Adroddiad
gan Kathy Bell, (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion), Hywyn Lewis Jones
(Cyfrifydd Grŵp Addysg, Economi a Chymuned) a Ffion Madog Evans (Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, Cyfrifeg a Phensiynau – Adroddiad i ddilyn
Cofnod:
Ymddiheurwyd gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod y
papur yn hwyr yn cael ei ddosbarthu, ond gobeithiwyd bod y neges, ar fater
cymhleth iawn, wedi cael ei roi drosodd mewn modd syml. Tywyswyd Aelodau y Fforwm drwy y papur, oedd
wedi ei gynhyrchu mewn ymateb i gais o’r Grŵp Uwchradd, yn gofyn am
eglurhad ar sut mae arian yn cyrraedd y Cyngor ac yn cael ei rannu.
Amlinellwyd y cefndir a arweiniodd at y sefyllfa, gan
nodi y bu i Lywodraeth Cymru ddatgan codiad o 5%. Diwedd Mawrth cynigwyd 3% gan Lywodraeth
Cymru, gyda chodiad pellach o 1.5% a 1.5% heb ei gyfuno fel cynnig cyflogau
athrawon.
O ran Cyngor Gwynedd, cadarnhawyd bod 3% wedi ei
glustnodi yn y gyllideb wreiddiol ar gyfer codiadau athrawon, ond gan mai 5%
oedd y codiad, bod bwlch amlwg. Mewn
ymateb, bu i Gyngor Gwynedd ryddhau 1%, ac yn dilyn trafodaethau gyda CLlLC, bu
i Cyngor Gwynedd ymdrin â’r 1% arall.
O ran y 3%, bu i Lywodraeth Cymru ddatgan y byddent yn
rhoi grant – hynny yw 1.5% am saith mis a 1.5% heb ei gyfuno am flwyddyn
academaidd gyfan, sef £1.1 miliwn.
Cadarnhawyd, er mwyn cau y cyfrifon, rhaid oedd
amcangyfrif y swm, ond roedd yr ymdeimlad nad oedd wedi bod yn ddigon i lenwi y
bwlch.
Cadarnhawyd ymhellach bod y setliad ar sail data, gyda’r
arian wedi cyrraedd Cyngor Gwynedd ac yna’r Cyngor yn penderfynu ar y dyraniad
i ysgolion unigol ar sail fformiwla.
Nodwyd bod bob ceiniog wedi ei thargedu ac yn cyrraedd ysgolion. £480,000 oedd y grant, sef 1.5% parhaol a
£638,000 unwaith ac am byth, oedd yn grant llawn. Nodwyd bod elfen o grant Chweched Dosbarth
hefyd. Adroddwyd bod y gêm yn newid ar
bob cam a’i bod yn gymhleth iawn.
Tynnwyd sylw at y sgil effeithiau, gan nodi er bod pawb yn derbyn bod
rhaid cael ffordd i ddyrannu, bod y sefyllfa yn effeithio ar y staff sydd yn
cael eu cyflogi gan Ysgolion, ac nid y staff sydd yn dysgu.
Cadarnhawyd bod yr Awdurdod wedi dyrannu’r grant ar sail
lefel staffio ‘FTE’ sydd yn y fformiwla ond bod sefyllfaoedd lle mae
gwahaniaeth rhwng y nifer o staff sydd yn y fformiwla yma a faint sydd yn cael
eu cyflogi. Ehangwyd ar hyn gan nodi bod
y bwlch sylweddol oherwydd y fethodoleg.
Holiwyd ymhellach am ffigwr ar gyfer costau staff dysgu a’r hyn mae
Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau. Roedd
Aelodau y Fforwm yn gytûn ei bod yn sefyllfa annheg iawn.
Nododd y Cadeirydd nad oedd y cynnydd yng nghyflogau
staff ategol wedi ei gwrdd yn 2022/23, ac nad oedd penderfyniad wedi ei wneud
ar godiadau hyd yma. Nododd y Rheolwr
Cyllid bod canran uwch wedi ei glustnodi ar gyfer 2023/24, ond nid oedd unrhyw
sicrwydd y byddai yn ddigonol.
Codwyd y pryder bod rhai ysgolion a balansau i allu
amsugno y sefyllfa, a chwestiynwyd a oes arian cyfatebol yn dod i Gymru? Cadarnhawyd mai mater i Lywodraeth Cymru yw
hyn, ond nad oes rheidrwydd arnynt i wneud unrhyw beth.
Nododd un Aelod bod Llywodraeth San Steffan wedi
cadarnhau beth oedd y codiad yn Lloegr, ond heb roi arian ar ei gyfer, oedd eto
yn bryder gan na fyddai arian ychwanegol (“consequential”) yn cyrraedd
Cymru.
Cwestiynwyd sut bod ambell i Sefydliad yn cael sicrwydd
am lefel eu cyllideb dros 2 i 3 blynedd.
Nodwyd nad oes unrhyw sefydliad yn cael sicrwydd erbyn hyn - rhagolygon
yn unig fyddai y rhain. Ehangwyd ar hyn
gan gadarnhau nad oes modd rhoi sicrwydd i sefydliadau gan fod y ffigwr hwn yn
ddibynnol ar y setliad.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod rhagolygon ariannol
am y flwyddyn ariannol i ddod, ddim yn edrych yn dda o ran Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD : derbyn yr adroddiad a chael diweddariad yn
y cyfarfod nesaf.
Dogfennau ategol: