Agenda item

Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gosod suddfan ddŵr a chyfarpar offer trin carthion preifat.

Aelod Lleol: Cynghorydd Peter Thomas

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.    Yn unol gyda’r cynlluniau

2.    Gweithredu’r caniatâd o fewn 5 mlynedd.

3.    Deunyddiau

4.    Tirlunio a gwarchod coed

5.    Manylion ffiniau / cwrtil

6.    Gwaith ymchwil archeolegol

7.    Tynnu hawliau a ganiateir

8.    Cwblhau’r gwaith yn unol gyda’r adroddiad rhywogaethau gwarchodedig.

 

Cofnod:

Cais i ddiwygio amodau ynghlwm â chaniatâd cynllunio C21/0042/25/LL ar gyfer codi tŷ deulawr, modurdy, creu mynedfa gerbydol newydd a gwaith cysylltiol : Amod 2 - Amrywio'r cynllun a ganiatawyd er galluogi newid lleoliad yr adeilad arfaethedig o fewn y safle; Amod 9 - newid y geiriad i fynnu cwblhau'r fynedfa a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd cyn defnyddio'r annedd ar ddibenion trigiannol

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio Amod 2 (caniatâd cynllunio C21/0042/25/LL) am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi tŷ deulawr a gwaith cysylltiol, er mwyn caniatáu symud lleoliad y tŷ a ganiatawyd 3m tua’r gogledd ddwyrain. Eglurwyd bod y safle yn cael ei wasanaethu gan fynediad oddi ar Ffordd Penrhos sy'n ffordd sirol dosbarth 3 a bydd ardal barcio, modurdy a phorth car yn cael ei ddarparu fel rhan o'r datblygiad. Bydd cefn y safle yn ffinio llecyn o goed sydd wedi ei ddynodi fel Safle Bywyd Gwyllt Coetir Ffordd Treborth sy’n gwahanu'r safle oddi wrth Canolfan Arddio Treborth.

 

Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig wrth drafod y cais yn amlygu lleihad yn ôl troed yr adeilad o’i gymharu â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nodwyd bod y bwriad o symud lleoliad yr annedd yn deillio o’r angen i osgoi datblygu o fewn y parth clustogi sydd yn ymestyn 4m naill ochr i ganol prif bibell garthffosiaeth sy’n croesi’r safle.

 

Amlygwyd bod y cais hefyd yn cynnwys cynnig i ddiwygio Amod 9 o’r caniatâd blaenorol er hwyluso’r gwaith adeiladu trwy sicrhau i’r fynedfa gerbydol derfynol fod mewn lle cyn defnyddio’r annedd yn hytrach na chyn dechrau datblygu’r safle.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Derbyniwyd neges gan yr aelod lleol yn nodi, yn sgil darllen adroddiad y swyddog a thrafodaethau pellach gyda phreswylwyr yr eiddo agosaf, oedd bellach wedi cadarnhau wrthi nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynnig fel y mae’n sefyll. Fodd bynnag, roeddynt yn pwysleisio'r angen i gadw at y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad o godi tŷ o faint a dyluniad tebyg ar y safle hwn eisoes wedi ei dderbyn drwy ganiatâd C21/0042/25/LL  - nid yw’r polisïau perthnasol wedi newid ers hynny ac felly mae’r caniatâd hwnnw wedi ei weithredu ac yn fyw. Fe ystyriwyd fod yr egwyddor o godi annedd ar y safle yn parhau i fod yn dderbyniol ac yn unol ag egwyddor y polisïau tai cyfredol.

 

Wrth ystyried y lleihad a fu yn ôl troed y datblygiad, yn enwedig yn yr estyniad tua’r gogledd, ynghyd a’r drafodaeth ynghylch yr effeithiau mwynderol, ni ystyriwyd y byddai symud y tŷ hwn i’r lleoliad newydd yn cael effaith mwynderol niweidiol  arwyddocaol ar edrychiad y safle, y patrwm datblygu lleol nag ar fwynderau preifat.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol:

 

Dymchwel y tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gosod suddfan ddŵr a chyfarpar offer trin carthion preifat.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd yn ymwneud â bwriad i ddymchwel tŷ presennol sydd mewn cyflwr adfeiliedig ac adeiladu tŷ newydd yn ei le.  Nodwyd bod y cynlluniau yn dangos y byddai'r tŷ bwriededig yn cadw at batrwm gosodiad yr eiddo presennol ac yn cynnwys sied, ystafell fyw / cegin  cyntedd a swyddfa ar lawr daear a 3 ystafell wely gyda baddon ar y llawr cyntaf. Byddai'r bwriad yn cynnwys codi estyniad cefn ar gyfer cegin ac ystafell wely.

 

Gwasanaethir yr eiddo gan drac preifat cul sy’n cysylltu'r tŷ a ffermdy cyfagos mwy diweddar i’r ffordd sirol dosbarth 3 gerllaw. Nodwyd fod yr eiddo wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac Ardal Tirwedd Arbennig ac yn sefyll y tu allan i unrhyw ffin pentref ac o fewn ardal wledig.

 

Amlygwyd bod Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn ystyried y dylid cyflwyno’r cais i’r pwyllgor Cynllunio oherwydd diddordeb cyhoeddus yn y cais a’r safle a hefyd oherwydd bod perthynas gweithio agos rhwng brawd yr ymgeisydd a’r Adran Cynllunio.

 

Tynnwyd sylw at yr hanes cynllunio perthnasol

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad nodwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le gan ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ac felly gellid cefnogi datblygiad o’r fath. Adroddwyd bod y bwriad yn bodloni gofynion sylfaenol polisïau PS5, PCYFF1 a PS17 o’r CDLI ynghyd a Pholisi TAI 13 sy’n ymwneud yn benodol ac ail-adeiladu tai. Ategwyd bod Polisi TAI 13 yn gosod cyfres o feini prawf sydd rhaid cydymffurfio â hwy (lle bo'n briodol) er mwyn cefnogi cynlluniau o’r fath. Rhoddwyd tystysgrif cyfreithloni datblygiad ar gyfer defnydd arfaethedig yr eiddo fel annedd breswyl yn 06-10-2016 ac felly gellid datgan bod defnydd anheddol cyfreithiol o'r tŷ yn parhau yn ddilys.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yma yn dderbyniol, yn unol â gofynion y polisïau perthnasol a bod yr amodau yn cyfarch pryderon y cyhoedd.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau

 

1.    Yn unol gyda’r cynlluniau

2.    Gweithredu’r caniatâd o fewn 5 mlynedd.

3.    Deunyddiau

4.    Tirlunio a gwarchod coed

5.    Manylion ffiniau / cwrtil

6.    Gwaith ymchwil archeolegol

7.    Tynnu hawliau a ganiateir

8.    Cwblhau’r gwaith yn unol gyda’r adroddiad rhywogaethau gwarchodedig.

 

 

Dogfennau ategol: