Cais i ddiwygio amodau
ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ deulawr,
modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 - Amrywio'r
cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad arfaethedig o fewn y
safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa a ddangosir ar y
cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion trigiannol.
Aelod Lleol: Cynghorydd
Menna Baines
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn
ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol:
1. Rhaid cydymffurfio gyda’r cynlluniau newydd a
gyflwynwyd
2. Y ffenestr yn edrychiad
dwyreiniol y llawr daear i fod yn afloyw
3.
Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd
4.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cychwyn nes bod cynllun draenio ar gyfer y
safle wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio
lleol.
5.
Rhaid dilyn yn union y mesuriadau lliniaru ac yr awgrymiadau cyfoethogi
bioamrywiaeth fel sydd wedi eu cynnwys yn rhan 5.2 i 5.4 i’r Adroddiad Ecolegol
Cychwynnol a gyflwynwyd gyda chais C21/0042/25/LL
6.
Ni chaniateir ar unrhyw adeg i wal/gwrych/ffens derfyn presennol y
briffordd nac unrhyw ffin terfyn newydd a godir yn wynebu'r briffordd fod yn
uwch nag 1 metr uwchlaw lefel cerbyd lôn y ffordd sirol gyfagos o naill ben
ffin y safle a'r briffordd i'r llall ac ni chaniateir codi unrhyw beth uwch na
hynny o fewn 2m i'r cyfryw wal.
7.
Rhaid cynllunio ac adeiladu'r fynedfa'n gwbl unol a'r cynllun a gyflwynwyd.
8.
Tynnu’r hawliau datblygu a ganiateir
Nodiadau
1 - Nodyn Deddf Waliau Cydrannol
2 - Tynnu sylw'r ymgeisydd i sylwadau Dŵr Cymru
3 - Nodyn Systemau Draenio Cynaliadwy
Cofnod:
Cais i ddiwygio
amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ
deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 -
Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad
arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa
a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion
trigiannol
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol
a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i
ddiwygio Amod 2 (caniatâd cynllunio C21/0042/25/LL) am ganiatâd cynllunio llawn
ar gyfer codi tŷ deulawr a gwaith cysylltiol, er mwyn caniatáu symud
lleoliad y tŷ a ganiatawyd 3m tua’r gogledd ddwyrain. Eglurwyd bod y safle
yn cael ei wasanaethu gan fynediad oddi ar Ffordd Penrhos sy'n ffordd sirol
dosbarth 3 a bydd ardal barcio, modurdy a phorth car yn cael ei ddarparu fel
rhan o'r datblygiad. Bydd cefn y safle yn ffinio llecyn o goed sydd wedi ei
ddynodi fel Safle Bywyd Gwyllt Coetir Ffordd Treborth sy’n gwahanu'r safle oddi
wrth Canolfan Arddio Treborth.
Derbyniwyd cynlluniau
diwygiedig wrth drafod y cais yn amlygu lleihad yn ôl troed yr adeilad o’i
gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod y bwriad o symud lleoliad
yr annedd yn deillio o’r angen i osgoi datblygu o fewn y parth clustogi sydd yn
ymestyn 4m naill ochr i ganol prif bibell garthffosiaeth sy’n croesi’r safle.
Amlygwyd bod y cais hefyd yn
cynnwys cynnig i ddiwygio Amod 9 o’r caniatâd blaenorol er hwyluso’r gwaith
adeiladu trwy sicrhau i’r fynedfa gerbydol derfynol fod mewn lle cyn
defnyddio’r annedd yn hytrach na chyn dechrau datblygu’r safle.
Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Derbyniwyd neges gan yr aelod lleol yn nodi,
yn sgil darllen adroddiad y swyddog a thrafodaethau pellach gyda phreswylwyr yr
eiddo agosaf, oedd bellach wedi cadarnhau wrthi nad oedd ganddynt wrthwynebiad
i’r cynnig fel y mae’n sefyll. Fodd bynnag, roeddynt yn pwysleisio'r angen i
gadw at y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
Ystyriwyd bod egwyddor y
bwriad o godi tŷ o faint a dyluniad tebyg ar y safle hwn eisoes wedi ei
dderbyn drwy ganiatâd C21/0042/25/LL - nid yw’r polisïau perthnasol wedi newid ers
hynny ac felly mae’r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu ac yn fyw. Fe ystyriwyd fod yr egwyddor o
godi annedd ar y safle yn parhau i fod yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddor y
polisïau tai cyfredol.
Wrth ystyried y lleihad a fu
yn ôl troed y datblygiad, yn enwedig yn yr estyniad tua’r gogledd, ynghyd a’r
drafodaeth ynghylch yr effeithiau mwynderol, ni
ystyriwyd y byddai symud y tŷ hwn i’r lleoliad newydd yn cael effaith mwynderol niweidiol
arwyddocaol ar edrychiad y safle, y patrwm datblygu lleol nag ar
fwynderau preifat.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD
Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol:
1. Rhaid cydymffurfio gyda’r cynlluniau
newydd a gyflwynwyd
2. Y ffenestr yn edrychiad dwyreiniol y
llawr daear i fod yn afloyw
3. Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5
mlynedd
4. Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cychwyn
nes bod cynllun draenio ar gyfer y safle wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n
ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol.
5. Rhaid dilyn yn union y mesuriadau
lliniaru ac yr awgrymiadau cyfoethogi bioamrywiaeth fel sydd wedi eu cynnwys yn
rhan 5.2 i 5.4 i’r Adroddiad Ecolegol Cychwynnol a gyflwynwyd gyda chais
C21/0042/25/LL
6. Ni chaniateir ar unrhyw adeg i
wal/gwrych/ffens derfyn presennol y briffordd nac unrhyw ffin terfyn newydd a
godir yn wynebu'r briffordd fod yn uwch nag 1 metr uwchlaw lefel cerbyd lôn y
ffordd sirol gyfagos o naill ben ffin y safle a'r briffordd i'r llall ac ni
chaniateir codi unrhyw beth uwch na hynny o fewn 2m i'r cyfryw wal.
7. Rhaid cynllunio ac adeiladu'r fynedfa'n
gwbl unol a'r cynllun a gyflwynwyd.
8. Tynnu’r hawliau datblygu a ganiateir
Nodiadau
1 - Nodyn Deddf
Waliau Cydrannol
2 - Tynnu sylw'r
ymgeisydd i sylwadau Dŵr Cymru
3 - Nodyn Systemau
Draenio Cynaliadwy
Dogfennau ategol: