Agenda item

I ysytired yr adroddiad a nodi’r wybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi i ddiweddaru’r Bwrdd o’r gwaith monitro chwarterol (a blynyddol) sydd yn cael ei wneud gan y Panel Buddsoddi ar berfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Adroddwyd y gwelwyd gwerth y farchnad wedi lleihau rhywfaint a’r Gronfa wedi sefydlogi ar £2.7 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Nodwyd bod perfformiad y Gronfa dros y flwyddyn yn -1.5% a hynny o fewn blwyddyn heriol gydag effeithiau rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel, ond amlygwyd bod perfformiad 3 mis wedi dechrau gwella, a hynny yn parhau yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol newydd. Ategwyd, bod sefyllfa fel hyn yn gyffredin i gronfeydd cynlluniau pensiwn llywodraeth leol, a bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd yn parhau i fod o fewn chwartel uchaf cronfeydd Prydain.

 

Cyfeiriwyd at berfformiad y Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti gan nodi er bod perfformiad 3 mis wedi bod yn bositif bod tystiolaeth o berfformiadau negyddol dros y flwyddyn a hynny yn amlwg oherwydd perfformiad y Marchnadoedd Datblygol oherwydd bod marchnadoedd Tsiena yn arafach na’r disgwyl yn ail agor yn dilyn cyfyngiadau covid-19.  Yng nghyd-destun perfformiad Rheolwyr Incwm Sefydlog nodwyd eu bod hwythau hefyd wedi cael cyfnod anodd hefyd gydag ansefydlogrwydd cyfraddau llog a chwyddiant ledled y byd.

 

Wrth drafod Rheolwyr Eiddo, amlygwyd bod y sector wedi wynebu cyfnod heriol gydag ansicrwydd defnydd hirdymor adeiladau swyddfa a siopau stryd fawr. Mewn ymateb, adroddwyd bod y cronfeydd mae’r Gronfa yn buddsoddi â hwy, yn tueddu o arall gyfeirio at adeiladau fel warws Amazon a siopau tu allan i drefi, mewn ymgais i  reoli'r newid er budd y gronfa. Yng nghyd-destun Grwp Partners (sydd yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau ecwiti preifat ac isadeiledd y Gronfa, nodwyd ei bod yn anodd mesur eu perfformiad mewn cyfnod penodol oherwydd oediad amser (time lag) ac felly nid yw’r gwir berfformiad yn cael ei fesur hyd nes y bydd y gronfa wedi cau yn derfynol. Er hynny ategwyd bod Partners yn perfformio yn dda ac nad oedd Hymans wedi codi pryderon ynglŷn â’u ffigyrau.

 

Nodwyd bod perfformiad y Gronfa yn cael ei asesu’n rheolaidd er mai buddsoddi tymor hir yw’r amcan. Amlygwyd bod perfformiad tair blynedd wedi bod yn un safonol iawn a’r Gronfa yn y 3ydd safle allan o holl gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol, mewn sefyllfa gref. O ganlyniad, ac yn dilyn y prisiad teirblynyddol lle, ar 31 o Fawrth 2022 roedd y gronfa wedi ei gyllido i 120%, cafwyd cyngor gan Hymans i leihau risg y gronfa. Golygai hyn y bydd lleihad o 10% mewn ecwiti'r gronfa gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn cronfeydd dyled preifat, isadeiledd a chredyd byd-eang drwy PPC. Y bwriad yw gweithredu’r newid yma dros y 12 mis nesaf, er yn ddiweddar derbyniwyd gwybodaeth bod lefel cyllido’r Gronfa wedi cynyddu ymhellach i 160% ac felly bydd angen cynnal trafodaethau gyda Hymans i adolygu lefelau’r ecwiti ymhellach.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y swyddogion ar ganlyniad perfformiad tair blynedd gyda’r gronfa yn y 3ydd safle (allan o 100) - hyn yn newyddion calonogol iawn.

 

Mewn ymateb i sylw o’r bwriad i fuddsoddi mewn eiddo nad yw ar y stryd fawr, nodwyd bod y sefyllfa ‘draddodiadol’ wedi newid ers cyfnod covid-19 a bod rheolwyr buddsoddi bellach yn edrych ar y ‘math’ o eiddo i fuddsoddi ynddo (e.e., tai yn hytrach na siopau). Ategwyd bod PPC yn gweld cyfle da yma i adolygu’r portffolio eiddo yn ei gyfanrwydd gan ystyried cyfleoedd yng Nghymru neu eiddo rhyngwladol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

 

Dogfennau ategol: