredu'r malwr.

11.       Mesurau rhesymol i osgoi ymlusgiaid.

12.       Cynllun Gwella Bioamrywiaeth (i gynnwys creu gwâl dyfrgwn).

13.       Cynllun Rheoli Adfer (i gynnwys mesurau arolygu a dileu rhywogaethau ymledol anfrodorol a ffensys atal mynediad da byw i ardaloedd sydd wedi'u hadfer).

 

Dogfennau ategol: