Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau,
i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1. Nodi Adroddiad Perfformiad
Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i ddiweddaru.
2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad
Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ymhelaethodd y
rheolwyr rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.
PENDERFYNWYD
1.
Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a
Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i ddiweddaru.
2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter
1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r
awdurdodau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun
Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr
adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau
craffu'r awdurdodau lleol.
TRAFODAETH
Llongyfarchwyd
Elgan Roberts ar ei benodiad i olynu Henry Aron fel Rheolwr Rhaglen Ynni a
dymunwyd yn dda iddo yn y swydd.
Eglurwyd, fel dyrchafiad mewnol, bod hyn yn lleihau rhywfaint ar y
capasiti o fewn y rhaglen am gyfnod, ond y byddai hynny’n cael ei reoli dros y
misoedd nesaf.
Diolchwyd i’r
swyddogion am baratoi’r adroddiad, a nodwyd ei bod yn ddiddorol gweld cynnydd
mewn rhai meysydd.
Holodd y
Cynghorydd Mark Pritchard a oedd ganddo’r hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth a
phleidleisio ar y mater gan fod cyfeiriad yn yr adroddiad at Brosiect Porth y
Gorllewin, Wrecsam, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam. Mewn ymateb, eglurwyd, er bod
yna fuddiant, bod eithriad yn y Cod sy’n caniatáu i’r arweinyddion gymryd rhan
lawn yn y drafodaeth a phleidleisio ar y mater.
Ychwanegodd y
Cadeirydd nad oedd yna benderfyniadau i’w gwneud ar brosiectau unigol yn yr
achos hwn beth bynnag, gan mai adroddiad cynnydd oedd gerbron y Bwrdd.
Nodwyd na chredid
bod modd i Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam fynd yn ei flaen gan fod arian y
Llywodraeth wedi’i dynnu nôl, ac awgrymwyd y dylai’r prosiect gael ei ddiddymu
cyn gynted â phosib’, fel nad yw swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru yn
gwastraffu eu hamser. Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Yn
dilyn y pryder a fynegwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd ynglŷn â’r
prosiect hwn, y cyfarfu swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru â swyddogion o
Gyngor Wrecsam, ac y deellid bod Cyngor Wrecsam yn gweithio ar gynllun sy’n
edrych ar sut y gellir symud y prosiect yn ei flaen.
·
Unwaith
y bydd y cynllun ar gael, bydd yn cael ei adolygu gan swyddogion Uchelgais
Gogledd Cymru, a phe byddent o’r farn nad oes ffordd hyfyw ymlaen, yna byddai’n
rhaid cyflwyno adroddiad i’r Bwrdd gydag argymhelliad ar y ffordd ymlaen, fel
gydag unrhyw brosiect arall mewn sefyllfa gyffelyb.
·
Y
gallai noddwr y prosiect benderfynu tynnu nôl neu gyflwyno cais i newid, ac eto
byddai hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid i’r Bwrdd ei ystyried.
·
Na
chredid ein bod yn y sefyllfa honno ar y funud, gan fod swyddogion Cyngor
Wrecsam yn gweithio ar gynllun ar hyn o bryd.
Pwysleisiodd aelod
arall na ddylid rhoi’r gorau i Brosiect Porth y Gorllewin, Wrecsam, ac y dylai Llywodraeth
Cymru a’r Gweinidog fod yn ymwybodol y gallai eu penderfyniad i dynnu’r arian
yn ôl beryglu prosiect pwysig iawn o fewn y Cynllun Twf. Holwyd a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol
o’r risg, ac os felly, nodwyd ei bod yn bwysig i’r Bwrdd wybod bod y
penderfyniad ar yr adolygiad ffyrdd wedi’i wneud er gwaethaf y mathau yma o
risgiau. Mewn ymateb, nodwyd bod
swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru wedi cynnal cyfarfodydd briffio anffurfiol
gyda’u cysylltiadau yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG ynghylch y
sefyllfa’n gyffredinol o ran y Cynllun Twf, ond y deellid bod yr ymgysylltu
gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion y prosiect penodol hwn yn digwydd yn bennaf
drwy Gyngor Wrecsam, gan mai hwy sy’n arwain ar y prosiect.
Nododd y prif
swyddog o Gyngor Wrecsam:-
·
Bod
y Cyngor mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a’u bod hefyd
yn edrych ar gapasiti’r rhwydwaith ffyrdd presennol er mwyn gweld oes modd
darparu ar gyfer datblygiad Porth y Gogledd.
·
Bod
Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddent, fel rhan o’r penderfyniad ar yr
adolygiad ffyrdd, yn edrych ar opsiwn amgen cynaliadwy ar gyfer y rhan yna o
Wrecsam, ac roedd y trafodaethau’n parhau ynglŷn â hynny.
·
Er
bod yr adolygiad ffyrdd wedi creu heriau o ran capasiti, y credai y byddai’n
gynamserol i ddiddymu’r prosiect ar hyn o bryd.
Nodwyd bod y Bwrdd
Cyflawni Busnes yn gwneud eu gorau i ddenu buddsoddwyr mawr rhyngwladol i
Ogledd Cymru a bod yna lawer o botensial i’r sector breifat fod yn rhan o
hynny. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
y gwaith gyda chwmni Savills, y mae’r Bwrdd Cyflawni Busnes hefyd yn rhan
ohono, wedi amlygu yn gynnar iawn bod yna fuddsoddwyr sylweddol yn chwilio am
brosiectau hyfyw ac yn edrych tuag at Ogledd Cymru, nid yn unig rhai o’r
buddsoddwyr mwy sydd eisoes yn y rhanbarth, ond hefyd rhai o’r buddsoddiadau
cronfa mwy sy’n awyddus i gefnogi’r agenda ffyniant bro a buddsoddi mewn
ardaloedd o angen socio-economaidd, ac y dylem fod yn manteisio arnynt.
·
Ar
lefel ranbarthol, pe gellid harneisio’r cydweithio er mwyn torri drwodd at rai
o’r buddsoddwyr a’r cronfeydd hyn, y gellid dod â llawer mwy o gyllid i Ogledd
Cymru, yn ychwanegol at y buddsoddiad sy’n dod drwy’r Cynllun Twf.
·
Bod
yna gyfle enfawr o ran buddsoddwyr, ac un o’r pwyntiau sy’n cael eu gwneud yn
aml gan fuddsoddwyr yw pa mor dda yw’r cydweithio yng Ngogledd Cymru.
Holwyd beth oedd
amserlen y gwaith gyda Savills. Mewn
ymateb, nodwyd:-
·
Y
byddai’r gwaith yn digwydd dros yr haf ac y gobeithid cynnal digwyddiad o
gwmpas dechrau mis Awst i ddod â Savills i’r Gogledd er mwyn rhoi trosolwg
iddynt o’r cyfleoedd sydd yma.
·
Bod
y gwaith yn cael ei arwain gan Nick Bennett, sy’n Ogleddwr, ac yn deall y
rhanbarth yn dda iawn, yn ogystal â deall gwleidyddiaeth a’r maes buddsoddi.
·
Y
disgwylid y byddai’r cwmni yn adrodd yn ôl ar ganlyniad y gwaith erbyn diwedd
yr haf.
Diolchwyd i’r Rheolwr Gweithrediadau a’i dîm
am y gwaith.
Dogfennau ategol: