Agenda item

Adeiladu 41 o dai fforddiadwy a datblygiadau cysylltiedig 

Aelod Lleol: Cynghorydd  Meryl Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol llecynnau agored ac i’r amodau isod: -

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Tirlunio
  4. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
  5. Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid a Datganiad Gwaredu Rhywogaethau Ymledol.
  6. Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
  7. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
  8. Cydymffurfiaeth gyda chynnwys y ddogfen Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.
  9. Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio.
  10. Cyflwyno a chytuno gydag esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl.
  11. Cyflwyno a chytuno gyda chynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys ail leoli’r ymlusgiaid.
  12. Cyflwyno a chytuno manylion y paneli solar.
  13. Cyfyngu defnydd y tai arfaethedig i Ddefnydd Dosbarth C3 o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd)(Diwygio)(Cymru), 1987 – tai annedd a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa.
  14. Cytuno ar leoliad a math o rwystr sŵn gyferbyn a thai trigolion cyfagos cyn cychwyn gwaith ar y safle

 

Amod/cytundeb 106 ar gyfer adleoli’r ymlusgiaid

Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

Nodyn – cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr Cymru.

Nodyn – cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Cofnod:

Adeiladu 41 o dai fforddiadwy a datblygiadau cysylltiedig

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu 41 tŷ, mynedfa newydd, ffordd stad newydd a gwaith cysylltiedig ar lecyn o dir ar safle sydd wedi ei ddynodi o dan T48 fel safle tai  yn y CDLl. Saif y safle ar lecyn o dir amaethyddol,   a ddefnyddir fel porfa da byw, yng nghanol  Penrhyndeudraeth ac oddi fewn i’r ffin datblygu. Nodwyd bod y  safle yn mesur 1.26ha a gellid rhannu’r cais i wahanol elfennau sy’n cynnwys:-

·      Darparu 41uned breswyl i gynnwys 30 tŷ deulawr (20 tŷ 2 lofft 4 person; 5 tŷ 3 llofft 5 person; 1 tŷ 7 person 4 llofft a 4 tŷ mynediad ochr 5 person); 1 byngalo 2 lofft 3 person; 8 fflat (1 llofft 2 berson); un tŷ cymorth byw 6 llofft 10 person ynghyd ag un byngalo 4 llofft ar gyfer mynediad gadair olwyn.

·      Darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil bob tŷ ac oddi ar y ffordd.

·      Creu mynediad newydd oddi ar Stad Trem y Moelwyn.

·      Creu mynediad troed newydd oddi ar y briffordd gyfagosA.487.

·      Tirlunio a thirweddu meddal a chaled o fewn ac ar ymylon y safle.

·      Cynllun gwelliannau bioamrywiaeth.

·      Darparu llecyn agored anffurfiol i blant ynghyd a llecyn amwynder.

·      Gosod system ddraenio dŵr hwyneb a dŵr aflan i wasanaethu’r datblygiad.

·      Cwlfertio rhan o’r cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle.

 

Adroddwyd y byddai Penrhyndeudraeth yn mynd y tu hwnt i’w lefel dangosol gyda’r datblygiad hwn ac o ganlyniad byddai angen cyfiawnhad gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol drwy ddarparu cymysgedd priodol o dai (Polisi TAI 8). Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth i gefnogi’r cais oedd yn nodi mai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Grŵp Cynefin ynghyd a Clwyd-Alun fyddai’n gweithio law yn llaw i godi’r tai fforddiadwy a dod yn berchnogion ar y safle unwaith bydd y datblygiad wedi ei gwblhau. Nodwyd hefyd bod y cynllun wedi ei gynnwys o fewn rhaglen i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Byddai Grŵp Cynefin yn gyfrifol am 19 tŷ fforddiadwy a Clwyd-Alun yn gyfrifol am 22 tŷ fforddiadwy gyda’r ddaliadaeth yn gymysg o rent cymdeithasol a chanolradd; rhan-berchnogaeth a thai canol radd fforddiadwy ar werth ac mae’r cymysg yma o dai yn ymateb i’r angen lleol am dai fforddiadwy ym Mhenrhyndeudraeth.

 

Yng nghyd-destun materion addysgol, cadarnhawyd bod digon o gapasiti yn ysgolion y dalgylch, sef, Ysgol Gynradd Cefn Coch ac Ysgol Ardudwy i ymdopi gyda nifer arfaethedig o blant gellid ei ddisgwyl o ganiatáu’r bwriad hwn.

 

Yng nghyd-destun materion llecynnau agored nodwyd bod darpariaeth o lecynnau agored anffurfiol i’w leoli yng nghanol y safle a fyddai yn rhoi cyfle i’r darpar feddianwyr ei ddefnyddio, yn ogystal â thrigolion eraill lleol. Mae’r ddarpariaeth yma o lecynnau agored anffurfiol ar wahân ac yn ychwanegol i’r angen ar gyfer llecynnau chwarae ffurfiol/anffurfiol i blant a llecynnau chwaraeon awyr agored. Er hynny, nodwyd bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant a llecynnau chwaraeon awyr agored yn nalgylch safle’r cais ac fe gyflwynwyd datganiad hyfywedd gyda’r cais yn datgan pe  byddai angen darparu llecynnau chwarae agored i blant disgwyliedig, byddai hyn yn golygu colli nifer o dai gan wneud y datblygiad yn anhyfyw. Ategwyd bod yr ymgeiswyr eisoes wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gyda’r Cyngor Cymuned ynglŷn â gwneud cyfraniad ariannol tuag at wella cyfleusterau Parc Mileniwm sydd wedi ei leoli yng nghanol y dref drwy arwyddo cytundeb cyfreithiol i wireddu’r cyfraniad.

 

Ystyriwyd y byddai’r bwriad, fel y’i diwygiwyd yn dderbyniol mewn egwyddor  ac  y byddai’r unedau fforddiadwy yn cyfrannu’n helaeth at anghenion tai fforddiadwy Penrhyndeudraeth. Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion lleol a’r ymgynghorwyr statudol, fodd bynnag, ni adnabuwyd unrhyw effaith sylweddol niweidiol sydd yn groes i bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·           Bod y swyddogion Cynllunio yn cefnogi’r cais

·           Bod safle’r cais wedi ei glustnodi ar gyfer datblygu tai

·           Bod y cais yn cynnig mwy na’r 10% o ddarpariaeth tai fforddiadwy - 41 yn hytrach na 4.1%

·           Bod y cynllun yn cyfarch yr angen lleol

·           Bod pryderon draenio bellach yn cael ei rheoli ar y safle a’r trefniant wedi ei gymeradwyo gan CNC

·           Bod llygredd golau a phreifatrwydd cymdogion wedi ei ystyried

·           Bod adolygiad manwl wedi ei wneud o ecoleg y safle gyda chynllun tirwedd gynhwysfawr wedi ei lunio mewn ymateb

·           Bod gofal wedi ei gymryd wrth ystyried y fynedfa

·           Amcanion o gynnal a hybu’r iaith wedi eu croesawu

·           Bod trafodaethau ynglŷn â llecyn chware wedi dechrau gyda’r Cyngor Tref

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Ei bod yn gefnogol i’r cais

·         Croesawu bod y fynedfa yn fwy

·         Balch bod y problemau dwr wedi eu sortio

·         Bod pobl leol yn cael blaenoriaeth

 

          ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chael sicrwydd mai trigolion Penrhyndeudraeth fydd yn cael eu gosod yn y tai, nododd y Pennaeth Cynorthwyol y byddai’r tai yn cael eu gosod yn unol â  Pholisi Gosod y Cyngor gyda’r Rheolwr Cynllunio yn ategu y bydd amod tai fforddiadwy yn sicrhau bod yr angen lleol yn cael ei gyfarch, ond nad oedd hyn yn cyfyngu’r angen i ardal benodol.

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol llecynnau agored ac i’r amodau isod: -

 

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.     Tirlunio

4.     Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.

5.     Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid a Datganiad Gwaredu Rhywogaethau Ymledol.

6.     Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.

7.     Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

8. Cydymffurfiaeth gyda chynnwys y ddogfen Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

9.     Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio.

10.   Cyflwyno a chytuno gydag esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl.

11.   Cyflwyno a chytuno gyda chynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys ail leoli’r ymlusgiaid.

12.   Cyflwyno a chytuno manylion y paneli solar.

13.   Cyfyngu defnydd y tai arfaethedig i Ddefnydd Dosbarth C3 o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd)(Diwygio)(Cymru), 1987 – tai annedd a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa.

14.   Cytuno ar leoliad a math o rwystr sŵn gyferbyn a thai trigolion cyfagos cyn cychwyn gwaith ar y safle

15.   Cytundeb 106 ar gyfer adleoli’r ymlusgiaid

 

Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

Nodyncyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr Cymru.

Nodyncyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Dogfennau ategol: